News

Tîm Dan 20 Cymru yn gobeithio am dro ar fyd yn erbyn Awstralia

Richard Whiffin - Prif Hyfforddwr D20 Cymru

Ar ôl gorfod ildio’n y pendraw i rym sgarmes symudol De Affrica yn eu gêm grŵp olaf, bydd tîm Dan 20 Cymru’n wynebu Awstralia yn rownd gyn-derfynol y gemau i gystadlu am y pumed safle ym Mhencampwriaeth y Byd y prynhawn yma (5.30pm amser Cymru – yn fyw ar wasanaethau S4C, Premier Sports a RugbyPass).

Fe sgoriodd y Wallabies ifanc 27 o geisiau yn eu gemau grŵp a dim ond colled fain o 34-29 yn erbyn Ffrainc olygodd nad ydynt yn cystadlu am y brif wobr yn y Bencampwriaeth.

Mae Cymru wedi wynebu Awstralia ddwywaith yn ystod y tri thymor diwethaf ar yr un adeg o’r gystadleuaeth yma – a’r Wallabies brofodd lwyddiant yn y ddwy ornest honno – 57-33 yn 2023 a 36-29 flwyddyn yn ddiweddarach.

Serch hynny, mae Prif Hyfforddwr Cymru, Richard Whiffin, yn credu bod gan ei garfan ddigon o allu ymosodol i gynnig gwir her i Awstralia yn Tbilisi’r prynhawn yma:

“Ry’n ni’n hyderus iawn yn ein gallu wrth symud y bêl. Fe wnaethon ni sgorio pum cais yn erbyn De Affrica ac fe gafodd dau arall eu dileu gan y dyfarnwr teledu. Felly ry’n ni’n gallu bygwth unrhyw dîm o gael y bêl yn ein dwylo.

“Ar wahân i’r ffaith na lwyddon ni i ymdopi’n llwyr wrth amddiffyn sgarmesi symudol De Affrica, fe berfformion ni’n dda yn erbyn y Springboks. Mae’n rhaid i ni ddysgu o’r golled honno. Bydd llawer o’u bechgyn nhw’n siwr o ymddangos dros dimau De Affrica yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig y tymor nesaf – ac felly mae’n bechgyn ni, sy’n gobeithio gwneud yr un peth, yn gwybod yn iawn sut fath o safon a heriau fydd yn eu hwynebu.

“Gan nad y’n ni wedi llwyddo i gyrraedd y pedwar olaf yn Bencampwriaeth hon yn Georgia – mae’n gallu cynnig her feddyliol i’r bois. Ond mae’r chwaraewyr hŷn sydd o fewn ein carfan yn benderfynol iawn o orffen eu gyrfaoedd gyda’r tîm Dan 20 ar nodyn uchel.

“Mae Undeb Rygbi Cymru wedi gosod nod i brif dîm y dynion godi i fod ymysg pum prif ddetholyn y byd yn ystod y blynyddoedd nesaf – ac felly mae’n rhaid mai dyna yw ein nod ninnau yma yn Georgia.”

Gyda dwy fuddugoliaeth eisoes yn y gemau grŵp yn erbyn Georgia ac Wrwgwai, tîm Deian Gwynne a Steff Emanuel fyddai’r garfan Gymreig gyntaf ar y lefel yma i ennill tair gêm yn y Bencampwriaeth ers 2022 – os y llwyddan nhw i guro Awstralia heddiw:

“R’yn ni wedi colli gwasanaeth y prop pen rhydd George Tuckley gan ei fod wedi torri asen, a ‘dyw Tom Cottle ddim ar gael chwaith gan ei fod wedi anafu ei droed. Mae George Leyland wedi hedfan mas i gymryd lle Tuckley,” ychwanegodd Whiffin.

“Mae gan Awstralia lawer o athletwyr da yn eu carfan ac maen nhw’n dîm sy’n symud y bêl yn dda.

“Mae ganddyn nhw hefyd nifer o chwaraewyr corfforol iawn fydd yn cynnig her sylweddol arall i ni hefyd.”

Related Topics