Mae Prif Hyfforddwr Cymru, Steve Tandy, wedi enwi carfan estynedig o 48 chwaraewr ar gyfer Gemau Haf Cymru yn 2026.
Bydd Cymru’n wynebu’r Barbariaid mewn gêm oddi cartref di-gap yn Stadiwm Allianz, Twickenham, ar 27 Mehefin – yr un diwrnod, a’r un lleoliad â’r ornest rhwng Menywod Cymru a’r Barbariaid. Y penwythnos canlynol bydd ymgyrch dynion Cymru ym Mhencampwriaeth gyntaf erioed y Cenhedloedd yn dechrau.
Mae chwe chwaraewr sydd eto i ennill cap wedi’u dewis ymhlith y 27 o flaenwr a’r 21 o olwyr sydd wedi eu henwi heddiw: prop pen rhydd Caerdydd, Rhys Barratt; blaen-asgellwr Caerwysg, Kane James; deuawd rheng ôl y Dreigiau, Harrison Keddie a Ryan Woodman; prop pen tynn y Gweilch, Ben Warren; a chanolwr yr Harlequins, Bryn Bradley.

Mae Jac Morgan, Max Llewellyn a Teddy Williams yn dychwelyd i’r garfan ar ôl colli Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness eleni oherwydd anafiadau.
Mae Ellis Bevan, Dillon Lewis, Tommy Reffell a Joe Roberts hefyd wedi’u henwi yn y garfan estynedig hon.
Mae penderfyniad wedi’i wneud i roi seibiant i Tomas Francis yr haf hwn. Ni fydd Archie Griffin yn chwarae dros ei wlad dros gyfnod yr haf chwaith gan y bydd yn cael llawdriniaeth ar ddiwedd y tymor.
Bydd carfan Cymru’n dod at ei gilydd yn raddol, gan ddibynnu ar pryd y daw tymor eu clybiau i ben. Mae disgwyl i’r grŵp cyntaf o chwaraewyr gyrraedd yr ymarferion cenedlaethol ddydd Llun 1 Mehefin.
Dywedodd Steve Tandy: “Bydd rhai chwaraewyr yn gorffen eu tymhorau gyda’u clybiau’r penwythnos nesaf ond mae’n bosib na fydd rhai eraill yn gallu ymuno â’r garfan tan 27 Mehefin. Yn amlwg felly bydd y garfan yn dod at ei gilydd yn raddol a dyna’r rheswm pam fy mod wedi dewis 48 o chwaraewyr. Byddwn yn gwneud penderfyniad am y garfan lai ar gyfer Pencampwriaeth y Cenhedloedd ar ôl i ni wynebu’r Barbariaid.
“Ein blaenoriaethau ni yr haf yma yw parhau i ddatblygu’r chwaraewyr, gwneud yn siwr bod eu lefelau ffitrwydd yn cyrraedd y safon angenrheidiol a datblygu eu sgiliau yn ystod eu cyfnod gyda ni. Fe all y ffaith y bydd ganddon ni grwpiau llai ambell waith yn helpu gyda hynny ond y bwriad clir yw gwneud yn siwr ein bod yn cael pawb i fyny i’r un lefel yn y pendraw a bod y cynnydd hwnnw’n ein galluogi i weithredu’n patrymau a’n cynlluniau chwarae hefyd.”
Wrth sôn am Pete Murchie, sy’n ymuno fel Hyfforddwr Amddiffyn yr haf hwn, a Dan Lydiate sydd wedi’i benodi’n Hyfforddwr Arbenigol llawn amser, fydd yn canolbwyntio ar sgiliau amddiffynnol yn ardal y dacl, ychwanegodd Steve Tandy: “Bydd Pete yn dod â llawer o fanylder gwerthfawr gydag ef fydd yn ein galluogi i adeiladu ar rai o’r perfformiadau amddiffynnol gawson ni yn ystod y Chwe Gwlad eleni. Bydd ei angerdd, ei egni a’i fanylder yn werthfawr i ni fel grŵp.
“Fe gafodd Dan ddylanwad mawr yn ystod y ddwy ymgyrch yr oedd gyda ni o ran sgiliau cynnil, boed hynny yn y dacl ei hun neu’r gwaith angenrheidiol yn dilyn y dacl. Dwi’n credu hefyd, yn y tymor hir, y bydd y ffordd y bydd yn cadw mewn cysylltiad gyda’r bechgyn, ac yn cynnig arweiniad iddyn nhw, yn ystod y cyfnodau pan nad ydyn nhw gyda’r garfan genedlaethol, yn chwarae rhan enfawr yn ein datblygiad ni fel unigolion ac fel grŵp.”
Mae tocynnau i wylio’r ddwy gêm ar yr un diwrnod rhwng Cymru a’r Barbariaid ar gael yma.
Yn ystod cyfnod cyntaf o gemau Pencampwriaeth y Cenhedloedd, fydd yn cael eu chwarae fis Gorffennaf, bydd Cymru’n wynebu Fiji mewn gêm oddi cartref yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 4 Gorffennaf.
Yna bydd y garfan yn teithio i Dde America i chwarae Ariannin yn San Juan ar 11 Gorffennaf cyn symud ymlaen i Dde Affrica i wynebu’r Springboks yn Durban ar 18 Gorffennaf.
Mae tocynnau i wylio Fiji v Cymru yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar gael yma.
CARFAN ESTYNEDIG CYMRU AR GYFER HAF 2026
Blaenwyr (27)
Keiron Assiratti (Caerdydd – 19 cap)
Rhys Barratt (Caerdydd – heb gap eto)
Adam Beard (Montpellier – 65 cap)
Liam Belcher (Caerdydd – 5 cap)
James Botham (Caerdydd – 21 cap)
Rhys Carre (Saraseniaid – 28 cap)
Ben Carter (Dreigiau – 19 cap)
Olly Cracknell (Caerlŷr – 5 cap)
Ryan Elias (Scarlets – 48 cap)
Kane James (Caerwysg – heb gap eto)
Dafydd Jenkins (Caerwysg – 31 cap)
Harrison Keddie (Dreigiau – heb gap eto)
Dewi Lake (Gweilch – 31 cap)
Dillon Lewis (Dreigiau – 57 cap)
Evan Lloyd (Caerdydd – 8 cap)
Alex Mann (Caerdydd – 16 chap)
Jac Morgan (Gweilch – 24 cap)
Taine Plumtree (Scarlets – 14 cap)
Tommy Reffell (Caerlŷr – 29 cap)
Nicky Smith (Caerlŷr – 63 chap)
Gareth Thomas (Gweilch – 44 cap)
Freddie Thomas (Caerloyw – 8 cap)
Aaron Wainwright (Dreigiau – 67 cap)
Sam Wainwright (Caerdydd – 4 cap)
Ben Warren (Gweilch – heb gap eto)
Teddy Williams (Caerdydd – 8 cap)
Ryan Woodman (Dreigiau – heb gap eto)
Olwyr (21)
Josh Adams (Caerdydd – 70 cap)
Ellis Bevan (Caerdydd – 6 chap)
Bryn Bradley (Harlequins – heb gap eto)
Sam Costelow (Scarlets – 20 cap)
Dan Edwards (Gweilch – 11 cap)
Jarrod Evans (Harlequins – 17 cap)
Mason Grady (Caerdydd – 17 cap)
Kieran Hardy (Gweilch – 31 cap)
Gabriel Hamer-Webb (Caerlŷr – 1 cap)
Joe Hawkins (Scarlets – 11 cap)
Louie Hennessey (Caerfaddon – 1 cap)
Eddie James (Scarlets – 9 cap)
Max Llewellyn (Caerloyw – 11 cap)
Ellis Mee (Scarlets – 8 cap)
Reuben Morgan-Williams (Gweilch – 2 gap)
Blair Murray (Scarlets – 16 chap)
Louis Rees-Zammit (Bryste – 40 cap)
Joe Roberts (Scarlets – 7 cap)
Tom Rogers (Scarlets – 13 chap)
Ben Thomas (Caerdydd – 18 cap)
Tomos Williams (Caerloyw – 72 cap)
GEMAU HAF CYMRU 2026
Dydd Sadwrn 22 Mehefin: Y Barbariaid v Cymru
Stadiwm Allianz, Twickenham
14.00
CYFNOD CYNTAF GEMAU PENCAMPWRIAETH Y CENHEDLOEDD – GORFFENNAF
Dydd Sadwrn 4 Gorffennaf: Fiji v Cymru, Stadiwm Dinas Caerdydd
Dydd Sadwrn 11 Gorffennaf: Ariannin v Cymru, Estadio San Juan del Bicentenario, San Juan
Dydd Sadwrn 18 Gorffennaf: De Affrica v Cymru, Hollywoodbets Kings Park, Durban
