Daeth ymgyrch tîm Dan 20 Cymru ym Mhencampwriaeth y Byd i ben gyda cholled o 28-21 yn erbyn Yr Alban yn Tbilisi’r prynhawn yma, sy’n golygu bod carfan Richard Whiffin wedi gorffen y gystadleuaeth yn y chweched safle.
Er i Gymru gael dau ddyn o fantais am y munudau olaf, methiant fu eu holl ymdrechion i sicrhau bod yr ornest yn mynd i mewn i amser ychwanegol.
Wrth gynrychioli ei wlad ar y lefel hon am y trydydd tro ar hugain, daeth y cyd-gapten Steff Emanuel yn gyfartal â record Morgan Morse – a heddiw oedd y cyfle olaf hefyd i’w gyd-gapten Deian Gwynne yn ogystal â Tom Bowen, Siôn Davies, Caio James, Jac Pritchard ac Evan Minto i gynrychioli tîm Dan 20 Cymru.
Yn dilyn eu buddugoliaeth ryfeddol yn erbyn Awstralia, dechreuodd y Cymry’n gryf unwaith eto, gan reoli’r meddiant yn erbyn tîm corfforol Yr Alban yn gynnar.
Gyda’r gwynt ar eu cefnau, fe roddodd Will Evans wynt yn hwyliau’r Cymry ifanc wrth iddo fanteisio ar rediad nerthol y bachwr Tom Howe a phas amserol Siôn Davies i agor y sgorio wedi 9 munud o chwarae. Gan i Carwyn Leggatt-Jones lwyddo gyda phob un o’i ymdrechion at y pyst yn erbyn Awstralia – doedd hi’n ddim syndod ei weld yn parhau i drosi’n hyderus, roddodd y Crysau Cochion ar y blaen o 7-0.
Wedi bron i hanner awr o chwarae, fe wellodd pethau ymhellach i fechgyn Richard Whiffin – ac yn ei gêm olaf ar y lefel yma – y prop pen tynn Jac Pritchard dwriodd ei ffordd at linell gais yr Albanwyr cyn i Leggatt-Jones barhau i wneud beth mae Carwyn Leggatt-Jones yn ei wneud.
Er dechrau pwrpasol y Cymry, erbyn yr egwyl roedd pethau’n gwbl gyfartal, gan i’r Dyfarnwr Teledu benderfynu bod y prop Ollie Blyth-Lafferty wedi tirio wedi 32 munud o’r gêm. Dri munud yn unig wedi hynny roedd y canolwr Henry Kesterton wedi curo amddiffyn Cymru hefyd ac fe olygodd dau drosiad hawdd Jake Dalziel nad oedd unrhywbeth i wahanu’r ddau dîm wedi hanner o’r ornest.
Hanner Amser: Cymru 14 Yr Alban 14
Fe gafodd gobeithio y Cymry ergyd bellach wedi 5 munud o’r ail gyfnod pan benderfynodd y dyfarnwr bod Will Evans wedi clirio sgarmes yn beryglus – ac wedi’r adolygiad – cerdyn melyn oedd y penderfyniad.
Funud yn unig wedi i fechgyn Richard Whiffin ddechrau eu cyfnod o 10 munud o fod ddyn yn brin – fe hawliodd capten Yr Alban, Joe Roberts ei chweched cais o’r Bencampwriaeth. Ond yn dilyn trydydd trosiad Dalziel, llwyddodd y Cymry i beidio ag ildio unrhyw bwyntiau pellach tan i Evans gamu yn ôl i’r cae.
Bu’n rhaid i Carwyn Leggatt-Jones adael y maes gydag anaf ac fe gamodd Lloyd Lucas o’r fainc i gymryd ei le. Funudau’n unig wedi hynny fe gafodd prop deunaw oed y Scarlets, Hudson Nevin ei gyfle cyntaf i gynrychioli tîm dan 20 ei wlad wrth iddo etifeddu cyfrifoldebau George Leyland.
Wrth i’r trydydd chwarter ddirwyn i ben – fe lithrodd y bêl o afael mewnwr Yr Alban Asa Stewart Harris yng nghanol y cae, ac fe fanteisiodd y cefnwr Lewis Edwards i’r eithaf ar ei gyfle. Wedi i Lucas hollti’r pyst – roedd y timau’n gwbl gyfartal am yr eildro ers y chwiban gyntaf.
Dim ond ddau funud wedi i’r Crysau Cochion droi’r llanw o’u plaid, daeth tro allweddol ar fyd i’r cyfeiriad arall. Danfonwyd Tom Bowen i’r cell cosb am y trydydd tro’n y Bencampwriaeth hon wrth i’r asgellwr geisio rhyng-gipio pas hir.
Yn union fel y digwyddodd wedi cerdyn melyn cynharach Evans, lai na munud wedi i Gymru fynd ddyn yn brin – daeth yr Alban o hyd i linell gais eu gwrthwynebwyr. Yr asgellwr Daniel Kelly wasgodd ei hun i’r gornel ac yn dilyn y pedwerydd cais hwnnw – trosodd Dalziel yn gampus am y pedwerydd tro.
Yn anffodus o safbwynt Cymreig, er eu holl ymdrechion, methodd y Crysau Cochion â llusgo’u hunain yn ôl i’r ornest.
Fe gafodd y Cymry gyfle hwyr i fynd â’r ornest i mewn i amser ychwanegol pan ddioddefodd Matthew Fick ac Ewan Caven yr un tynged â Tom Bowen. Er bod dau ddyn o fantais gan Gymru – methiant fu ymdrechion Osian J Williams a Hudson Nevin i dirio’r bêl gyda’r llinell gais o dan eu trwynau.
Amddiffyn arwrol gan Yr Alban a nhw o’r herwydd gipiodd y pumed safle ym Mhencampwriaeth y Byd am yr eildro’n eu hanes.
Sgôr Terfynol: Cymru 21 Yr Alban 28
Cymru Dan 20 v Yr Alban Dan 20
Gêm i benderfynu’r 5ed safle
Ddydd Gwener 17 Gorffennaf 2026
Stadiwm Avchala, Tbilisi 5.30pm
15 Lewis Edwards (Gweilch)
14 Rhys Cummings (Caerdydd)
13 Osian Darwin-Lewis (Caerdydd)
12 Steff Emanuel (Cyd-gapten) (Caerdydd)
11 Tom Bowen (Caerdydd)
10 Carwyn Leggatt-Jones (Scarlets)
9 Siôn Davies (Caerdydd);
1 George Leyland (Bryste)
2 Tom Howe (Caerdydd)
3 Jac Pritchard (Scarlets)
4 Will Evans (Scarlets)
5 Osian Williams (Bryste)
6 Tom Cottle (Caerdydd)
7 Caio James (Caerloyw)
8 Deian Gwynne (Cyd-gapten) (Caerloyw)
Eilyddion
16 Oscar Thomas (Caerfaddon)
17 Hudson Nevin (Scarlets)
18 Yestyn Cook (Scarlets)
19 Alex Ridgway (Caerfaddon)
20 Sam Morgan (Gweilch)
21 Cai Gealy (Bryste)
22 Lloyd Lucas (Caerdydd)
23 Bailey Cutts (Caerfaddon)
