News

Enwi tîm Cymru i herio De Affrica yn nhrydedd gêm Pencampwriaeth y Cenhedloedd

Max Llewellyn
Bydd Max Llewellyn yn dechrau am y tro cyntaf ym Mhencampwriaeth

Mae Prif Hyfforddwr Cymru, Steve Tandy, wedi enwi’r tîm i wynebu De Affrica yn Stadiwm Hollywoodbets Kings Park, Durban, yn nhrydedd rownd y gemau ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd, ddydd Sadwrn 18 Gorffennaf (16.40 Amser Cymru; 17.40 amser lleol).

Mae Steve Tandy wedi gwneud chwe newid i’r pymtheg cychwynnol ddechreuodd y gêm yn Ariannin y penwythnos diwethaf.

Bydd Teddy Williams yn dechrau am y tro cyntaf ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd wrth iddo ymuno gydag Adam Beard yn yr ail reng.

Yn y rheng ôl, mae Alex Mann yn dechrau ar yr ochr dywyll. Jac Morgan fydd yn flaen- asgellwr agored unwaith eto tra bydd Aaron Wainwright yn parhau’n safle’r wythwr.

Bydd Dan Edwards yn dychwelyd i safle’r maswr, tra bydd Tomos Williams yn fewnwr unwaith yn rhagor.

Mae Ben Thomas, sy’n dechrau fel canolwr cyntaf, yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd, gyda Max Llewellyn yn bartner iddo yng nghanol y cae.

Louis Rees-Zammit a Josh Adams fydd yn dechrau ar y ddwy asgell, tra bo Blair Murray yn cadw ei le’n gefnwr.

Mae Cymru wedi dewis 6 o flaenwyr a 2 olwr ar y fainc. Ryan Elias, Nicky Smith a Ben Warren yw’r eilyddion o safbwynt y rheng flaen. Mae Freddie Thomas, ymunodd â’r garfan yn Durban ddydd Mawrth, yn cynnig opsiwn arall o safbwynt yr ail reng. Tommy Reffell a James Botham yw’r eilyddion rheng ôl, tra mai Reuben Morgan-Williams a Joe Hawkins yw’r ddau olwr sy’n dechrau ar y fainc.

The Wales team to face South Africa

Dywedodd Steve Tandy: “Ry’n ni wedi penderfynu gwneud rhai newidiadau i’r pymtheg cychwynnol. Mae’r tymor yn dod i ben, ry’n ni wedi teithio llawer iawn yn ddiweddar, ac mae rhai o’r bechgyn yn haeddu eu cyfle. Mae hyn hefyd yn gyfle i ni ddod ag ychydig o egni ffres i’r tîm.

“De Affrica yw Pencampwyr y Byd wrth gwrs ac mae ganddyn nhw ddyfnder anhygoel ar gael iddyn nhw. Mae’n rhaid i ni ganolbwyntio ar ein gêm ni a cheisio gosod ein hawdurdod a’n patrwm ein hunain ar y chwarae.

Ry’n ni eisiau dangos bod ochr gorfforol i’n gêm ni hefyd a hynny’n erbyn tîm mwyaf corfforol yn y byd siwr o fod.

“Ry’n ni’n gwybod y bydd yn rhaid i ni fod yn fwy corfforol yn yr ornest yma na’n gemau diwethaf – ond mae hwn yn gyfle gwych i ni brofi ein hunain yn erbyn y tîm gorau yn y byd.”

Tîm Cymru i wynebu De Affrica yn Durban
Ddydd Sadwrn 18 Gorffennaf, 16.40 Amser Cymru (17.40 amser lleol)
Yn fyw ar S4C ac ITV
15. Blair Murray (Scarlets – 18 cap)
14. Louis Rees-Zammit (Bryste – 42 cap)
13. Max Llewellyn (Caerloyw – 12 cap)
12. Ben Thomas (Rygbi Caerdydd – 18 cap)
11. Josh Adams (Rygbi Caerdydd – 72 cap)
10. Dan Edwards (Gweilch – 12 cap)
9. Tomos Williams (Saraseniaid – 74 cap)
1. Rhys Carre (Saraseniaid – 30 cap)
2. Dewi Lake (Capten, Caerloyw – 33 chap)
3. Dillon Lewis (Dreigiau – 59 cap)
4. Teddy Williams (Rygbi Caerdydd – 9 cap)
5. Adam Beard (Montpellier – 67 cap)
6. Alex Mann (Rygbi Caerdydd – 17 cap)
7. Jac Morgan (Caerloyw – 26 chap)
8. Aaron Wainwright (Caerlŷr – 69 cap)

Eilyddion
16. Ryan Elias (Scarlets – 50 cap)
17. Nicky Smith (Sale – 65 cap)
18. Ben Warren (Gweilch – 2 gap)
19. Freddie Thomas (Caerloyw – 8 cap)
20. Tommy Reffell (Caerlŷr – 29 cap)
21. James Botham (Rygbi Caerdydd – 23 chap)
22. Reuben Morgan-Williams (Gweilch – 2 gap)
23. Joe Hawkins (Scarlets – 13 chap)

Related Topics