News

Drama hwyr ond 14 dyn tîm D20 Cymru'n curo Awstralia

Rhys Cummings
Rhys Cummings yn croesi am un o'i ddau gais

Wedi ymdrech arwrol mewn gêm ddramatig tan yr eiliad olaf un, bydd Cymru’n brwydro am y 5fed safle yn erbyn Yr Alban yn eu gêm olaf ym Mhencampwriaeth y Byd, yn dilyn eu buddugoliaeth ryfeddol o 38-36 yn erbyn Awstralia yn Tbilisi heddiw.

O ganlyniad i’r llwyddiant arbennig hwn heddiw – dyma’r tro cyntaf ers 2022 i garfan Cymru ennill tair gêm yn y Bencampwriaeth.

Roedd y Wallabies eisoes wedi sgorio 27 o geisiau yn eu tair gêm grŵp cyn iddyn nhw groesi am chwe chais arall heddiw.

Rhys Cummings (x2), Osian Darwin-Lewis a Deian Gwynne hawliodd geisiau Cymru ym mhrifddinas Georgia’r prynhawn yma ac fe gawson nhw gais cosb hwyr allweddol hefyd

Yn ystod y gystadleuaeth hon, mae’r Cymry ifanc wedi dechrau ar garlam – gan sgorio 40% o’u ceisiau yn ystod 20 munud cyntaf eu gemau – ac fe barhaodd y patrwm cadarnhaol cynnar hwnnw heddiw hefyd.

Wedi 2 funud yn unig, bu ond y dim i Tom Bowen agor cyfrif y Crysau Cochion, ond yn dilyn adolygiad, penderfynodd y dyfarnwr Robbie Jenkinson, ei fod wedi tirio’r bêl fodfeddi’n brin o’r llinell gais.

10 munud wedi hynny, cafodd y Cymry eu haeddiant am eu rheolaeth sylweddol o’r meddiant. Yn dilyn cic letraws ddeallus Steff Emanuel, fe ddangosodd yr asgellwr Rhys Cummings ei sgiliau pêl-droed a’i ddwylo dawnus i agor y sgorio’n yn y gornel. Llwyddodd Carwyn Leggatt-Jones i drosi’n ardderchog o’r ystlys.

Gwnaeth Awstralia bedwar newid o fewn y chwarter awr agoriadol – ac un o’r rhai oedd yn gorfod gadael y maes oedd eu seren o gefnwr Treyvon Pritchard – sydd eisoes wedi chwarae dros dalaith Queensland.

Wrth i’r chwarter cyntaf o chwarae ddod i ben – fe ddyblodd y Cymry eu mantais – wrth i Osian Darwin-Lewis dirio ail gais ei dîm ac wrth i Leggatt-Jones drosi am yr eildro.

Yn anffodus i’r maswr, ddau funud yn unig yn ddiweddarach, fe dderbyniodd gerdyn melyn am drosedd arweiniodd at gais cyntaf yr eilydd Tom Farr-Jones.

Erbyn i Leggatt-Jones ddychwelyd i’r maes, roedd Cymru ar ei hôl hi o driphwynt, gan bo’r mewnwr Sam Blank wedi sgorio’i drydydd cais o’r gystadleuaeth ac roedd Farr-Jones wedi croesi’r gwyngalch am yr eildro yn ystod ei 11 munud cyntaf ar y maes. Llwyddodd y capten a’r maswr Finn Mackay i drosi’r cyntaf o’r ddau gais hwnnw.

Hanner Amser: Cymru 14 Awstralia 17

Er bod Cymru wedi colli eu dwy gêm ddiwethaf yn erbyn Awstralia ar yr adeg hon o’r Bencampwriaeth yn ystod y tair blynedd ddiwethaf – llwyddodd y Crysau Cochion i dalu’r pwyth am hynny’n ystod yr ail hanner heddiw, er bod Awstralia’n meddwl eu bod wedi cipio’r fuddugoliaeth o’r tân yn yr eiliadau olaf.

Yn union fel yr hanner cyntaf, Rhys Cummings agoriodd y sgorio wedi troi, wrth arddangos ei sgiliau pêl-droed sylweddol unwaith eto. Wedi dim ond 51 eiliad o’r ail hanner roedd yr asgellwr wedi tirio ei ail gais a doedd hi’n ddim syndod bod record drosi berffaith Carwyn Leggatt-Jones yn ystod y prynhawn yn parhau.

Ddau funud yn ddiweddarach, roedd cic gosb gyntaf y maswr, a hynny bron o’r llinell hanner wedi ymestyn mantais ei dîm i 7 pwynt, ac fe wellodd pethau ymhellach wedi 47 munud o’r gêm pan hyrddiodd y cyd-gapten Deian Gwynne ei gorff sylweddol dros y llinell gais. Wedi i Leggatt-Jones godi ei gyfanswm personol i 11 pwynt – roedd gan y Cymry fantais o 14 o bwyntiau – yn union fel yr oedd ganddyn nhw wedi deunaw munud o’r cyfnod cyntaf.

Yn union fel y gwnaethon nhw yn ystod y 40 munud agoriadol – tarodd Awstralia’n ôl yn syth – a’r asgellwr chwith Riley Whitfield wasgodd ei hun i’r gornel am bedwerydd cais ei wlad, roddodd wynt yn hwyliau ei dîm.

Gwelwyd amddiffyn arwrol am gyfnod sylweddol wedi hynny gan flaenwyr Cymru wrth i’r Wallabies ifanc hyrddio at linell gais y Crysau Cochion dro ar ôl tro. Ond pan ddangoswyd cerdyn coch i’r eilydd Luke Evans am dacl anghyfreithlon gydag 17 munud yn weddill gwnaed tasg carfan Richard Whiffin hyd yn oed yn fwy heriol.

Manteisiodd Awstralia ar eu dyn ychanegol 4 munud wedi i Evans adael y maes wrth i’r eilydd Edwin Langi groesi’n gydnerth ac wrth i eilydd arall Charlie Bird gau’r bwlch i ddeubwynt yn unig gyda’i drosiad a hynny  gyda 12 munud ar ôl.

Serch hynny – daeth un o eiliadau mwyaf allweddol yr ornest ryfeddol hon wedi 72 munud o chwarae – pan benderfynodd y dyfarnwr roi cais cosb i bedwar dyn ar ddeg Cymru yn dilyn hyrddiad campus gan y pac. Gan i Toby Brial droseddu’n ystod y symudiad, fe orffennodd y ddau dîm ddyn yn brin.

Yn dilyn cais yr eilydd John Greenfel ac ail drosiad Bird – dim ond deubwynt oedd yn gwahanu’r timau gydag ychydig dros ddau funud yn weddill – ac roedd digon o amser am ddrama sylweddol o hyd.

Mentrodd Awstralia o’u tir eu hunain cyn i Jonty Fowler groesi llinell gais y Cymry’n orfoleddus. Ond roedd y duwiau rygbi’n gwenu ar y Cymry, gan i’r dyfarnwr teledu benderfynu bod y bêl wedi ei tharo ymlaen yn gynharach yn y symudiad.

Llwyddodd holl fechgyn Cymru i warchod eu gwyngalch am yr eiliadau oedd yn weddill gan sicrhau buddugoliaeth hanesyddol ac arbennig o gyffrous yn erbyn Awstralia.

Canlyniad: Cymru 38 Awstralia 36.

Bydd Cymru’n herio’r Alban yn Tbilisi am 5.30 ddydd Gwener er mwyn penderfynu pwy fydd yn gorffen yn y 5ed safle.

15 Lewis Edwards (Gweilch)
14 Rhys Cummings (Rygbi Caerdydd)
13 Osian Darwin-Lewis (Rygbi Caerdydd)
12 Steff Emanuel (Cyd-gapten) (Rygbi Caerdydd)
11 Tom Bowen (Rygbi Caerdydd)
10 Carwyn Leggatt-Jones (Scarlets)
9  Siôn Davies (Rygbi Caerdydd)

1 Dylan James (Gweilch)
2 Tom Howe (Rygbi Caerdydd)
3 Jac Pritchard (Scarlets)
4 Will Evans (Scarlets)
5 Osian Williams (Bryste)
6 Deian Gwynne (Cyd-gapten) (Caerloyw)
7 Caio James (Caerloyw)
8 Evan Minto (Dreigiau)

Eilyddion

16 Oscar Thomas (Caerfaddon)
17 George Leyland (Bryste)
18 Yestyn Cook (Scarlets)
19 Luke Evans (Caerwysg)
20 Alex Ridgway (Caerfaddon)
21 Cai Gealy (Bryste)
22 Lloyd Lucas (Rygbi Caerdydd)
23 Bailey Cutts (Caerfaddon)

Related Topics