News

Elliot Dee i gynrychioli'r Barbariaid am y tro cyntaf

Elliot Dee

Bydd bachwr y Dreigiau, Elliot Dee, yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf dros y Barbariaid pan fydd yn wynebu Pencampwyr y Byd, De Affrica, yn Stadiwm Bae Nelson Mandela yn Port Elizabeth ddydd Sadwrn 20 Mehefin (3.00pm).

Wedi hynny bydd y Barbariaid yn teithio i wynebu Cymru yn Twickenham y penwythnos canlynol, ac mae Dee yn un o 20 o chwaraewyr rhyngwladol o 11 o wledydd gwahanol sydd wedi’u dewis i herio De Affrica.

Mewnwr Seland Newydd, TJ Perenara, sydd eisoes wed ennill 89 o gapiau dros ei wlad, fydd yn arwain y tîm. Mae’r Barbariaid hefyd wedi cynnwys cefnwr y Springboks, Warrick Gelant, ac asgellwr Yr Alban a’r Llewod, Duhan van der Merwe, yn eu tîm. Mae’r ddau ohonyn nhw’n adnabod ei gilydd yn dda gan iddyn nhw chwarae gyda’i gilydd tra’n ddisgyblion yn Ysgol Outeniqua High School yn George. Dyma fydd y tro cyntaf ers eu dyddiau ysgol i’r ddau chwarae gyda’i gilydd.

Dywedodd Prif Hyfforddwr y Barbariaid, Scott Robertson:

“Rydyn ni i gyd yn gyffrous iawn am y gêm gyntaf hon yn erbyn De Affrica. Mae chwarae yn erbyn Pencampwyr y Byd ar eu tomen eu hunain yn gyfle arbennig i ni.

“Rydyn ni wedi cofleidio ysbryd a thraddodiad y Barbariaid yr wythnos hon, gan ddod at ein gilydd fel grŵp a mwynhau cwmni ein gilydd yn Cape Town. Mae gennym dîm sy’n  llawn talent o bedwar ban y byd, ac mae gan y chwaraewyr gyfle gwych i arddangos eu doniau ddydd Sadwrn.

“Rydyn ni eisiau mynegi ein hunain ar y cae a gwneud cyfiawnder â’r crys du a gwyn enwog fydd ar gefnau ein chwaraewyr.”

Y Barbariaid (v De Affrica):
Warrick Gelant (De Affrica); Andrew Kellaway (Awstralia), Virimi Vakatawa (Ffrainc), Alex Nankivell (Munster), Duhan van der Merwe (Yr Alban); Tomás Albornoz (Ariannin), TJ Perenara (Seland Newydd, capten); Mayko Vivas (Ariannin), Elliot Dee (Cymru), D’Arcy Rae (Yr Alban), Franco Molina (Ariannin), Alex Moon (Bayonne), Lachlan Boshier (Panasonic Wild Knights), Guido Petti (Ariannin), Miracle Fai’ilagi (Samoa).

Eilyddion:
Leonel Oviedo (Ariannin), Oli Kebble (Yr Alban), Pedro Delgado (Ariannin), Izack Rodda (Awstralia), Liam McConnell (Yr Alban), Santiago Arata (Wrwgwái), Harry Plummer (Seland Newydd), Tuidraki Samusamuvodre (Fiji).

Related Topics