Mae Clwb Rygbi Crymych wedi talu teyrnged i un o’u hoelion wyth, gan gydnabod degawdau o ymroddiad gan y tirmon – Peter ‘Pitch’.
Mae ei waith diflino a chwbl wirfoddol wedi helpu cenedlaethau o chwaraewyr i fwynhau’r gêm.
Ers dros 40 mlynedd, mae Peter wedi bod yn torri’r borfa, marcio’r llinellau, gosod y pyst a sicrhau bod popeth yn ei le ar gyfer gemau’r penwythnos.
Mae chwaraewr rhyngwladol Cymru, Josh MacLeod, yn gwybod hynny’n iawn.
Wrth i flaen-asgellwr Cymru ddychwelyd i’w gyn-glwb, dywedodd: “Dwi’n credu i mi ddechrau chwarae yma pan o’n i tua 7 mlwydd oed, ac fe wnes i aros yma tan o’n i’n 16.
“Mae dod yn ôl i’r clwb a gweld cymaint o wynebau cyfarwydd bob amser yn deimlad arbennig iawn. Mae’n bwysig sylweddoli faint o waith sy’n digwydd y tu ôl i’r llenni i gadw’r lle i fynd ac felly mae cael y fraint o gydnabod Peter am ei waith anhygoel dros y blynydde’ yn deimlad braf.
❤️ Diolch, ‘Peter Pitch’.
As @VolunteersWeek continues, we’re shining a light on the incredible people who give their time and passion to Welsh Rugby 🏉✨#WelshRugby | @GILBERT_RUGBY pic.twitter.com/mflx0Xp4He
— Welsh Rugby Union 🏴 (@WelshRugbyUnion) June 5, 2026
Ychwanegodd Josh Macleod: “Mae cyfraniad gwirfoddolwyr yn hynod bwysig i rygbi yng Nghymru, ac maen nhw’n helpu chwaraewyr ar bob lefel i gyrraedd eu potensial – hyfforddwyr, y ffisios, heb angofio’r bobl bwysig yn y gegin wrth gwrs!”
“Heb y bobl hyn, fyddai chwaraewyr fel fi ddim yn gallu camu ‘mlaen yn ein gyrfaoedd – ac mae’r cae yma yng Nghrymych y mae Peter yn gofalu amdano, wedi cynnig y cyfle i lawer iawn o chwaraewyr gwahanol ddechrau eu taith rygbi nhw hefyd.
“Wrth i Peter a’r gwirfoddolwyr eraill barhau i roi eu hamser i’r clwb – bydd y cyfleoed hyn ar gael i genedlaethau’r dyfodol hefyd.”
Er nad yw Peter ei hun yn chwilio am unrhyw sylw na chydnabyddiaeth am ei gyfraniad at Glwb Rygbi Crymych, mae ei deulu’n hynod falch ei fod wedi derbyn tystysgrif ‘Diolch’ Undeb Rygbi Cymru.
