News

Cyd-gapteiniaid tîm Dan 20 Cymru eisiau gorffen ar nodyn uchel

Steffan Emanuel
Deian Gwynne (chwith) Steff Emanuel (Dde)

Bydd-gapteiniaid Cymru dan 20, Deian Gwynne a Steffan Emanuel, yn chwarae eu gêm olaf ar y lefel hon heddiw – pan fydd Cymru’n herio’r Alban am y pumed safle ym Mhencampwriaeth y Byd yn Georgia.

Os fydd carfan Richard Whiffin yn llwyddo i ennill – bydd y Cymry ifanc yn sicrhau eu perfformiad gorau’n y gystadleuaeth ers 2013 pan orffenon nhw’n ail.

Yr ornest hon yn Tbilisi heddiw fydd y tro olaf i Tom Bowen, Siôn Davies, Caio James, Jac Pritchard ac Evan Minto gynrychioli eu gwlad ar y lefel yma hefyd.

Dyma fydd y 23ain tro i Steff Emanuel gynrychioli tîm Dan 20 Cymru, tra bydd Gwynne yn ennill ei 17eg cap. Mae blaenasgellwr y Dreigiau, Minto a mewnwr Caerdydd Siôn Davies, yn edrych ymlaen at ennill eu 18fed cap, tra bydd Bowen yn chwarae ei 16eg gêm, James ei 15fed a Pritchard ei 13eg.

Dywedodd Deian Gwynne: “Mae’r gêm olaf hon yn erbyn Yr Alban yn gyfle arbennig i ni gyflawni rhywbeth fel grŵp sydd heb ei wneud ers 2013.

“Dyma’r cyfle olaf i ni chwarae gyda’n gilydd ar y lefel hon ac felly mae’n rhaid i ni wneud y mwyaf o’r cyfle hwnnw.

“Mae ganddon ni grŵp arbennig o hyfforddwyr ac mae’r bois wedi dysgu cymaint wrth weithio gyda nhw.

“Dw i wedi mwynhau chwarae dros Gymru dan 18 a dan 20 yn fawr iawn, ac mae’n debyg y bydd hi’n foment emosiynol pan ddaw’r bennod hon yn fy ngyrfa i ben wedi’r chwiban olaf.

“Yr her i ni fel y bechgyn hŷn sy’n symud ymlaen ar ôl y gystadleuaeth yma oedd gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu’r bois iau ar gyfer y blynyddoedd nesaf – fel bod gan ein gwlad dîm cryf ar y lefel hon am flynyddoedd i ddod.”

Mae Gwynne eisoes wedi sefydlu ei hun yn aelod rheolaidd o garfan hŷn Caerloyw, lle bydd ef a’i gyd-flaenasgellwr gyda Chymru dan 20, Caio James, yn cystadlu â Jac Morgan am le’n y tîm y tymor nesaf, wedi i Morgan symud o’r Gweilch i Kingsholm.

“Fi’n edrych ymlaen yn fawr at y tymor nesaf. Mae’r ffaith bod Jac Morgan yn dod aton ni’n wych gan fod cael y chwaraewyr gorau o’ch cwmpas yn ffordd wych o ddysgu,” ychwanegodd Gwynne.

Mae Deian Gwynne a Caio James wedi bod yn gyfeillion agos ers iddyn nhw benderfynu gadael eu cartrefi yng ngorllewin Cymru – Aberystwyth a Llandysul – i ymuno â Choleg Hartpury. Oddi yno fe symudodd y ddau ohonyn nhw ymlaen i Academi Caerloyw.

“Ry’n ni’n adnabod ein gilydd yn dda iawn ac wedi tyfu lan yn chwarae yn erbyn ein gilydd dros y blynyddoedd. Roedd hi wastad yn dipyn o frwydr yn ei erbyn gan ei fod e’n gymeriad tanllyd, ac ro’n i rywbeth yn debyg hefyd,” meddai Gwynne.

“Ry’n ni wedi treulio’r pedair blynedd ddiwethaf gyda’n gilydd, ac yna penderfynodd rhywun y byddai’n syniad da i ni rannu ystafell gyda’n gilydd am bum wythnos yma yn Georgia!

“Mae wedi bod yn brofiad braf gan eich bod yn chwarae eich rygbi gorau pan ry’ch chi’n adnabod eich cyd-chwaraewyr yn dda iawn.”

Related Topics