News

Y nifer fwyaf o baneli solar mewn lleoliad chwaraeon yn y DU wedi'u gosod ar do Stadiwm Principality

Principality Stadium
Stadiwm Principality

Mae paneli solar sy’n cynhyrchu digon o drydan i bweru mwy na 50 diwrnod gêm wedi cael eu troi ymlaen yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd. Mae’r hyn yn gam allweddol yng nghynlluniau datgarboneiddio Undeb Rygbi Cymru wrth iddi baratoi i gyhoeddi ei strategaeth gynaliadwyedd gyntaf yn ddiweddarach eleni.

Mae dros 3,250 o baneli solar wedi’u gosod ar do eiconig y Stadiwm gan EvoEnergy, prif gwmni adnewyddadwy y DU, gan ei wneud y gosodiad mwyaf o’r fath mewn unrhyw stadiwm chwaraeon yn y DU.

Bydd y paneli yn datgarboneiddio gweithrediadau Stadiwm Principality yn sylweddol drwy gynhyrchu ynni glân, gan gynhyrchu 1.25 miliwn cilowat-awr disgwyliedig o drydan bob blwyddyn ─ digon i gynnal diwrnod gêm orlawn yng nghartref rygbi Cymru bob dydd am saith wythnos.

Disgwylir i’r paneli leihau allbwn carbon Stadiwm Principality o 219,791kg bob blwyddyn, gan ddarparu ffynhonnell sylweddol o ynni cost isel i Undeb Rygbi Cymru.

Mae’r gosodiad solar yn rhan o becyn ehangach o fesurau cynaliadwyedd sydd â’r nod o ddatgarboneiddio gweithrediadau Stadiwm Principality. Mae URC bellach yn datblygu strategaeth gynaliadwyedd lawn, a fydd yn cynnwys ei holl ymdrechion presennol a’r dyfodol i hybu datgarboneiddio a newid cymdeithasol ehangach ar draws rygbi Cymru gyfan.

Dywedodd Gavin Marshall, Prif Swyddog Ariannol a Gweithredu URC, “Mae hyn yn garreg filltir hynod gyffrous, nid yn unig i Stadiwm Principality, ond i ddyfodol rygbi Cymru. Fel un o’r lleoliadau chwaraeon mwyaf eiconig yn y byd, mae’n iawn ein bod yn defnyddio’i faint a’i ddylanwad i greu newid cadarnhaol, fydd o fudd i’n gêm, ein cefnogwyr a’r gymuned ehangach.

“Er y bydd môr o grysau cochion bob amser yn tanio diwrnod gêm, rydym yn falch y byddan nhw’n nawr yn cael eu pweru gan ynni gwyrdd glân. Mae buddsoddi mewn datrysiadau ynni arloesol, cynaliadwy fel solar yn hanfodol os ydym am ddiogelu’r stadiwm ar gyfer y dyfodol a gwneud ein rhan wrth greu dyfodol gwyrddach.”

“Rydym nid yn unig yn lleihau ein hôl troed carbon ond hefyd yn cryfhau cynaliadwyedd ariannol yr Undeb drwy’r arian y byddwn yn ei arbed, gan greu gwerth hirdymor y gellir ei ail-fuddsoddi yn rygbi Cymru ar bob lefel.

“Drwy gyhoeddi ein strategaeth gynaliadwyedd yn ddiweddarach eleni, byddwn yn nodi sut mae mentrau fel un heddiw yn cyfrannu at gynllun beiddgar, ymarferol i wneud rygbi Cymru yn wyrddach ac yn fwy gwydn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

Mae’r gosodiad solar yn gweithredu ochr yn ochr â mesurau eraill, megis cyflwyno system codi dŵr ffynnon (sy’n sicrhau nad yw dŵr yfed glân yn cael ei wastraffu ar anghenion glanhau neu ddyfrio), cynaeafu dŵr glaw, a gosod goleuadau LED ledled y stadiwm. Mae ymrwymiad hefyd i gaffael bwyd cynaliadwy ac i weithio gydag elusennau lleol i sicrhau bod y bwyd sydd dros ben yn cael ei ddosbarthu mewn cymunedau bregus.

Disgwylir i’r strategaeth gynaliadwyedd lawn gael ei chyhoeddi yn ddiweddarach eleni a fydd yn sicrhau bod arferion cynaliadwy wrth wraidd strategaeth gorfforaethol pum mlynedd Cymru’n Un URC.

Meddai Darren Crossman, Pennaeth Cyfleusterau a Diogelwch a Chynaliadwyedd URC, “Fel ceidwaid y stadiwm eiconig hwn, mae gennym gyfrifoldeb i arwain trwy esiampl, ac mae’r gosodiad solar hwn yn gam technegol a gweithredol sylweddol ymlaen.

“Mae’r prosiect hwn yn fwy na dim ond cynhyrchu ynni adnewyddadwy, mae’n ymgorffori cynaliadwyedd yn y ffordd y mae’r stadiwm yn gweithredu o ddydd i ddydd, yn lleihau ein heffaith amgylcheddol ac yn creu lleoliad mwy effeithlon, gwydn ar gyfer y dyfodol.

Rydym yn falch o ddod â’r arbenigedd hwn yn fyw yn Stadiwm Principality a nodi’r cam cyntaf hwn o lunio strategaeth gynaliadwyedd ar gyfer rygbi Cymru yn y dyfodol.”

Dywedodd Diala Isid, Uwch Ymgynghorydd Ynni Adnewyddadwy yn EvoEnergy, “Rydym yn falch o fod wedi partneru ag Undeb Rygbi Cymru i ddarparu system solar ffotofoltäig arbennig, sy’n adlewyrchu cydymrwymiad i ynni glân a dyfodol mwy cynaliadwy.”

Related Topics