Mae perfformiadau disglair Ben Connor gyda’r chwiban wedi arwain at ei benodiad fel dyfarnwr ar gyfer y gêm i benderfynu’r ail a’r trydydd safle ym Mhencampwriaeth D20 y Byd rhwng Seland Newydd a Lloegr yn Tbilisi ddydd Sadwrn.
Bydd gan Connor lais cyfarwydd yn ei glust, gan mai ei gyd-Gymro Aled Griffiths fydd y Dyfarnwr Teledu.
Dyma fydd y tro cyntaf i Ben Connor ddyfarnu yn Stadiwm Mikheil Meskhi, gan fod ei gemau hyd yn hyn yn y Bencampwriaeth wedi’u chwarae naill ai yn Avchala neu Kutaisi:
Dywedodd Rheolwr Perfformiad Elît Dyfarnwyr Undeb Rygbi Cymru, Ian Davies: “Dyma’r ail flwyddyn yn olynol bellach i ddyfarnwyr Cymru greu argraff fawr ym Mhencampwriaeth Ieuenctid y Byd.
“Y tymor diwethaf fe ddyfarnodd Ben Breakspear y Rownd Derfynol rhwng Seland Newydd a De Affrica. Er nad yw Ben Connor wedi cael y cyfle i ddyfarnu’r Rownd Derfynol rhwng Ffrainc a De Affrica eleni, gall fod yn hynod falch o’r argraff gadarnhaol y mae wedi’i greu yn ei dri ymddangosiad yn y canol yn ystod y gystadleuaeth.
“Bydd Aled Griffiths yn ei gynorthwyo fel Dyfarnwr Teledu, fel y gwnaeth i Ben yn y Ffeinal yn Yr Eidal y llynedd. Eleni, fodd bynnag, mae’r Dyfarnwyr Teledu wedi eu lleoli yn Basingstoke yn hytrach nac yn y meysydd eu hunain sydd ychydig yn wahanol.
“Mae Aled wedi creu argraff dda unwaith eto eleni, nid yn unig gyda’i benderfyniadau ond hefyd gyda’i agwedd dawel a’i arweiniad cadarn.
“Yn bersonol, rwy’n gwbl ymwybodol o’r ffaith nad oes dyfarnwr o Gymru wedi cymryd rhan yng Nghwpan y Byd ers 2003 – oni bai am Nigel Owens wrth gwrs! Mae’r ddau Ben, Breakspear a Connor bellach mewn sefyllfa dda i newid hynny erbyn 2031. Yn ogystal, mae gennym nifer o ddyfarnwyr addawol sydd ar fin creu gwir argraff hefyd – ac mae hynny’n argoeli’n dda iawn ar gyfer dyfarnu yng Nghymru yn y blynyddoedd sydd i ddod.”
