Bydd Alisha Joyce a Jasmine Joyce, dwy o chwaraewyr rhyngwladol Cymru, yn dychwelyd adref i Gymru i chwarae eu rygbi clwb y tymor nesaf.
Mae’r ddwy wedi cael eu rhyddhau o’u cytundebau gyda’u clwb a byddant yn gadael Bryste unwaith i’w hymgyrch yn Uwch Gynghrair Lloegr ddod i ben y tymor hwn.
Priododd y cwpl yn 2023, mae ganddynt fab bychan Ralphie, ac mae eu cartref yng ngorllewin Cymru, sy’n golygu cryn dipyn o deithio i Fryste i gynrychioli eu clwb ar hyn o bryd.
Cafodd Alisha yr hawl i gynrychioli Brython Thunder yn yr Her Geltaidd ddiwedd y tymor diwethaf – dim ond 123 diwrnod ar ôl iddi roi genedigaeth i’w mab.
Yn fuan iawn wedi hynny, fe gamodd yn ôl i’r llwyfan rhyngwladol fel eilydd i Gymru yn erbyn Lloegr ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness – 158 diwrnod yn unig wedi i Ralphie ddod i’r byd.
Enillodd Alisha ei 56fed cap dros ei gwlad yn erbyn Yr Eidal ac mae hi wedi sgorio saith cais dros Gymru.
Mae’r cwpl wedi chwarae i Fryste ers 2020 a bydd eu gêm olaf dros y clwb yn erbyn Hartpury-Caerloyw ddydd Sul, 7 Mehefin.
Jasmine Joyce yw’r unig chwaraewr rygbi i gynrychioli Prydain deirgwaith yn y Gemau Olympaidd, gan wneud hynny yn Rio,Tokyo a Pharis.
Mae Jaz wedi ennill 57 o gapiau dros Gymru ac wedi sgorio 11 cais dros ei gwlad hyd yma.
Gwnaeth y ddwy eu hymddangosiadau cyntaf dros Brython Thunder yn ddiweddar, wrth i’r clwb gyrraedd rownd gyn-derfynol gemau ail-gyfle yr Her Geltaidd.
Dywedodd Alisha Joyce, blaen-asgellwr Cymru: “Nid yw hwn wedi bod yn benderfyniad hawdd i ni, ond ry’n wedi’i wneud am resymau teuluol, gan bod Ralphie gyda ni erbyn hyn.
“Dyw’r teithio cyson i Fryste i ymarfer a chwarae ddim yn ddelfrydol, ac ry’n ni’n gwybod bod angen cefnogaeth ein teuluoedd a’n ffrindiau arnom i fagu Ralphie.
“Mae ein bywydau wedi newid yn llwyr ers iddo gyrraedd, ond ry’n ni’n dwy yn dal yn hollol benderfynol o wneud y mwyaf o’n gyrfaoedd fel chwaraewyr rygbi proffesiynol. Ry’n ni’n gwybod y bydd y penderfyniad yma yn rhoi sicrwydd a chefnogaeth i ni allu gwneud hynny.
“Ry’n ni’n ddiolchgar iawn i Fryste, sydd wedi bod fel ail gartref i’r ddwy ohonon ni, am ddeall ein sefyllfa ac am gefnogi’n penderfyniad. Bydd y ddwy ohonon ni’n gadael y clwb gydag atgofion gwych a melys iawn.”
Dywedodd Jasmine Joyce, chwaraewr tri ôl Cymru: “Roedd hwn yn benderfyniad mawr – ond yn benderfyniad cywir i ni fel teulu.
“Mae dyfodol Ralphie yn gwbl ganolog i’n bywydau bellach ac yn naturiol ry’n ni eisiau’r gorau iddo. Wedi dweud hynny, ry’n ni’n dwy eisiau parhau ein gyrfaoedd rygbi fel athletwyr proffesiynol hyd eithaf ein gallu hefyd.
“Mae Alisha a finnau’n dal yn uchelgeisiol iawn ac mae ganddo ni lawer i’w gynnig a’i brofi o hyd ar lefel clwb ac ar y llwyfan rhyngwladol.
“Mae’r ddwy ohonon ni wastad wedi bod eisiau chwarae rygbi clwb o safon uchel yng Nghymru, ond dim ond nawr y mae’r cyfle hwnnw ar gael i ni.”
Dywedodd Sean Lynn, Prif Hyfforddwr Cymru: “Nid ydym wedi cuddio ein huchelgais i weld ein chwaraewyr rhyngwladol yn dychwelyd adref ac yn chwarae eu rygbi yma yng Nghymru.
“Mae’r ffaith bod Alisha a Jaz wedi gwneud y penderfyniad yma ar ôl chwarae eu rhan yn yr Her Geltaidd yn dangos bod ganddyn nhw ffydd ein bod yn gallu darparu’r llwyfan iddyn nhw ddatblygu ymhellach wrth chwarae eu rygbi yma.
“Bydd cael eu profiad nhw o chwarae am flynyddoedd yn Uwch Gynghrair Lloegr ac mewn gemau Prawf yn werthfawr iawn i ni – yn enwedig wrth iddyn nhw ddylanwadu ar nifer o’r chwaraewyr iau.”
Dywedodd Dave Reddin, Cyfarwyddwr Rygbi a Pherfformiad Elît Undeb Rygbi Cymru:
“Mae hyn yn arwydd pellach o’r camau cadarnhaol y mae rygbi Cymru wedi’u cymryd yn ddiweddar. Mae’r ffaith bod dwy chwaraewraig ryngwladol brofiadol yn teimlo’n gyfforddus i ddychwelyd adref i chwarae rygbi clwb yma’n adrodd cyfrolau.
“Fyddai hyn ddim wedi bod yn ymarferol bosib ychydig flynyddoedd yn ôl – ond mae’r safon angenrheidiol yno bellach – ac mae’n dangos bod y buddsoddiad sydd wedi cael ei wneud gan Undeb Rygbi Cymru i ddarparu rygbi o ansawdd uchel yng Nghymru yn dechrau talu ei ffordd.”
