News

Gyda'n Gilydd mewn Balchder

Together in Pride

Mae Undeb Rygbi Cymru’n falch o ddathlu Mis PRIDE trwy ddathlu’r ffaith bod rygbi ar gael i bawb.

Bydd dathliadau ffurfiol PRIDE yn dechrau yng Nghaerdydd y penwythnos yma.

Trwy gydweithio gyda chlybiau cynhwysol LGBTQ+ yng Nghaerdydd, Abertawe a Wrecsam, mae Undeb Rygbi Cymru wedi cynhyrchu fideo sy’n dangos yn gwbl glir bwysigrwydd rygbi i’r uniogolion arbennig sy’n cymryd rhan ynddi a’u cymunedau hefyd.

Mae’r fideo’n egluro dylanwad cadarnhaol y gamp ar fywydau’r unigolion hynny, gan ei bod yn creu ymdeimlad o berthyn, cyfeillgarwch a hyder gydol oes.

Dywedodd Liam Scott, Pennaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant Undeb Rygbi Cymru: “Ry’n ni’n falch iawn ein bod wedi gweithio gyda’r tri chlwb er mwyn creu’r fideo pwysig ac ysbrydoledig yma.

“Mae gan rygbi’r gallu i dynnu pobl at ei gilydd gan ddathlu personoliaethau pob unigolyn ar yr un pryd. Ry’n ni fel Undeb yn benderfynol o sicrhau bod croeso cynnes i bawb o fewn teulu rygbi Cymru – boed hynny ar y cae neu oddi arno.”

 

Cardiff Lions RFC – Join the Pride | Cardiff Lions RFC

Swansea Vikings

Wrecsam Rhinos RUFC

Related Topics