Mae Prif Hyfforddwr tîm Dan 20 Cymru, Richard Whiffin, wedi cadarnhau ei garfan o 30 chwaraewr ar gyfer Pencampwriaeth y Byd, fydd yn cael ei chynnal yn Georgia rhwng dydd Sadwrn 27 Mehefin a dydd Gwener 17 Gorffennaf.
Bydd canolwr Caerdydd, Steffan Emanuel, yn ymddangos yn y gystadleuaeth am y trydydd tro, tra bydd pedwar arall o’i gyd-olwyr – Lewis Edwards, Tom Bowen, Osian Darwin-Lewis a Siôn Davies – yn ymddangos yn y Bencampwriaeth am yr eildro.
Dyma fydd ail gystadleuaeth chwech o’r blaenwyr hefyd – Jac Pritchard, Tom Cottle, Luke Evans, Evan Minto, Caio James a Deian Gwynne.
Mae mewnwr Bryste, Cai Gealy, ail reng y Scarlets, Will Evans, a blaenasgellwr y Gweilch, Sam Morgan, i gyd ar fin ennill eu capiau cyntaf dros Gymru ar y lefel yma yn Tbilisi.
Bydd bechgyn Richard Whiffin yn wynebu’r tîm cartref Georgia, Wrwgwai a’r Pencampwyr presennol De Affrica yn eu gemau grŵp fydd i gyd yn cael eu cynnal yn Stadiwm Avchala.
Gan fod Cymru yn debygol o wynebu amodau heriol a llethol o ran y gwres yn Georgia, mae’r Prif Hyfforddwr wedi dewis 17 o flaenwyr ac 13 o olwyr yn ei garfan.
Dywedodd Richard Whiffin: “Bydd hi’n boeth iawn allan yn Georgia, felly bydd llwyth gwaith y blaenwyr yn enwedig, yn drwm iawn.
“Mae wyth blaen Georgia a De Affrica yn fawr iawn, felly ry’n ni’n teimlo ei bod hi’n bwysig cael nifer o wahanol opsiynau o safbwynt amrywio ac addasu ei blaenwyr ni. Bydd hynny’n cynnig tipyn o hyblygrwydd i ni hefyd drwy gydol y gystadleuaeth.
“Mae ganddon ni fel tîm hyfforddi ffydd yn y garfan yma. Ry’n ni’n bwriadu cynnig amser ar y cae i bob un o’r bois yn ystod y ddwy gêm agoriadol. Bydd pob chwaraewr yn cael y cyfle i godi eu llaw er mwyn hawlio’i llefydd yn ein gemau olaf o’r Bencampwriaeth.”
Mae Cai Gealy a Sam Morgan wedi’u dewis ar ôl creu argraff yn ddiweddar gyda thîm Dan 19 Cymru.
“Mae’r ddau wedi perfformio’n arbennig o dda yn ystod ein ymarferion a’n gemau Dan 19. Mae hynny’n dangos pwysigrwydd y cynlluniau hynny gan eu bod yn cynnig y cyfle i chwaraewyr brofi eu hunain ar lefel ryngwladol,” ychwanegodd Whiffin.
“Roedd y ddau yn chwarae’n dda cyn y Nadolig ac yn agos at gael eu dewis bryd hynny, ond maen nhw wedi datblygu’n sylweddol yn ystod y misoedd diwethaf. Mae Sam wedi disgleirio gyda thîm Dan 18 y Gweilch, tra bod Cai wedi chwarae cryn dipyn i Hartpury yng nghystadlaethau’r Colegau ac yn y Bencampwriaeth hefyd.”
Mae Will Evans wedi dioddef anafiadau rhwystredig dros y ddau dymor diwethaf, ond mae’r ail reng tal bellach yn gwbl holliach ac yn awyddus iawn i chwarae ei ran unwaith eto.
“Dwi’n falch iawn dros Will,” eglurodd Whiffin. “Mae wedi ymdrechu’n galed iawn i ddod yn ôl yn ffit sawl gwaith erbyn hyn ac roedd hi’n braf ei weld yn perfformio’n dda – heb unrhyw broblem o safbwynt anafiadau – yn erbyn Yr Alban. Mae wedi creu argraff yn y sesiynau ymarfer ac mae’n ddyn mawr iawn sy’n cynnig rhywbeth gwahanol i ni. Dwi’n hapus iawn ei fod yn y garfan a dwi’n gwybod ei fod yn awyddus iawn i ennill ei gap cyntaf dros y tîm Dan 20.”
Talodd Richard Whiffin hefyd deyrnged i’r chwaraewyr fethodd â sicrhau lle yn y garfan y tro hwn:
“Hoffwn ddiolch i’r holl fechgyn sydd wedi bod yn anlwcus i beidio â chael eu dewis. Mae rhai ohonyn nhw’n dal i ymarfer gyda ni ac yn ein helpu i baratoi a herio’r garfan wrth i ni droi’n golygon at y Bencampwriaeth. Mae’r ffaith fod nifer o chwaraewyr da iawn heb gael eu cynnwys yn arwydd clir o gryfder ein carfan ar hyn o bryd. Ry’n ni wedi siarad gyda nifer o’r bechgyn sydd ddim wedi eu dewis, i sicrhau eu bod nhw’n barod rhag ofn y bydd angen i ni alw am eilyddion.”
Carfan Dan 20 Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Byd
Olwyr
Lewis Edwards (Gweilch)
Rhys Cummings (Caerdydd)
Tom Bowen (Caerdydd)
Dylan Scott (Met Caerdydd)
Brogan Leary (Dreigiau)
Steffan Emanuel (Caerdydd) – Cyd-gapten
Bailey Cutts (Caerdydd)
Osian Darwin-Lewis (Caerdydd)
Jack Hoskins (Gweilch)
Carwyn Leggatt-Jones (Scarlets)
Lloyd Lucas (Caerdydd)
Cai Gealy (Bryste)
Siôn Davies (Caerdydd)
Blaenwyr
George Tuckley (Dreigiau)
Dylan James (Gweilch)
Isaac Godfrey (Caerwysg)
Oscar Thomas (Caerfaddon)
James Talamai (Dreigiau)
Tom Howe (Caerdydd)
Jac Pritchard (Scarlets)
Yestyn Cook (Scarlets)
Will Evans (Scarlets)
Tom Cottle (Caerdydd)
Luke Evans (Caerwysg)
Osian Williams (Bryste)
Deian Gwynne (Caerloyw) – Cyd-gapten
Sam Morgan (Gweilch)
Evan Minto (Dreigiau)
Caio James (Caerloyw)
Alex Ridgway (Caerfaddon)
Gemau Grŵp Cymru
Sadwrn 27 Mehefin – 15:00
Cymru v Georgia – Stadiwm Avchala
Dydd Iau 2 Gorffennaf – 10:00
Cymru v Uruguay – Stadiwm Avchala
Dydd Mawrth 7 Gorffennaf – 15:00
De Affrica v Cymru – Stadiwm Avchala
