Mae Prif Hyfforddwr tîm Dan 20 Cymru, Richard Whiffin, wedi enwi ei dîm i wynebu’r Alban yn Boroughmuir ddydd Gwener. (Cic gyntaf 3pm).
Ni fydd capiau ar gael ar gyfer yr ornest hon. Mae’r gêm yn cynnig y cyfle olaf i’r chwaraewyr hawlio eu lle yng ngharfan Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Byd. Bydd y garfan derfynol y cael ei chadarnhau yr wythnos nesaf.
Yn y gystadleuaeth bydd Cymru’n wynebu Georgia (Sadwrn 27 Mehefin), Wrwgwai (Iau 2 Gorffennaf) a ffefrynnau’r Bencampwriaeth, De Affrica (Mawrth 7 Gorffennaf), yn eu gemau grŵp yn ninas Tbilisi.
Dywedodd Richard Whiffin: “Ry’n ni wedi cael cyfnod da o dair wythnos o ymarfer, sydd wedi’n gweld yn canolbwyntio ar gydweithio fel unedau a hefyd yn gweithio’n galed ar ddatblygiad unigol y chwaraewyr. Mae’r tywydd wedi bod o’n plaid ni hefyd – gan y bydd y gwres diweddar yn ein paratoi’n dda ar gyfer yr amodau yn Georgia.
“Wedi’r cyfnod cyntaf o ymarfer yn galed gyda’n gilydd – fe gafodd y bechgyn rywfaint o seibiant cyn i ni ddod yn ôl at ein gilydd i ymarfer yn erbyn y brif garfan ddydd Llun. Dwi’n credu i’r ddwy garfan gael budd o wynebu ei gilydd ac mae hi wastad yn braf gweld gwahanol gamau’r llwybrau datblygu’n tynnu i’r un cyfeiriad.”
Mae Richard Whiffin wedi manteisio ar y cyfle i gynnwys blaenasgellwr y Gweilch, Sam Morgan, a maswr Caerloyw, Cai Gealy, yn ei 30 ar gyfer y penwythnos – cyn i’r Prif Hyfforddwr orfod penderfynu ar ei garfan derfynol:
“Mae angen i’r bechgyn chwarae gymaint a sy’n bosib ar hyn o bryd – ac mae’r gêm hon yn erbyn Yr Alban yn gyfle i ni edrych ar ambell gyfuniad gwahanol cyn Cwpan y Byd,” meddai.
“Efallai na fydd Yr Alban yn disgwyl gweld ambell gyfuniad ry’n ni wedi eu dewis ar gyfer yr ornest ddydd Gwener – ond does dim amheuaeth y bydd y gêm baratoadol hon yn brofiad gwerthfawr i ni.
“Fe gafodd Yr Alban gêm yn erbyn Iwerddon yr wythnos ddiwethaf, ac fe fyddan nhw’n barod ac yn awchu i’n herio ni. Fe fyddwn ni’n sicr o gael ein profi.”
Cymru Dan 20 v Yr Alban Dan 20
Ddydd Gwener 12 Mehefin, Boroughmuir, 3pm
15 Lewis Edwards (Gweilch)
14 Dylan Scott (Met Caerdydd)
13 Osian Darwin-Lewis (Rygbi Caerdydd)
12 Jack Hoskins (Gweilch)
11 Rhys Cummings (Rygbi Caerdydd)
10 Carwyn Leggatt-Jones (Scarlets)
9 Siôn Davies (Rygbi Caerdydd)
1 George Tuckley (Dreigiau)
2 James Talamai (Dreigiau)
3 Jac Pritchard (Scarlets)
4 Will Evans (Scarlets)
5 Tom Cottle (Rygbi Caerdydd)
6 Deian Gwynne (capten) (Caerloyw)
7 Sam Morgan (Gweilch)
8 Evan Minto (Dreigiau)
Eilyddion
16 Oscar Thomas (Caerfaddon)
17 Dylan James (Gweilch)
18 Isaac Godfrey (Caerwysg)
19 Luke Evans (Caerwysg)
20 Osian Williams (Bryste)
21 Caio James (Caerloyw)
22 Alex Ridgway (Caerfaddon)
23 Cai Gealy (Bryste)
24 Lloyd Lucas (Rygbi Caerdydd)
25 Tom Bowen (Rygbi Caerdydd)
26 Steff Emanuel (Rygbi Caerdydd)
27 Bailey Cutts (Rygbi Caerdydd)
28 Brogan Leary (Dreigiau)
29 George Leyland (Bryste)
30 Tom Howe (Rygbi Caerdydd)
