News

Cyhoeddi tîm Dan 20 Cymru i herio Awstralia

Dylan james
Dylan James

Mae’r Prif Hyfforddwr Richard Whiffin wedi gwneud dau newid i’w bymtheg cychwynnol, ar gyfer y gêm yn erbyn Awstralia yn rownd gyn-derfynol safleoedd 5–8 ym Mhencampwriaeth y Byd yn Stadiwm Avchala, Tbilisi, ddydd Sul. (5.30pm)

Nid oedd y prop pen rhydd George Tuckley na’r clo Tom Cottle ar gael i’w hystyried o ganlyniad i anafiadau. Dylan James o’r Gweilch ac Osian Williams o Fryste sy’n cael eu cyfle i ddechrau o’r herwydd.

Mae Richard Whiffin wedi dewis George Leyland ar y fainc ac mae prop Bryste ar fin cael ei brofiad cyntaf o chwarae’n y Bencampwriaeth.

Mae Awstralia wedi chwarae mewn 11 gêm gyn-derfynol am y pumed safle yn y gorffennol ac maen nhw wedi ennill naw o’r gemau hynny, gan gynnwys yr wyth ddiwethaf yn olynol. Mae hynny’n cynnwys buddugoliaeth yn erbyn Cymru, ar yr un adeg o’r gystadleuaeth, ddwy flynedd yn ôl.

Mae chwarae mentus ac ymosodol Cymru wedi hawlio tipyn o glod yn ystod y gystadleuaeth eleni, ac mae awch amlwg wedi bod yn amlwg o safbwynt gwaith y pac hefyd.

Cymru yw’r unig dîm sydd wedi ennill pob un o’u sgrymiau eu hunain hyd yn hyn yn y Bencampwriaeth hon (19). Wedi dweud hynny mae Richard Whiffin yn gwybod y bydd yn rhaid i’w wyth blaen fod ar eu gorau yn erbyn Awstralia – gan mai nhw sydd wedi ennill y nifer fwyaf o giciau cosb yn y sgrym yn y Bencampwriaeth yn Georgia.

Dywedodd Prif Hyfforddwr Cymru, Richard Whiffin: “Fe wnaeth y bechgyn yn dda yn erbyn De Affrica – ond gan bod cyn lleied o amser rhwng y gemau – dy’n ni heb gnoi cil yn ormodol ar y gêm honno. Yn hytrach ry’n ni wedi bod yn edrych ymlaen at ein her nesaf, yn erbyn un o dimau gorau eraill hemisffer y de.

“Mae hwn yn gyfle gwych i’r grŵp yma o chwaraewyr gan nad y’n nhw wedi chwarae yn erbyn Awstralia o’r blaen. Mae pawb yn gwybod bod tipyn o her o’n blaenau ond mae gennyf hyder a ffydd yn ein carfan ac ry’n ni’n edrych ymlaen yn fawr at herio Awstralia ddydd Sul.”

Cymru dan 20 v Awstralia dan 20Ddydd Sul 12 Gorffennaf, Stadiwm Avchala, Tbilisi, 5.30pm
Gêm gyn-derfynol ar gyfer y 5ed safle

15 Lewis Edwards (Gweilch)
14 Rhys Cummings (Rygbi Caerdydd)
13 Osian Darwin-Lewis (Rygbi Caerdydd)
12 Steff Emanuel (Cyd-gapten) (Rygbi Caerdydd)
11 Tom Bowen (Rygbi Caerdydd)
10 Carwyn Leggatt-Jones (Scarlets)
9  Siôn Davies (Rygbi Caerdydd)

1 Dylan James (Gweilch)
2 Tom Howe (Rygbi Caerdydd)
3 Jac Pritchard (Scarlets)
4 Will Evans (Scarlets)
5 Osian Williams (Bryste)
6 Deian Gwynne (Cyd-gapten) (Caerloyw)
7 Caio James (Caerloyw)
8 Evan Minto (Dreigiau)

Eilyddion

16 Oscar Thomas (Caerfaddon)
17 George Leyland (Bryste)
18 Yestyn Cook (Scarlets)
19 Luke Evans (Caerwysg)
20 Alex Ridgway (Caerfaddon)
21 Cai Gealy (Bryste)
22 Lloyd Lucas (Rygbi Caerdydd)
23 Bailey Cutts (Caerfaddon)

Related Topics