Mae Prif Hyfforddwr tîm Dan 20 Cymru, Richard Whiffin, wedi gwneud dau newid i’w bymtheg cychwynnol ar gyfer y gêm i benderfynu’r 5ed safle yn erbyn Yr Alban yn Stadiwm Avchala, Tbilisi, ddydd Gwener (5.30pm)
Mae’r cyd-gapten Deian Gwynne yn symud o ochr dywyll y rheng ôl i safle’r wythwr, gyda Tom Cottle o Gaerdydd yn dechrau’n y crys rhif chwech, tra bod y prop pen rhydd George Leyland (Bryste) yn cymryd lle Dylan James.
Gan bo George Tuckley (Dreigiau) ddim ar gael o ganlyniad i anaf, mae’n debygol y bydd prop pen rhydd y Scarlets, Hudson Nevin, yn camu o’r fainc i ennill ei gap cyntaf ar y lefel hon.
Bydd y Cymry’n dechrau’r ornest hon yn llawn hyder wedi eu buddugoliaeth gyffrous yn erbyn Awstralia, lle sgoriodd y ddau dîm gyfanswm o 11 cais mewn gêm wefreiddiol, ddaeth i ben 38-36 o blaid y Crysau Cochion yn y pendraw.
Dywedodd Richard Whiffin: “Roedd hi’n gêm hynod yn erbyn Awstralia, ond roedden ni ychydig yn rhwystredig ein bod bron â gadael i’r fuddugoliaeth lithro o’n gafael.
“Wnaethon ni ddim gwneud pethau’n hawdd i’n hunain. Roedd yna ambell eiliad wych, ond hefyd rhai agweddau o’r chwarae y bydd angen i’r bechgyn wella arnyn nhw’r penwythnos yma.
“Mae’n rhaid i ni dderbyn mai proses o ddysgu a gwella yw hi ar y lefel yma ac mae’n bwysig cofio mai dyma oedd y tro cyntaf i ni guro tîm o hemisffer y de ers 2019, felly mae’r grŵp yma’n dechrau dod i arfer â chystadlu’n erbyn timau mawr a’u curo.
“Ry’n ni’n dîm peryglus gyda’r bêl yn ein dwylo. Mae ganddon ni unigolion o safon a theimlad o undod o fewn y garfan ac felly mae’n bleser eu gwylio nhw’n chwarae.”
Byddai buddugoliaeth yn erbyn Yr Alban yn sicrhau bod y Cymry ifanc yn gorffen yn eu safle gorau’n y Bencampwriaeth ers 2013, pan arweiniodd Ellis Jenkins ei dîm i’r ail safle. Gan fod yr Albanwyr a’r Cymry’n gyfarwydd iawn â’i gilydd drwy’r Chwe Gwlad, mae disgwyl brwydr dactegol ddifyr brynhawn Gwener:
“Fe wnaethon ni eu hwynebu mewn gêm baratoadol cyn dod mas yma i Georgia, felly mae’r chwaraewyr a’r hyfforddwyr yn adnabod ei gilydd yn dda iawn,” ychwanegodd Whiffin.
“Maen nhw wedi gwneud yn gampus i gyrraedd y gêm hon ar gyfer y pumed safle ac felly – a gan ein bod yn andabod ein gilydd yn dda iawn – bydd yn rhaid i ni wneud ambell beth yn wahanol y tro yma. Mae hi’n argoeli i fod yn ornest gyffrous arall rhwng y ddau dîm.
“Pe baen ni’n curo’r Alban, byddai hynny’n golygu pedair buddugoliaeth o bum gêm yn y gystadleuaeth, gyda’r unig golled yn dod yn erbyn De Affrica, sydd bellach yn y rownd derfynol unwaith eto. O ystyried safon y timau sydd yma, mae’r canlyniadau wedi rhoi hwb mawr i ni.
Ry’n ni eisiau gorffen gyda phedair buddugoliaeth er mwyn dod â chyfnod nifer o’n chwaraewyr gyda ni ar y lefel hon i ben ar nodyn uchel.”
Cymru Dan 20 v Yr Alban Dan 20
Gêm i benderfynu’r 5ed safle
Ddydd Gwener 17 Gorffennaf 2026
Stadiwm Avchala, Tbilisi
5.30pm
15 Lewis Edwards (Gweilch)
14 Rhys Cummings (Caerdydd)
13 Osian Darwin-Lewis (Caerdydd)
12 Steff Emanuel (Cyd-gapten) (Caerdydd)
11 Tom Bowen (Caerdydd)
10 Carwyn Leggatt-Jones (Scarlets)
9 Siôn Davies (Caerdydd);
1 George Leyland (Bryste)
2 Tom Howe (Caerdydd)
3 Jac Pritchard (Scarlets)
4 Will Evans (Scarlets)
5 Osian Williams (Bryste)
6 Tom Cottle (Caerdydd)
7 Caio James (Caerloyw)
8 Deian Gwynne (Cyd-gapten) (Caerloyw)
Eilyddion
16 Oscar Thomas (Caerfaddon)
17 Hudson Nevin (Scarlets)
18 Yestyn Cook (Scarlets)
19 Alex Ridgway (Caerfaddon)
20 Sam Morgan (Gweilch)
21 Cai Gealy (Bryste)
22 Lloyd Lucas (Caerdydd)
23 Bailey Cutts (Caerfaddon)
