News

Cymru'n ildio i rym De Affrica yn Durban ar ddiwedd blwyddyn gyntaf Tandy wrth y llyw

Tomos Williams, mewnwr Cymru

Ar ddiwrnod swyddogol Mandela, colli o 43-0 fu hanes Cymru’n erbyn De Affrica yn eu gêm oddi-cartref olaf ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd yn Stadiwm Hollywoodbets yn Durban heddiw.

Yn ei bedwaredd gêm wrth y llyw fis Tachwedd, fe sgoriodd Pencampwyr y Byd 11 o geisiau yn erbyn bechgyn Steve Tandy. Cafwyd gwelliant gan Grysau Gwynion Cymru heddiw, er i’r Springboks lawn haeddu eu buddugoliaeth wrth iddyn nhw hawlio 7 o geisiau ar eu tomen eu hunain.

Ychydig oriau cyn y gic gyntaf heddiw, ar gyfer y gêm olaf hon o’r tymor i’r Cymry, bu’n rhaid i’r Prif Hyfforddwr alw Ellis Mee i’r pymtheg cychwynnol gan nad oedd Josh Adams wedi llwyr wella o’r anaf i’w bigwrn.

Yn eu dwy gêm gartref flaenorol ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd, roedd De Affrica wedi sgorio cyfanswm o 87 pwynt yn erbyn Lloegr a’r Alban ac fe ddechreuon nhw ar garlam yn Durban y prynhawn yma cyn iddyn nhw gyrraedd y deugain pwynt am y trydydd tro mewn tair wythnos.

Wedi dim ond 4 munud o chwarae, fe redodd yr wythwr Jasper Wiese at galon amddiffyn Cymru cyn cyrraedd y llinell gais. Y ddau bwynt wrth drosi oedd rhai cyntaf erioed y maswr Vusi Moyo ar y llwyfan rhyngwladol.

9 munud wedi hynny, roedd Moyo, enillodd Bencampwriaeth dan 20 y Byd y llynedd, wedi dyblu ei gyfrif pwyntiau – gan bo’r mewnwr Cobus Reinach wedi codi’r bêl o fôn sgrym bump – a charlamu dros linell gais yr ymwelwyr, am ail gais ei wlad.

De Affrica gafodd y gorau ar y chwarae gosod a’r meddiant am weddill y cyfnod cyntaf hefyd. Er i amddiffyn dewr y Cymry atal y Springboks rhag ychwanegu at eu cyfrif tan i’r cloc droi’n goch –  erbyn i Andrew Brace chwythu ei chwiban am y tro olaf yn y deugain munud agoriadol, roedd De Affrica ar y blaen o 19 o bwyntiau.

Cic letraws Vusi Moyo grëodd y sgôr i’r canolwr Jesse Kriel wrth i garfan Rassie Erasmus ymestyn eu mantais cyn yr egwyl.

Hanner Amser: De Affrica 19 Cymru 0

18.07.26 – Ellis Mee’n brwydro am y meddiant yn yr awyr

Daeth Steve Tandy â Ryan Elias, Nicky Smith a Joe Hawkins i’r maes ar gyfer yr ail hanner – ond wedi 40 eiliad yn unig – roedd De Affrica wedi croesi am y cyntaf o’u 4 cais wedi troi, gan hawlio pwynt bonws yn y broses.

Ar achlysur ei gap cyntaf, yr asgellwr Jaco Williams darodd yr ergyd drom honno’n y gornel a’i gyd-chwaraewr gyda’r Sharks, Moyo, oedd hefyd yn mwynhau ei ymddangosiad cyntaf dros ei wlad, agorodd y bwlch i 26 phwynt gyda’i drydydd trosiad.

Gwnaeth y ddau Brif Hyfforddwr nifer o newidiadau pellach wrth i drydydd chwarter yr ornest ddod i ben – ac er i Ellis Mee ddod o fewn modfeddi at gyrraedd llinell gais y tîm cartref – llwyddodd amddiffyn De Affrica i’w atal rhag hawlio’i gais rhyngwladol cyntaf.

Cyn y gêm hon yn Durban, roedd De Affrica wedi ennill eu 10 gornest ryngwladol ddiwethaf ers iddyn nhw golli’n erbyn Seland Newydd y llynedd – a gyda’r gwynt yn eu hwyliau, doedd hi’n fawr o syndod i’r dorf swmpus o dros 40,000 weld yr eilydd Herschel Jantjies yn croesi am bumed cais ei wlad wedi 62 munud o chwarae.

Gwnaed tasg y Cymry’n anoddach fyth pan ddangoswyd cerdyn melyn i Ben Warren am dacl anghyfreithlon – ac erbyn y chwiban olaf roedd y Springboks wedi ychwanegu 12 pwynt pellach at eu cyfrif o ganlyniad i geisiau Kurt-Lee Arendse a Paul de Villiers a throsiad hwyr Manie Libbok.

Buddugoliaeth gorfforol a haeddiannol i Bencampwyr y Byd a dyma’r eildro o’r bron i’r Springboks atal y Cymry rhag sgorio pwynt.

Sgôr Terfynol: De Affrica 43 Cymru 0

Bydd gan garfan Cymru egwyl o’r llwyfan rhyngwladol am gyfnod bellach, tan iddyn nhw chwarae eu tair gêm gartref yn y Bencampwriaeth newydd hon.

Japan fydd yn ymweld â Stadiwm Principality ar y 7fed o Dachwedd cyn i Seland Newydd ac Awstralia ddod i gartref rygbi Cymru y ddau Sadwrn wedi hynny.

18.07.26 – Jac Morgan yn ei chanol hi

Wedi i’r gêm ddod i ben, dywedodd Jac Morgan: “Roedd honno’n gêm galed a chorfforol yn erbyn Pencampwyr y Byd. Llongyfarchiadau i Dde Affrica ar eu buddugoliaeth. Pob clod iddyn nhw.

“Roedden ni yn y gêm yn yr hanner cyntaf ac ry’n ni’n siomedig na lwyddon ni i sgorio pwyntiau – ond wedyn fe adawodd ein disgyblaeth ni lawr ambell waith, wnaeth ein gwaith ni’n anoddach.

“Ry’n ni wedi cael tair gêm galed yn ystod y tair wythnos ddiwethaf ac ry’n ni’n tyfu gyda’n gilydd fel carfan. Mae llawer iawn o galon gan y bois ac ry’n ni’n gweithio’n galed bob dydd. Mae’n rhaid i ni roi clod i’r holl garfan am hynny wrth i ni barhau i ddatblygu gyda’n gilydd.”

Ychwanegodd Dewi Lake: “ Wrth gwrs ry’n ni’n siomedig gyda’r canlyniad heddiw ond dwi’n dal yn prowd iawn o’r bois gan nad oedd prinder ymdrech o gwbl yn ein perfformiad.

“Efallai bod hyn yn swnio’n rhywbeth od i’w ddweud ond mae gwelliant amlwg ers yr Hydref a dwi wrth fy modd bod yn rhan o’r garfan yma.”

Ar ddiwedd ei flwyddyn gyntaf wrth y llyw fel Prif Hyfforddwr, dywedodd Steve Tandy: “Mae peidio â sgorio pwynt yn siom ac mae’n rhaid i ni wella’n disgyblaeth hefyd.

“Roedd ildio ceisiau’n hwyr yn yr hanner cyntaf ac yn gynnar yn yr ail gyfnod yn anodd – ond mi rydw i wedi gweld gwelliant yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

“Er ein bod wedi curo’r Eidal, Japan a Fiji – ry’n ni’n gwybod yn iawn bod ganddon ni dipyn o ffordd i fynd cyn ein bod yn cystadlu ar y lefel uchaf un unwaith eto.

“Dwi hefyd yn gwybod bod y garfan yma’n mynd i wneud popeth o fewn eu gallu i wneud yn siwr bod hynny yn digwydd.”

Related Topics