Er gwaethaf dechrau hynod addawol a’u cyfanswm o bum cais, colli o 52-33 fu hanes tîm D20 Cymru yn erbyn Pencampwyr y Byd, De Affrica yn Tbilisi y prynhawn yma.
Mae’r canlyniad yn golygu na fydd bechgyn Richard Whiffin yn cyrraedd pedwar olaf Pencampwriaeth y Byd yn Georgia ac mai’r pumed safle ar y gorau y bydd y Cymry’n gallu ei hawlio erbyn hyn.
Er mwyn cadw’u gobeithion o orffen yn bumed yn fyw – bydd Cymru’n herio Awstralia am 5.30 pm ddydd Sul a bydd yr ornest honno i’w gweld ar lwyfannau S4C.
Yn dilyn eu dwy fuddugoliaeth agoriadol yng Ngrŵp A yn erbyn y tîm cartref ac Wrwgwai, profodd grym y Springboks ifanc yn ormod i Deian Gwynn a’i dîm yn y pendraw – ac fe sgoriodd De Affrica wyth o geisiau wrth sicrhau eu nawfed buddugoliaeth o’r bron yn y Bencampwriaeth.
Hon oedd trydydd llwyddiant y Springboks yn eu pedwar cyfarfyddiad yn erbyn Cymru’n y gystadleuaeth dros y blynyddoedd.
Roedd De Affrica wedi sgorio 21 o geisiau yn eu dwy gêm grŵp gyntaf – ond wedi dim ond 3 munud o chwarae, Y Cymry yn eu crysau du ac amryliw agorodd y sgorio.
Eiliadau’n unig wedi iddo ennill cic gosb yng nghanol y cae, Caio James gododd o waelod y sgarmes symudol i ddathlu cais cyntaf y prynhawn. Trosodd Carwyn Leggatt-Jones yn ardderchog o’r ystlys i gadarnhau dechrau campus y Cymry ifanc.
Chwe munud yn ddiweddarch, roedd maswr Cymru’n trosi am yr eildro – wedi i Steff Emanuel ddawnsio ei ffordd yn gryf ac yn gelfydd at gysgod pyst y Pencampwyr.
Yn anffodus o safbwynt Cymreig, daeth tro ar fyd wedi hynny – a sgarmes symudol De Affrica oedd yn bennaf gyfrifol am hynny.
O fewn 7 munud i fynd 14 o bwyntiau ar ei hôl hi, roedd y Springboks ifanc yn gwbl gyfartal.
Yn dilyn sgrym bump hynod nerthol, plymiodd y mewnwr Hendre Schoeman o dan y pyst – cyn i Ethan Adams fanteisio ar adlamiad caredig i sgorio ail gais ei dîm wedi 16 munud o chwarae.
Gwaith hawdd oedd gan Yaqeen Ahmed i ychwanegu’r ddau drosiad wnaeth y sgôr yn 14 pwynt yr un.
Roedd carfan Kevin Foote yn hynod gorfforol a threfnus, ac wedi i’r bachwr a’r capten Siphosethu Mnebelele groesi llinell gais y Cymry wedi 24 munud o chwarae, doedd Pencampwyr y Byd ddim am ildio’u mantais wedi hynny.
Llwyddodd y Springboks i ymestyn eu blaenoriaeth tra roedd Jac Pritchard yn y cell cosb wedi i’r prop gael ei gosbi am droseddu cyson ei gyd-chwaraewyr.
Yn dilyn cais y clo Heinrich Theron a thrydydd trosiad Ahmed roedd De Affrica wedi sgorio 26 o bwyntiau heb ymateb cyn chwiban olaf y cyfnod cyntaf.
Hanner Amser: De Affrica 26 Cymru 14
Er bod Pritchard yn ôl ar y maes ar gyfer dechrau’r ail gyfnod, parhau wnaeth y momentwm gyda De Affrica. Ddau funud wedi troi fe garlamodd y blaen-asgellwr Risima Khosa fel asgellwr i dirio pumed cais ei wlad o’r prynhawn yn y gornel. Doedd yr ongl lem ddim yn broblem i Ahmed wrth drosi chwaith.
Gan iddo geisio atal ymosodiad addawol i Gymru bu’n rhaid i’r asgellwr Cheswill Jooste dreulio 10 munud ar yr ystlys a thro carfan Richard Whiffin oedd cael cyfnod gyda dyn o fantais.
Yn union wedi hynny fe aeth Will Evans yn agos at sgorio – cyn i’r canolwr Osian Darwin-Lewis gyrraedd y gwyngalch wedi 48 munud o chwarae – gan atal rhediad y Springboks o sgorio 33 pwynt heb ymateb. Wedi i Leggatt-Jones barhau gyda’i record berffaith wrth drosi, roedd y Cymry’n ôl o fewn 12 pwynt.

Ddau funud yn unig yn ddiweddarach, fe ddangosodd De Affrica eu grym unwaith eto, a’r eilydd o fachwr Liam Van Wyk sgoriodd eu chweched cais o’r prynhawn.
Dal i frwydro fu hanes y Cymry ac fe hawlion nhw bwynt bonws pwysig wedi 54 munud o’r gêm. Yn dilyn bylchiad arbennig gan Darwin-Lewis, manteisiodd Tom Bowen i’r eithaf ar yr erwau clir oedd o’i flaen.
Parhau i ddefnyddio’r sgarmes symudol yn effeithiol wnaeth Pencampwyr y Byd ac wrth i’r gêm symud i’r chwarter olaf, fe sgoriodd Van Wyk ei ail gais ef o’r prynhawn a phedwerydd sgôr y Springboks o sgarmesi symudol.
Efelychu camp Van Wyk wnaeth ei gapten gydag 13 munud o’r gêm ar ôl wrth i Mnebelele dirio am yr eildro o’r prynhawn yn dilyn pumed sgarmes symudol clinigol ei dîm.
Cododd Yaqeen Ahmed ei gyfanswm personol i 12 pwynt gyda’i chweched trosiad o’i wyth ymdrech at y pyst.
Yn dilyn tacl anghyfreithlon mewn sgarmes daeth prynhawn Siphosethu Mnebelele i ben bum munud yn gynnar – ac fe gafodd y Cymry gyfle hwyr i gael y gair olaf. Gyda dim ond 2 funud yn weddill, croesodd y cefnwr Lewis Edwards am bumed cais Cymru, cyn i’r eilydd o faswr Lloyd Lucas lwyddo gyda’i drosiad.
Canlyniad: De Affrica 52 Cymru 33
