Mae Prif Hyfforddwr dros dro Fiji, Senirusi Seruvakula, wedi lleihau ei garfan ymarfer ar gyfer Pencampwriaeth y Cenhedloedd fis nesaf i 32 o chwaraewyr.
Nid oes lle bellach i gyn-chwaraewr rhyngwladol Ffrainc Virimi Vakatawa, na chwaith i gyn wythwr Lloegr, Nathan Hughes.
Bydd Fiji yn chwarae eu tair gêm “gartref” yn y gystadeuaeth newydd hon yn hemisffer y gogledd, gan ddechrau gyda gêm yn erbyn Cymru yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Sadwrn 4 Gorffennaf.
Mae Seruvakula wedi dewis 14 o olwyr ac 18 o flaenwyr, fydd hefyd yn gweld ei dîm yn wynebu Lloegr yn Stadiwm Hill Dickinson, Lerpwl, ar 11 Gorffennaf, cyn chwarae yn erbyn Yr Alban ym Murrayfield ar 18 Gorffennaf.
Dywedodd Seruvakula: “Rwyf wedi dewis grŵp o chwaraewyr sydd â phrofiad ac sydd wedi perfformio’n dda dros eu clybiau’n ddiweddar.
“Mae hon yn mynd i fod yn ymgyrch anodd a heriol i ni, ond rwy’n hyderus bod gan y garfan hon y dalent, y galon a’r ddisgyblaeth angenrheidiol i gynrychioli Fiji gyda balchder.”
Mae’r garfan yn cynnwys 11 o’r pymtheg cychwynnol lwyddodd i guro Cymru o 24-19 yn Stadiwm Principality ar 10 Tachwedd 2024. Ymhlith y rheiny mae’r maswr Caleb Muntz, sgoriodd 19 pwynt yn ystod y fuddugoliaeth honno.
Mae Muntz wedi bod yn chwarae gyda George North a Tomas Francis yn Provence yn y PRO D2 yn Ffrainc ac mae cyfanswm o 14 aelod o’r garfan yn chwarae i glybiau ym Mhrif Gynghrair Ffrainc.
Carfan Fiji ar gyfer Pencampwriaeth y Cenhedloedd
Propiau: Eroni Mawi (Saraseniaid), Atunaisa Sokobale (Castres Olympique), Peni Ravai (Drua), Luke Tagi (Bayonne), Tim Hoyt (Caerwrangon)
Bachwyr: Tevita Ikanivere (Honda Heat), Zuriel Togiatama (Drua), Sam Matavesi (Camborne)
Ail Reng: Isoa Nasilasila (Drua), Mesake Vocevoce (Drua), Temo Mayanavanua (Drua), Tevita Ratuva (Clermont Auvergne)
Rheng Ôl: Lekima Tagitagivalu (Racing 92), Elia Canakaivata (Drua), Levani Botia (La Rochelle), Kitione Salawa (Drua), Pita-Gus Sowakula (Clermont Auvergne), Peceli Yato (Perpignan)
Mewnwyr: Frank Lomani (Drua), Simione Kuruvoli (Drua), Sam Wye (Counties Manukau)
Maswyr: Caleb Muntz (Provence), Isaia Armstrong-Ravula (Drua / Manawatu)
Canolwyr: Josua Tuisova (Racing 92), Filimoni Botitu (Castres Olympique), Semi Radradra (Shizuoka Blue Revs), Selestino Ravutaumada (Racing 92)
Tri Ôl: Jiuta Wainiqolo (Lyon), Kalaveti Ravouvou (Bryste), Vinaya Habosi (Racing 92), Salesi Rayasi (Bordeaux-Bègles), Vuate Karawalevu (Castres Olympique)
