Cafodd Lloyd Williams ddiweddglo perffaith i’w yrfa wrth iddo helpu Caerwrangon i gipio teitl Pencampwriaeth Elior yn Bedford.
Roedd perfformiadau cyn fewnwr Caerdydd a Chymru a’i gyd Gymro Will Reed yn allweddol wrth i’r ymwelwyr greu tipyn o sioc wrth guro Bedford ar eu tomen eu hunain.
Wedi i Gaerwragon orffen yn bedwerydd yn ystod y tymor arferol, fe lwyddon nhw i ennill y rownd gynderfynol yn Ealing yr wythnos flaenorol – cyn talu’r pwyth i Bedford am eu curo ddwywaith yn gynharach yn y tymor.
Diweddlo tylwyth teg i Williams yn ei gêm gystadleuol olaf o rygbi a thipyn o lwyddiant i’r clwb hefyd. Yn dilyn problemau ariannol, gorfodwyd y clwb i ddod i ben am bedair blynedd – a’r tymor hwn oedd eu hymgyrch gyntaf ers y dyddiau duon hynny yn 2022.
Ymunodd Williams â’r clwb o Ealing, ac fe sicrhaodd y Prif Hyfforddwr Matt Everard wasanaeth Reed a George Young o’r Dreigiau – osododd sylfaen gadarn a chystadleuol i’r garfan.
Roedd y maswr Reed yn amlwg iawn yn ystod y fuddugoliaeth yn Ealing ac unwaith eto chwaraeodd ei ran yn llawn wrth i Gaerwrangon adeiladu ar eu mantais o 17-14 ar yr egwyl, cyn ychwanegu 10 pwynt arall wedi troi, i gadarnhau eu buddugoliaeth ryfeddol yn Bedford.
Yn anffodus i Gaerwrangon, byddant yn aros yn ail haen rygbi Lloegr wedi i’r drefn o esgyn a disgyn gael ei dileu yn gynharach eleni.
Rhoddodd gais Hugh Bokenham fantais gynnar i Gaerwrangon, ond ymatebodd Bedford i fynd 14-5 ar y blaen o ganlyniad i geisiau gan Joey Conway a Dean Adamson. Yna croesodd Tim Anstee yn y gornel i’r ymwelwyr, a chafodd pwysau Caerwrangon yn hwyr yn yr hanner cyntaf ei wobrwyo pan roddodd sgôr Redd driphwynt o fantais i’w dîm erbyn yr egwyl.
Cais Siva Naulago a chic gosb gan Billy Twelvetrees gadarnhaodd y fuddugoliaeth i Gaerwrangon – gan sicrhau diweddglo llwyddiannus i yrfa hynod lwyddiannus Lloyd Williams.
