Ar ôl sicrhau buddugoliaeth arbennig o ddramatig o 38-36 yn erbyn Awstralia yn rownd gynderfynol y gemau ar gyfer y pumed safle ddydd Sul – mae Richard Whiffin yn gobeithio bod cyfnod canran sylweddol o’i garfan am ddod i ben, gyda buddugoliaeth yn erbyn Yr Alban yn Tbilisi ddydd Gwener. (5.30pm)
Y fuddugoliaeth dros y Wallabies ifanc oedd y gyntaf i fechgyn D20 Cymru dros genedl o Bencampwriaeth Rygbi Hemisffer y De ers 2019.
Pe byddai carfan Whiffin yn ennill ddydd Gwener, dyna fyddai’r tro cyntaf ers 2013 i’r Cymry ifanc ennill pedair gêm yn y Bencampwriaeth hon – a dim ond y trydydd tro’n eu hanes iddyn nhw lwyddo gwneud hynny.
Mae’r cyd-gapten Steff Emanuel yn ei drydydd tymor gyda’r garfan a bydd yn dod yn gyfartal â record Morgan Morse o 24 cap ar lefel Dan 20 os bydd yn chwarae unrhyw ran yn y gêm.
Ymhlith y chwaraewyr eraill sy’n gorffen eu cyfnod ar y lefel hon mae’r cyd-gapten arall Deian Gwynne, ei gyd-chwaraewr yng Nghaerloyw Caio James, y prop pen tynn Jac Pritchard, wythwr y Dreigiau Evan Minto, a Tom Bowen a Siôn Davies o Rygbi Caerdydd.
Roedd hi’n ymddangos bod Awstralia wedi cipio’r fuddugoliaeth yn greulon o hwyr nos Sul, tan i’r dyfarnwr teledu o Bortiwgal Paulo Duarte, a’r dyfarnwr Robbie Jenkinson sylwi fod y bêl wedi ei tharo ymlaen yn gynharach yn ystod y symudiad.
Rhyddhad a buddugoliaeth enfawr i Gymru wrth iddyn nhw guro’r Wallabies ifanc am ond yr eildro mewn chwe chyfarfyddiad.
Dywedodd Richard Whiffin:“Dwi’n credu i mi brofi pob emosiwn tra’r oedd y Dyfarnwr Teledu’n adolygu cais Awstralia yn ystod yr eiliadau olaf. Hyd yn oed cyn i’r penderfyniad fynd o’n plaid – rhwystredigaeth oedd fy mhrif emosiwn – gan ein bod bron â thaflu’r gêm i ffwrdd ar ôl chwarae mor dda am gyfnodau helaeth o’r ornest. Wnaethon ni ddim gwneud pethau’n hawdd i ni’n hunain – mae hynny’n saff.
“Fe ddangoson ni ambell gyfnod o wir ddawn a chyd-chwarae, ac wedyn ambell wall elfennol y mae’n rhaid i’r bechgyn eu gwneud yn well.
“Dyma’r tro cyntaf i ni guro tîm o Bencampwriaeth Rygbi Hemisffer y De ers 2019 ac ry’n ni wrth ein bodd â’r canlyniad. Roedd hi wastad yn mynd i fod yn gêm llawn pwyntiau gan eu bod nhw’n hoffi symud y bêl fel ninnau.
“Mae gennym ni rai unigolion arbennig iawn sy’n gwneud i’r tîm daro deuddeg, ac mae’n bleser eu gwylio gyda’r bêl. Wedi dweud hynny, roedd Josh Turnbull yn tynnu ei wallt o’i ben gyda’n gwaith wrth amddiffyn ambell waith.
“Pan ry’n ni ar ein gorau, ry’n ni’n dîm arbennig. Fe gawson ni gyfnodau o 10-15 munud, fwy nac unwaith yn ystod y gêm, lle’r oedden ni’n arbennig o gyffrous, trefnus a bron â bod yn amhosib i’n hatal, ac mae’n braf iawn gwybod bod y gallu hynny gan y bechgyn.
“Mae’r grŵp yma’n glòs, yn unedig ac yn gweithio’n galed dros ei gilydd. Roedd hynny’n amlwg pan oedden ni ddyn y brin ddwywaith nos Sul.
“Mae cerdiau yn rhan amlwg o’r gêm fodern erbyn hyn ac mae’n rhaid i chi ddod i arfer â hynny a gallu ymdopi â’r sefyllfaoedd hynny.
“Y peth pwysig yn y pendraw oedd y ffaith i ni guro Awstralia a bod holl waith caled y garfan wedi cael ei wobrwyo gyda’r llwyddiant hwnnw.”
Hon oedd nawfed buddugoliaeth tîm o Gymru mewn 29 gêm yn erbyn gwrthwynebwyr o Bencampwriaeth Rygbi Hemisffer y De ers 2008, pan gynhaliodd Cymru y gystadleuaeth gyntaf un.
