News

Cynlluniau'r Dyfodol gan Undeb Rygbi Cymru

Stadiwm Principality

Undeb Rygbi Cymru’n amlinellu’r ffordd ymlaen ar gyfer model gweithredu’r dyfodol ym maes rygbi proffesiynol y dynion

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cadarnhau ei chynlluniau a’i hamserlen ar gyfer gweithredu newid ym maes rygbi proffesiynol y dynion yng Nghymru. Mae model Undeb Rygbi Cymru’n cadarnhau’r cynllun i sefydlu tri thîm proffesiynol dynion o dymor 2028/29 ymlaen – un wedi’i leoli yn y Brifddinas, un yng ngorllewin Cymru ac un yn nwyrain Cymru.

Mae Bwrdd yr Undeb wedi ystyried ystod eang o ffactorau yn fanwl wrth bennu’r tair ardal drwyddedu ar gyfer y dyfodol, ac wedi cadarnhau mai dim ond y clybiau proffesiynol presennol fydd yn gymwys i gael eu hystyried ar gyfer trwydded. Mae hyn yn golygu, os ydynt yn cytuno ar delerau terfynol y drwydded, y bydd y Dreigiau a Rygbi Caerdydd yn cael cynnig y trwyddedau ar gyfer dwyrain Cymru a’r Brifddinas – yn y drefn honno.

Mae amserlen glir bellach wedi’i gosod gan Fwrdd Undeb Rygbi Cymru ar gyfer pennu’r fframwaith trwyddedu a’r broses o ddyfarnu trwyddedau. Mae hyn yn gyson gyda phenderfyniad cynharach yr Undeb i rannu’r trwyddedau ar sail daearyddol. Y bwriad pendant yw dechrau’r broses hon ym mis Rhagfyr 2026 gan dod i ben erbyn diwedd tymor 2026/27 fan bellaf.

Yn ddiweddar, sicrhawyd sefydlogrwydd ar draws rygbi proffesiynol y dynion hyd at 2028, gan i bob un o’r pedwar tîm proffesiynol arwyddo’r un cytundeb â’r Undeb – Cytundeb Rygbi Proffesiynol 2025 (PRA25). Bydd y cyfnod hwn o sefydlogrwydd yn cael ei ddefnyddio i bennu’r model cyllido a’r fframwaith trwyddedu sydd eu hangen i sicrhau gêm broffesiynol gynaliadwy a llwyddiannus yma yng Nghymru, gyda’r clybiau proffesiynol presennol yn chwarae rhan allweddol wrth lunio’r fframwaith hwnnw.

Yn dilyn gemau Pencampwriaeth y Cenhedloedd yn yr Hydref, bydd Undeb Rygbi Cymru yn dod ag arweinwyr pob un o’r timau proffesiynol at ei gilydd, ynghŷd â rhanddeiliaid eraill, i greu model gweithredu’r dyfodol ar y cyd ar gyfer gêm y dynion.

Nod y gwaith cydweithredol hwnnw fydd:

  • creu dealltwriaeth gyffredin o’r realiti ariannol a strategol sy’n wynebu’r gêm;
  • ymgysylltu â rhanddeiliaid mewn ffordd gydsyniol a threfnus er mwyn llunio telerau trwyddedu model gweithredu’r dyfodol;
  • pennu diddordeb pob un o’r clybiau proffesiynol presennol sydd wedi ymrwymo i’r Cytundeb Rygbi Proffesiynol 2025 (PRA25) i fabwysiadu’r cytundebau trwydded newydd ar gyfer 2028.

Bydd y broses yn weithredol drwy chwarter cyntaf 2027, a phryd hynny bydd pob un o’r clybiau proffesiynol presennol yn cael y cyfle i gadarnhau os ydynt yn dymuno cymryd rhan yn y model gweithredu newydd neu beidio.

Dywedodd Is-gadeirydd Undeb Rygbi Cymru, John Manders: “Rydym wedi cadarnhau y bydd model gweithredu’r dyfodol yn cynnwys tri thîm proffesiynol o ddechrau tymor 2028/29 ymlaen, ac erbyn hyn mae gennym amserlen glir ar gyfer camau nesaf y broses. Rydym eisoes wedi dechrau rhoi’r strwythurau perthnasol yn eu lle ar gyfer cryfhau llwybrau datblygu ein chwaraewyr addawol, creu’r amgylcheddau gorau ar gyfer ein chwaraewyr hŷn, gan ddarparu’r gefnogaeth ariannol briodol a datblygu’r cyfleusterau i’w cefnogi hefyd. Rydym yn gwneud cynnydd pwysig fydd yn diogelu dyfodol ein gêm, yn datblygu adnoddau ac yn rhoi’r cyfle gorau i’n timau lwyddo ar bob lefel.”

Dywedodd Marianne Økland, Cadeirydd y Bwrdd Rygbi Proffesiynol: “Mae dyletswydd bellach ar bob un ohonom sy’n ymwneud â rygbi proffesiynol yng Nghymru i gydweithio er mwyn penderfynu ar fodel gweithredu’r dyfodol. Bydd y ffordd y byddwn yn symud ymlaen dros y misoedd nesaf yn hollbwysig. Y nod yw cwblhau’r model trwyddedu newydd cyn gynted â phosibl, cyn i ni wedyn symud yn gyflym i gadarnhau’r trefniadau trwyddedu a’r cynlluniau pontio angenrheidiol. Bydd hyn yn gosod trefn addas a chadarn i’r broses ac yn osgoi cyfnod hir o ansicrwydd i glybiau, chwaraewyr, cefnogwyr, buddsoddwyr a noddwyr.

“Gan gymryd y bydd gan Rygbi Caerdydd a’r Dreigiau ddiddordeb cytuno gyda’r telerau trwyddedu arfaethedig, mae sicrwydd bellach y byddant yn cael cynnig y trwyddedau ar gyfer y Brifddinas a dwyrain Cymru – yn y drefn honno. Rydym yn deall y bydd rhywfaint o ansicrwydd yn parhau hyd nes y bydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud am drwydded gorllewin Cymru. Dyna pam rydym wedi ymrwymo i symud ymlaen mewn ffordd gydweithredol, heb ddiystyru maint yr heriau sydd o’n blaenau, er mwyn sicrhau sefydlogrwydd a sicrwydd i bawb cyn gynted â phosibl.”

Related Topics