Yn ddiweddar, aeth chwaraewr rhyngwladol Cymru, Jac Morgan yn ôl at ei wreiddiau, wrth iddo ymweld â Chlwb Rygbi Brynaman.
Pwrpas ei ymweliad oedd dathlu cyfraniad amhrisiadwy tri o wirfoddolwr amlwg y clwb, wrth iddo gyflwyno tystysgrifau arbennig ‘Diolch’ Undeb Rygbi Cymru iddynt, fel cydnabyddiaeth am eu blynyddoedd o wasanaeth di-flino.
Dywedodd Andrew Roberts: “Mae’n braf gallu rhoi rhywbeth yn ôl i’r clwb wedi i mi gael bynyddoedd o fwynhad wrth chwarae rygbi ieuenctid yma. Fe gefais gyment o arweiniad a chefnogaeth gan y rhai hŷn yn y clwb ar y pryd, ac felly mae’n naturiol i mi geisio gwneud yr un peth i’r criw ifanc nawr.”
Talodd Jac Morgan deyrnged bersonol i’r gwirfoddolwyr yng Nghlwb Rygbi Brynaman: “Fe ges i lawer iawn o help gan nifer o bobl yn y clwb yma pan o’n i’n ifanc – gan bod eu gwaith caled yn golygu bod popeth yn ei le i ni allu chwarae bob wythnos. Mae gwirfoddolwyr mor bwysig i’r gêm gymunedol yma yng Nghymru – ac fe fydda’i wastad yn ddiolchgar iddyn nhw am fy helpu i ar ddechrau fy nhaith.”
Gwyliwch yr eiliad pan gafodd y tri gwirfoddolwr, sy’n gwneud cymaint dros glwb Rygbi Brynaman, ychydig o sioc gan ymweliad annisgwyl Jac Morgan.
Dweud Diolch wrth Guriad Calon Clwb ❤️
🤝 Jac Morgan dropped in to show appreciation to our incredible volunteers.
A huge thank you to @GILBERT_RUGBY for their continued support of the rugby community across Wales 🙌#VolunteersWeek | #WelshRugby pic.twitter.com/OuzllNXNpK
— Welsh Rugby Union 🏴 (@WelshRugbyUnion) June 3, 2026
Mae mwy o fanylion am wirfoddoli gyda chlybiau Undeb Rygbi Cymru i’w cael yn y canllaw yma: www.wru.wales/diolch-awards
