News

URC a'r Gweilch yn ymuno â’i gilydd mewn cytundeb rygbi proffesiynol wedi'i ddiweddaru

WRU Statement

Mae Undeb Rygbi Cymru (URC) yn hynod o falch bod y Gweilch wedi llofnodi Cytundeb Rygbi Proffesiynol 2025 (PRA25).

Mae’r cytundeb gyda pherchnogion Gweilch, Y11 Sport & Media, yn golygu bod y clwb rhanbarthol bellach yn ymuno â Chlwb Rygbi’r Dreigiau a Rygbi Caerdydd ar PRA25.

Mae PRA25 yn cynyddu cydweithrediad ar draws yr ecosystem rygbi gyfan ac yn sail i’r berthynas waith rhwng URC a’r timau dynion rhanbarthol.

Y nod yw rhoi sefydlogrwydd ariannol a chreu’r sylfeini ar gyfer llwyddiant ym mhob rhan o’r gêm broffesiynol yng Nghymru.

Wrth ymateb i lofnodi’r cytundeb, dywedodd Abi Tierney, Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru:

“Mae PRA25 yn creu mwy o aliniad ar draws rygbi yng Nghymru, ac rwy’n falch iawn bod trafodaethau adeiladol gyda Y11 Sport & Media wedi arwain at y Gweilch yn llofnodi’r cytundeb.”

“Mae tri allan o bedwar o’n clybiau dynion rhanbarthol bellach ar PRA25 ac mae gwaith diwydrwydd dyladwy gyda’r Scarlets yn parhau. Rydym yn edrych ymlaen at gael ein holl dimau proffesiynol dynion ar y cytundeb cyn dechrau’r Bencampwriaeth Rygbi Unedig nesaf ym mis Medi.”

Mae’r penderfyniad hefyd wedi cael ei groesawu’n gynnes gan Marianne Økland, Cadeirydd y Bwrdd Rygbi Proffesiynol:

“Rwyf wedi cael fy nghalonogi’n fawr gan y ffordd gydweithredol y cynhaliwyd y trafodaethau rhwng URC a’r clybiau proffesiynol dros y misoedd diwethaf. Mae’r cynnydd ystyrlon a wnaed ar fodel y dyfodol ar gyfer y llwybrau datblygu hefyd yn dystiolaeth o’r ysbryd cadarnhaol hwn.”

Diwedd.

Related Topics