News

Y broses o benodi aelodau newydd i fwrdd Undeb Rygbi Cymru wedi dechrau

Mae John Manders yn cadeirio cyfarfodydd Bwrdd yr Undeb yn ystod y broses benodi

Mae Undeb Rygbi Cymru (URC) ar hyn o bryd yn hysbysebu i benodi dau Aelod Bwrdd Annibynnol i’w Fwrdd Rygbi Proffesiynol (BRP), gyda’r disgwyliad y bydd un o’r rheiny’n gweithredu fel Cadeirydd.

Bydd Cadeirydd y Bwrdd Rygbi Proffesiynol yn aelod o Fwrdd Undeb Rygbi Cymru, sydd hefyd ar hyn o bryd yn y broses o benodi Cadeirydd newydd. Fel y cyhoeddwyd yr wythnos ddiwethaf, mae cwmni annibynnol arbenigol GatenbySanderson yn gyfrifol am y tri phenodiad allweddol bwysig yma – er mwyn sicrhau annibyniaeth, tegwch a thryloywder trwy gydol y broses.

Mae’r swydd ddisgrifiad ar gyfer rolau’r Bwrdd Rygbi Proffesiynol, sydd â dyddiad cau ddydd Llun y 3ydd o Awst, yn dweud: “Nid penodiadau Bwrdd nodweddiadol mo’r rhain. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus wrth wraidd penderfyniadau a fydd yn llywio dyfodol y gêm broffesiynol yng Nghymru am flynyddoedd i ddod.”

Mae John Manders, Cadeirydd Bwrdd Cymunedol Undeb Rygbi Cymru, ar hyn o bryd yn cadeirio cyfarfodydd Bwrdd yr Undeb dros dro, yn rhinwedd ei swydd yn Îs-gadeirydd y Bwrdd hwnnw, a bydd yn gwneud hynny hyd nes y bydd y broses o bendodi Cadeirydd annibynnol newydd wedi ei chwblhau.

Dywedodd John Manders: “Bydd y ddau benodiad allweddol bwysig yma’n cyd-fynd â phenodiad Cadeirydd annibynnol Undeb Rygbi Cymru.

“Mae’r newidiadau yn llywodraethiant yr Undeb, gefnogwyd gan dros 97% o’n haelodau a’n clybiau yn 2023, wedi ein cynorthwyo i benodi ystod mwy eang ac amrywiol o unigolion o’r byd proffesiynol ar ein Byrddau ac ar bwyllgorau sy’n delio â phob agwedd o’r gêm.

“Rydym wedi gweld newid cadarnhaol yn niwylliant ein Bwrdd ac hefyd wedi gwella’n heffeithiolrwydd o’r herwydd hefyd.

“Bydd Cadeirydd y Bwrdd Rygbi Proffesiynol, a’r aelod newydd arall o’r BRP, wrth galon ein gweithredoedd strategol, fydd yn allweddol wrth i ni warchod dyfodol ein gêm broffesiynol yma yng Nghymru.

“’Rydym yn ddiolchgar iawn i Malcolm Wall fu’n Gadeirydd ar y Bwrdd Rygbi Proffesiynol tan fis Mawrth ac hefyd i’r Cadeirydd dros dro Marianne Økland, am eu cyfraniadau sylweddol er lles rygbi Cymru trwy eu gwasanaeth ar y Bwrdd Rygbi Proffesiynol.
“Fe all yr ymgeiswyr cywir wneud gwahaniaeth mawr a chadarnhaol i ddyfodol ein gêm.

Mae ymrwymiad yr Undeb i foderneiddio strwythurau’r gêm broffesiynol, wrth symud i dri o dimau erbyn dechrau tymor 2028 yn parhau’n bendant a chadarn Mae’r Bwrdd Rygbi Proffesiynol wrth wraidd prosesau gwneud penderfyniadau ynghylch pob agwedd ar rygbi proffesiynol yng Nghymru.
Mae’n goruchwylio strategaeth, perfformiad a chynaliadwyedd ariannol, gan ddod ag arweinwyr Undeb Rygbi Cymru, clybiau proffesiynol, cynrychiolwyr chwaraewyr a lleisiau annibynnol ynghyd er mwyn helpu i arwain cyfeiriad y gêm.

Wrth i’r gêm barhau i ddatblygu, mae’r BRP yn arwain cyfnod o newid sylweddol, gan gynnwys newidiadau posibl i strwythur y model proffesiynol, a fydd yn gofyn am grebwyll gofalus, llywodraethu cadarn a gwaith meddwl clir drwy’r system gyfan.

Related Topics