News

Harri Wilde yn ymuno â'r Gweilch ar fenthyg o Gaerdydd

Harri Wilde yn herio Ben Redshaw wrth i garfan dan 20 Cymru wynebu Lloegr

Mae cyn faswr tîm dan 20 Cymru, Harri Wilde, yn ymuno â’r Gweilch ar fenthyg er mwyn cynorthwyo ei ddatblygiad hirdymor. Wedi i’r olwr amryddawn Jack Walsh adael y Gweilch dros yr haf, mae Mark Jones wedi cryfhau ei opsiynau o safbwynt safle’r maswr, i gynnig her a chefnogaeth i Dan Edwards. Yn ogystal â […]

Mae cyn faswr tîm dan 20 Cymru, Harri Wilde, yn ymuno â’r Gweilch ar fenthyg er mwyn cynorthwyo ei ddatblygiad hirdymor.

Wedi i’r olwr amryddawn Jack Walsh adael y Gweilch dros yr haf, mae Mark Jones wedi cryfhau ei opsiynau o safbwynt safle’r maswr, i gynnig her a chefnogaeth i Dan Edwards. Yn ogystal â sicrhau gwasanaeth Wilde ar fenthyg o Gaerdydd, mae cyn faswr y Waratahs, Lawson Creighton,  hefyd wedi torri ei enw ar gytundeb gyda’r Gweilch.

Bu’r Prif Hyfforddwr, Mark Jones, yn gweithio gyda Wilde pan oedd yn gyfrifol am dîm dan 20 Cymru ym Mhencampwriaeth Ieuenctid y Byd yn Ne Affrica yn 2023. Roedd Wilde yn ddirprwy i Edwards ar y daith honno, cyn iddo chwarae eto ym Mhencampwriaethau 2024 a 2025.

Enillodd 23 cap ar lefel dan 20 dros dri thymor, ac yna treuliodd ei dymor cyntaf wedi hynny’n chwarae i Gaerdydd yn Super Rygbi Cymru. Gwnaeth 14 ymddangosiad, gan sgorio 148 o bwyntiau yn y broses. Yn ystod y cyfnod hwnnw hefyd, gwnaeth ddau ymddangosiad fel eilydd dros ranbarth Rygbi Caerdydd.

Gan bod gan y Prif Hyfforddwr, Corniel van Zyl, bellach dri o faswyr rhyngwladol Cymru yn ei garfan ar gyfer y tymor newydd – Callum Sheedy, Ioan Lloyd a Jarrod Evans –  mae’n debygol y byddai cyfleoedd Wilde wedi bod yn brin yn y Brifddinas y tymor yma.

Oherwydd hynny, mae Mark Jones a’r Gweilch wedi achub ar eu cyfle: “Ry’n ni’n falch iawn o gael Harri gyda ni ar gyfer y tymor newydd. Roedd sicrhau gwasanaeth maswr yn un o’n blaenoriaethau dros yr haf – ac ry’n ni’n hapus iawn bellach gyda’r dyfnder sydd gennym yn y safle hwnnw.

“Mae’r ffaith bod Caerdydd wedi bod mor agored i’r syniad o Harri’n ymuno gyda ni – yn dangos y cydweithio sydd yn bodoli er lles y gêm genedlaethol yn y pendraw. Mae’r ffaith bod Harri wedi ymuno gyda ni yn cynnig opsiynau i ni’n safle’r maswr ac mae hynny’n golygu bod un o dalentau ifanc Caerdydd yn cael profiad gwerthfawr ar lefel uchel.

“Yn bwysicach na dim, mae’n gyfle arbennig i Harri brofi amgylchedd gwahanol a pharhau i ddatblygu ei gêm. Mae’n sefyllfa lle mae pawb ar eu hennill ac ry’n ni’n edrych ymlaen at weld y dylanwad y gall Harri ei gael yng nghrys y Gweilch.”

Bydd Wilde yn cael y cyfle i gyd-chwarae eto â’r mewnwr Harri Williams, oedd yn gyd-chwaraewr gydag ef yn Ne Affrica yn 2023. Mae Williams wedi ymrwymo ei hun i’r Gweilch am dymor arall – felly hefyd dau gyn-aelod arall o garfan dan 20 Cymru yn 2023, sef y blaenasgellwr Gwilym Evans a’r asgellwr Harri Houston.

Dywedodd Harri Wilde: “Mae hwn yn gyfle gwych i fi herio fy hun mewn amgylchedd newydd ac i ddysgu gan grŵp gwahanol o hyfforddwyr a chwaraewyr. Rydw i’n ddiolchgar i’r ddau glwb am wneud hyn yn bosib.

“Mae’r bechgyn yn y Gweilch eisoes wedi rhoi croeso cynnes i fi ac felly byddaf yn canolbwyntio ar weithio’n galed a gwneud y mwyaf o bob munud gaf fi yn y crys.”

 

Related Topics