Wrth wirfoddoli yng Nghlwb Rygbi Pen-coed, nid yw Larry Weaver erioed wedi chwilio am unrhyw gydnabyddiaeth – gan bo’r clwb yn cynnig ymdeilmad o berthyn dwfn iddo. Ond yn ystod Wythnos y Gwirfoddolwyr 2026, cafodd y gŵr sydd wedi cynnig gymaint o wasanaeth i’r clwb dros y blynyddoedd dipyn o syndod, pan gyflwynodd chwaraewr rhyngwladol Cymru, Sam Costelow, dystysgrif arbennig iddo i gydnabod ei gyfraniad gwerthfawr.
Mae Larry yn wyneb cyfarwydd iawn yn y clwb gan ei fod yn paratoi’r cit, gofalu am eiddo gwerthfawr y chwaraewyr, a gwerthu tocynnau loteri i godi arian at goffrau’r clwb. Er gwaethaf yr oriau hir o wirfoddoli – yn enwedig ar ddyddiau gemau – mae Larry’n mwynhau pob eiliad!
“Mae gallu gwneud cyfraniad ymarferol at y clwb yn brofiad pwysig a gwerthfawr i mi – ac rydw i’n cael llawer iawn o bleser o wneud hynny. O’r eiliad gyntaf i mi ddod i’r clwb – fe gefais fy nerbyn yn syth. Mae dod i adnabod llawer iawn o bobl a gwybod fy mod yn cael fy ngwerthfawrogi’n beth braf iawn.”
Mae Larry yn cofio ac yn trysori’r croeso twymgalon gafodd wrth ddychwelyd i’r ystafell newid, wedi cyfnod anodd o ddioddef gyda thrafferthion iechyd meddwl. Y diwrnod hwnnw fe ddechreuodd y chwaraewyr weiddi ei enw – gan ddangos rygbi llawr gwlad ar ei orau.
Ychwanegodd Geraint John, Cyfarwyddwr Cymunedol Undeb Rygbi Cymru,
“Gwirfoddolwyr yw enaid y gêm gymunedol yma yng Nghymru. Heb ymdrech, egni ac angerdd unigolion fel Larry – fyddai dim rygbi ar lawr gwlad i’w gael.”
“Y bobl hyn sy’n creu’r cyfleoedd i chwaraewyr wella a thyfu gan hefyd ar yr un pryd gysylltu cymunedau a chreu ymdeimlad o berthyn – sy’n llawer cryfach na dim ond yr 80 munud ar y cae.
“Mae eu dylanwad yn amhrisiadwy – ac mae’n bwysig ein bod yn cofnodi a dathlu popeth sy’n cael ei wneud ganddynt.”
Mae stori Larry yn enghraifft berffaith o werth a grym gwirfoddoli. Cyfrannu at guriad calon ein clybiau cymunedol ar y naill law – a chreu cysylltiadau a chyfeillion oes ar y llall.
❤️ “You’ll never ever know how much you’ve done for me.”
A special surprise for Larry, the heartbeat of clubs like @pencoedrfc
This @VolunteersWeek, we’re celebrating every unsung hero just like him 🤝@WRU_Community | @GILBERT_RUGBY pic.twitter.com/zcpUi7ltx5
— Welsh Rugby Union 🏴 (@WelshRugbyUnion) June 1, 2026
A diolch i’r foment arbennig honno gyda Sam Costelow, mae cyfraniad Larry Weaver wedi cael ei gydnabod a’i ddathlu’n haeddiannol.
Diolch, Larry!
Gwyliwch y foment y mae Sam Costelow yn synnu Larry!
