News

Cyhoeddi trefn gemau tymor newydd Super Rygbi Cymru

Ni fydd Lee Rees ar gael i Lanymddyfri'r tymor hwn

Bydd Llanymddyfri yn dechrau eu hymgyrch i amddiffyn eu coron Super Rygbi Cymru ym Mharc Pont-y-pŵl ar benwythnos agoriadol gemau’r tymor newydd.

Gyda gwaith uwchraddio’n digwydd ar gaeau Abertawe a Phen-y-bont yr haf hwn, bu’n rhaid addasu trefn eu gemau – sydd o’r herwydd wedi amharu ar y drefn arferol  geiso chwarae gemau gartref ac oddi-cartref am yn ail.

Bydd Abertawe yn chwarae eu pedair gêm gyntaf oddi cartref, cyn dychwelyd i Faes Sain Helen y tymor nesaf, tra bydd Pen-y-bont yn wynebu tair gêm cyn mwynhau pedair gêm yn olynol ar Faes y Bragdy.

Yr un 10 tîm fydd yn cystadlu am goron Super Rygbi Cymru, Cwpan SRC a Tharian Her SRC am y trydydd tymor yn olynol, a bydd Llanymddyfri yn gobeithio adeiladu ar eu llwyddiant yn y Cwpan yn 2024-25 a’u buddugoliaeth yn yn Ffeinal Fawr y Cynghrair yn 2025-26 hefyd.

Dywedodd Prif Hyfforddwr y Porthmyn, Euros Evans: “Dyw chwarae’n gêm gyntaf ar Barc Pont-y-pŵl ddim yn ddechrau hawdd i ni, yn enwedig o ystyried y ffordd y maen nhw wedi cryfhau eu carfan dros gyfnod yr haf.

“Roedden nhw wedi gwella’n sylweddol y tymor diwethaf ac maen nhw wedi arwyddo nifer o chwaraewyr o safon wrth edrych ymlaen at yr ymgyrch eleni.

“Ry’n ni wedi colli gwasanaeth ein capten Lee Rees a’r chwaraewr rheng ôl dylanwadol Stuart Worrall, ond ry’n ni wedi llwyddo cadw mwyafrif y garfan enillodd y teitl i ni’r tymor diwethaf. Mae ganddon ni hefyd dalent ifanc newydd ar gael i ni sy’n gyffrous iawn.”

Bydd George McDonald, Lucca Setaro ac Arron Hemmings yn brwydro am grys Rhif 9 Llanymddyfri wedi i Lee Rees ei wisgo mewn 402 o gemau dros y Porthmyn, tra mae Tiaan Sparrow fydd yn debygol o olynu Worrall yn y rheng ôl.

Bydd Glyn Ebwy yn chwarae tair o’u pedair gêm gyntaf ar Barc Eugene Cross – gan ddechrau eu hymgyrch yno yn erbyn Abertawe, cyn teithio i Aberafan ac yna dychwelyd adref i wynebu Rygbi Gogledd Cymru a Chaerdydd.

Mae deiliaid Cwpan a Tharian Super Rygbi Cymru, Casnewydd, yn dechrau eu tymor gyda gêm gartref yn erbyn RGC cyn teithio tua’r gorllewin i wynebu’r Pencampwyr ar Fanc yr Eglwys.

Caerdydd oedd ar frig y cynghrair pan ddaeth y tymor arferol i ben – cyn iddyn nhw golli gartref yn erbyn Llanymddyfri yn y rownd gynderfynol. Bydd ganddyn nhw ddiweddglo heriol i’w tymor eleni gan y byddan nhw’n gorfod teithio i Lanymddyfri ac yna i Gasnewydd yn nwy o’u tair gêm olaf.

Gemau Super Rygbi Cymru 2026/27

Rownd 1 – 12/09/2026
Cwins Caerfyrddin v Caerdydd
Glyn Ebwy v Abertawe
Casnewydd v RGC
Aberafan v Pen-y-bont
Pont-y-pŵl v Llanymddyfri

Rownd 2 – 19/09/2026
Caerdydd v Abertawe
RGC v Cwins Caerfyrddin
Aberafan v Glyn Ebwy
Llanymddyfri v Casnewydd
Pont-y-pŵl v Pen-y-bont

Rownd 3 – 26/09/2026
Caerdydd v Pont-y-pŵl
Llanymddyfri v Pen-y-bont
Casnewydd v Aberafan
Glyn Ebwy v RGC
Cwins Caerfyrddin v Abertawe

Rownd 4 – 03/10/2026
Glyn Ebwy v Caerdydd
Casnewydd v Cwins Caerfyrddin
Pen-y-bont v Abertawe
Pont-y-pŵl v RGC
Llanymddyfri v Aberafan

Rownd 5 – 10/10/2026
Caerdydd v Cwins Caerfyrddin
Abertawe v Glyn Ebwy
RGC v Casnewydd
Pen-y-bont v Aberafan
Llanymddyfri v Pont-y-pŵl

Rownd 6 – 17/10/2026
Abertawe v Caerdydd
Cwins Caerfyrddin v RGC
Glyn Ebwy v Aberafan
Casnewydd v Llanymddyfri
Pen-y-bont v Pont-y-pŵl

Rownd 7 – 24/10/2026
Pen-y-bont v Caerdydd
Pont-y-pŵl v Casnewydd
Llanymddyfri v Glyn Ebwy
Aberafan v Cwins Caerfyrddin
RGC v Abertawe

Rownd 8 – 31/10/2026
Caerdydd v Glyn Ebwy
Cwins Caerfyrddin v Casnewydd
Abertawe v Pen-y-bont
RGC v Pont-y-pŵl
Aberafan v Llanymddyfri

Rownd 9 – 21/11/2026
Caerdydd v Llanymddyfri
Pont-y-pŵl v Aberafan
Pen-y-bont v RGC
Casnewydd v Abertawe
Glyn Ebwy v Cwins Caerfyrddin

Rownd 10 – 28/11/2026
Aberafan v Casnewydd
Pen-y-bont v Glyn Ebwy
Pont-y-pŵl v Caerdydd
Abertawe v Cwins Caerfyrddin
Llanymddyfri v RGC

Rownd 11 – 05/12/2026
Caerdydd v Casnewydd
RGC v Aberafan
Cwins Caerfyrddin v Pen-y-bont
Glyn Ebwy v Llanymddyfri
Abertawe v Pont-y-pŵl

Rownd 12 – 12/12/2026
Aberafan v Caerdydd
RGC v Pen-y-bont
Cwins Caerfyrddin v Pont-y-pŵl
Casnewydd v Glyn Ebwy
Llanymddyfri v Abertawe

Rownd 13 – 19/12/2026
Aberafan v Abertawe
Caerdydd v RGC
Llanymddyfri v Cwins Caerfyrddin
Pont-y-pŵl v Glyn Ebwy
Pen-y-bont v Casnewydd

Rownd 14 – 26/12/2026
Abertawe v Aberafan
Casnewydd v Pen-y-bont
Cwins Caerfyrddin v Llanymddyfri
Glyn Ebwy v Pont-y-pŵl
RGC v Caerdydd

Rownd 15 – 02/01/2027
Cwins Caerfyrddin v Aberafan
Caerdydd v Pen-y-bont
RGC v Glyn Ebwy
Abertawe v Llanymddyfri
Casnewydd v Pont-y-pŵl

Rownd 16 – 27/03/2027
Aberafan v RGC
Pen-y-bont v Cwins Caerfyrddin
Llanymddyfri v Caerdydd
Glyn Ebwy v Casnewydd
Pont-y-pŵl v Abertawe

Rownd 17 – 03/04/2027
Caerdydd v Aberafan
Glyn Ebwy v Pen-y-bont
Pont-y-pŵl v Cwins Caerfyrddin
RGC v Llanymddyfri
Abertawe v Casnewydd

Rownd 18 – 10/04/2027
Aberafan v Pont-y-pŵl
Pen-y-bont v Llanymddyfri
Casnewydd v Caerdydd
Cwis Caerfyrddin v Glyn Ebwy
Abertawe v RGC

Gemau Ail Gyfle – 17/04/2027
7fed v 10fed — AG 1
8fed v 9fed — AG 2

Rowndiau Chwarterol – 24/04/2027
1af v AG 1 — Wyth Olaf 1
4ydd v 5ed — Wyth Olaf 2
2il v AG 2 — Wyth Olaf 3
3ydd v 6ed — Wyth Olaf 4

Rownd Gynderfynol 1 – 01/05/2027
Enillydd Wyth Olaf 1 v Enillydd Wyth Olaf 2 — CD 1

Rownd Gynderfynol 2 – 02/05/2027
Enillydd Wyth Olaf 3 v Enillydd Wyth Olaf 4 — CD 2

Y Rownd Derfynol Fawr – 09/05/2027
Enillwyr CD 1 v Enillwyr CD 2
Lleoliad i’w gadarnhau

Related Topics