Gyda llai na 18 mis i fynd hyd nes y bydd Cwpan y Byd yn dechrau yn Awstralia, mae Prif Hyfforddwr Cymru, Steve Tandy, wedi bod yn ymweld â’r meysydd y bydd Cymru’n chwarae ynddyn nhw yn ystod y gystadleuaeth. Mae hefyd wedi bod yn ystyried nifer o gyfleusterau ymarfer posibl ar gyfer eu cyfnod yn Awstralia.
Bydd Cymru’n dechrau eu hymgyrch yng Nghwpan y Byd ddydd Sadwrn 2 Hydref yn erbyn Zimbabwe a hynny’n yr Oval yn Adelaide, a chafodd Tandy, ynghyd â Rheolwr y Tîm Martyn Williams, a Phennaeth Perfformiad Corfforol y garfan, Huw Bennett, daith o amgylch y stadiwm gan drefnwyr y gystadleuaeth.

Fe gawsant hefyd y cyfle i wylio tîm pêl-droed Awstralaidd yr Adelaide Crows, sy’n chwarae eu holl gemau cartref yn yr Oval, yn ystod sesiwn ymarfer, yn ogystal â chyfarfod â’r staff hyfforddi.
Dywedodd Steve Tandy:
“Mae’r stadiwm yn hollol anhygoel. Dywedodd bechgyn y Crows wrthon ni am y torfeydd y maen nhw’n eu cael a’r awyrgych gwych sydd yn y stadiwm ar ddiwrnod gêm. Mae’n lle gwirioneddol arbennig ac allwn ni ddim aros i ddod yn ôl yma i chwarae. Mae’r holl gyfleusterau ry’n ni wedi’u gweld yn wych, ac mae pob lleoliad yn edrych yn anhygoel.
“Dwi’n credu y bydd y cefnogwyr wrth eu bodd yma. Gobeithio y bydd llawer o’n cefnogwyr yn gwneud y daith yma oherwydd dwi’n siwr y cawn nhw brofiadau gwych yma yn Awstralia. Fe wnes i fyw yn Sydney am ddwy flynedd. Mae’n lle sy’n agos at fy nghalon i a’r teulu, a dwi’n siwr y gwnaiff yr holl garfan fwynhau pob eiliad o fod yma.
“Mae cefnogwyr Cymru’n anhygoel. Maen nhw’n teithio yn eu niferoedd ac os y gallwn ni ail-greu rhywbeth sy’n debyg i’r awyrgylch sydd i’w gael yng Nghaerdydd, bydd hynny’n ysbrydoliaeth enfawr i’r bechgyn.
“Mae chwarae dros Gymru yn golygu cymaint i’r chwaraewyr ac mae ganddyn nhw falchder enfawr wrth gynrychioli’r genedl. Dwi’n gwybod hefyd y byddai gweld môr o grysau coch yn ystod ein gemau yng Nghwpan y Byd yn cynnig ysbrydoliaeth pellach i’r chwaraewyr hefyd.”
