News

Alex Davies i ymuno â Chymru fel Hyfforddwr Cicio

Alex Davies
Bydd Davies yn dechrau yn ei swydd lawn amser gyda Chymru ar 1 Medi

Mae Alex Davies wedi ei benodi i ymuno â thîm hyfforddi Steve Tandy fel hyfforddwr arbenigol ar gyfer cicio.

Ar hyn o bryd mae Davies yn hyfforddwr cynorthwyol gyda Chaerŷr, a bydd yn dechrau yn ei swydd lawn amser gyda Chymru ar 1 Medi.

Bydd Alex Davies yn cydweithio’n agos gyda’r Hyfforddwr Ymosod, Matt Sherratt a bydd hefyd yn arwain y gwaith o ddatblygu athroniaeth sgiliau cicio tîm hŷn y dynion, yn ogystal â meithrin hunaniaeth ac arddull chwarae timau Cymru ar draws y llwybr datblygu ehangach. Fel rhan o’i rôl, bydd Davies hefyd yn hyfforddi chwaraewyr y tu allan i gyfnodau ymgyrchoedd rhyngwladol Cymru, er mwyn parhau â’u datblygiad a’u cynnydd.

Yn gyn-faswr a mewnwr, cafodd Davies yrfa barhaodd am 16 mlynedd, ac yn ystod y cyfnod hwnnw fe gynrychiolodd glybiau Caerfaddon, Carnegie Sir Efrog a’r Cymry yn Llundain. Symudodd i faes hyfforddi ar ôl iddo ymddeol o chwarae ym mis Mehefin 2020. Fe gafodd ei benodi yn hyfforddwr sgiliau a chicio tîm cyntaf Caerlŷr yn 2023 a chyn hynny bu gyda’r Wasps am gyfnod o dair blynedd. Mae hefyd wedi cael profiad o weithio gyda thîm rhyngwladol Menywod Lloegr, tîm cenedlaethol yr Iseldiroedd a Rosslyn Park fel hyfforddwr cicio/ymosod.

Alex Davies

Dywedodd Steve Tandy: “Mae’n wych cael cadarnhau bod Alex yn ymuno â’r tîm hyfforddi. Mae’n hyfforddwr talentog iawn a bydd yn gaffaeliad gwerthfawr arall i ni fel grŵp. Alla i ddim aros iddo ymuno â ni a’n helpu ni i barhau i lunio ein hunaniaeth wrth i ni edrych ymlaen at ein tair gêm gartref ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd fis Tachwedd.”

Wrth siarad am ei benodiad, ychwanegodd Alex Davies: “Rwy’n hynod falch o fod yn ymuno â Chymru fel hyfforddwr cicio. Bydd cydweithio gyda Steve Tandy a’r tîm hyfforddi rhagorol sydd yno’n barod yn brofiad arbennig.

“Mae’n anrhydedd enfawr cynrychioli rygbi Cymru ac yn gyfle rwy’n hynod ddiolchgar am y cyfle yma. Mae siwrnai gyffrous o flaen rygbi Cymru ac alla i ddim aros i ddechrau ar fy ngwaith.”

Dywedodd Cyfarwyddwr Rygbi a Pherfformiad Elît Undeb Rygbi Cymru, Dave Reddin: “Ry’n ni wrth ein bodd ein bod yn gallu ychwanegu Alex at dîm hyfforddi llawn amser Cymru. Gwnaeth argraff fawr arnom mewn proses gyfweld hynod gystadleuol ac rwy’n gwybod y bydd yn ychwanegu gwerth gwirioneddol at dîm hyfforddi Steve yn ogystal â chwarae rhan allweddol wrth feithrin ein hunaniaeth a’n harddull ni o chwarae ymhellach.”

Related Topics