Mae Undeb Rygbi Cymru wedi ymuno’n swyddogol â’r mudiad byd-eang dros gydraddoldeb rhywiol ym maes gweithgarwch corfforol a chwaraeon, drwy lofnodi Datganiad Brighton & Helsinki y Gweithgor Rhyngwladol (IWG) ar gyfer Menywod a Chwaraeon.
Llofnodwyd y ddogfen yn Birmingham ar 11 Gorffennaf 2026 yn Uwchgynhadledd Fyd-eang y Gweithgor Rhyngwladol – sef prif gorff y byd yng nghyd-destun canolbwyntio ar gydraddoldeb rhwng y rhywiau yn y byd chwaraeon.
Mae’r ymrwymiad ffurfiol hwn yn atgyfnerthu ymroddiad Undeb Rygbi Cymru i greu diwylliant cynhwysol, diogel a chadarnhaol i fenywod a merched ar bob lefel o’r gamp yn ein gwlad. Mae hyn hefyd yn cael ei atgyfnerthu gan lywodraethiant flaengar, diwylliant gadarn o gynhwysiant, a buddsoddiad hanfodol yn Rygbi Merched a Menywod.
Drwy ymuno â rhwydwaith cydweithredol o dros 700 o sefydliadau ym mhedwar ban y byd, mae Undeb Rygbi Cymru’n sicrhau bod ei amcanion a’i nodau strategol yn cyd-fynd â safonau rhyngwladol, sydd hefyd o’r herwydd yn sicrhau atebolrwydd am ei uchelgeisiau.
Dywedodd Liam Scott, Pennaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) Undeb Rygbi Cymru, am weledigaeth y sefydliad ar gyfer y dyfodol: “Mae rygbi, ein camp genedlaethol, yn llawer mwy na gêm. Mae rygbi Cymru’n ddylanwadol a phwerus wrth ddod â chymunedau at ei gilydd, creu cysylltiadau ac estyn croeso cynnes i bawb. Mae rygbi Cymru’n cynnig y cyfle i bawb gymryd rhan – ar y cael neu oddi arno – ac mae’r cyfraniadau hynny’n cael eu gwerthfawrogi’n fawr.
“Ein nod yw creu amgylcheddau rygbi yn ein cymunedau sy’n croesawu ac yn cefnogi unigolion o bob rhywedd a chefndir, gan sicrhau bod pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu parchu a’u hysbrydoli i chwarae eu rhan yn y gamp. Mae hynny’n bwysig a pherthnasol hefyd o safbwynt y prosesau o wneud penderfyniadau am ddyfodol y gamp er mwyn cynnig mwy o gyfleodd i bawb gymryd rhan ynddi.”
Mae Undeb Rygbi Cymru’n gwireddu ei ymrwymiadau at Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant trwy ei strategaeth ‘Crys i Bawb’ sy’n gyrru’r datblygiadau cynaliadwy yma o lawr gwlad hyd at lefel uchaf y gamp.
Mae cynlluniau blaengar wedi eu cyflwyno, megis cysylltu cyllid clybiau â chydraddoldeb rhwng y rhywiau ar bwyllgorau, a gweithio tuag at gyrraedd 10,000 o chwaraewyr benywaidd wedi eu cofrestru drwy Hybiau Cymunedol rhanbarthol a Chanolfannau Datblygu Chwaraewyr.
Yn ogystal â buddsoddiad trawsnewidiol o £5 miliwn yn y Llwybr Datblygu a Pherffomiad hyd at 2030, mae’r Undeb hefyd wedi sefydlu dau dîm lled-broffesiynol i fenywod ar gyfer yr Her Geltaidd. Bydd yr ymrwymiad hwnnw’n cryfhau eto’r flwyddyn nesaf ar gyfer y 45 o chwaraewyr fydd â chytundebau llawn amser.
Croesawodd Annamarie Phelps, Cyd-gadeirydd y Gweithgor Rhyngwladol (IWG) ar Fenywod a Chwaraeon, yr ymrwymiad diweddaraf hwn gan Undeb Rygbi Cymru: “Mae dull trylwyr Undeb Rygbi Cymru o wreiddio cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn adlewyrchu’n berffaith egwyddorion Datganiad Brighton & Helsinki. Mae’r ffaith bod yr Undeb wedi llofnodi’r Datganiad yn swyddogol yn ein Huchelgynhadledd yn Birmingham yn ddatganiad clir o’u hymrwymiad, ac edrychwn ymlaen at eu cefnogi ar eu taith barhaus i wneud rygbi yn gamp wirioneddol gynhwysol i bob merch a menyw.”
