Mae Prif Hyfforddwr Cymru, Sean Lynn, wedi enwi ei dîm i wynebu Iwerddon ym Mhedwaredd Rownd o gemau Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness y Menywod fydd yn cael ei chynnal yn Stadiwm Affidea, Belfast ddydd Sadwrn, 9 Mai (6.30pm).
Bydd y blaenasgellwr Bethan Lewis yn gapten ar dîm Cymru sy’n cynnwys tri newid a thri newid safle i’r tîm chwaraeodd yn erbyn Lloegr.
Yn yr ornest honno ym Mryste, fe hawliodd y Cymry bwynt bonws a’u cyfanswm pwyntiau uchaf erioed yn erbyn Lloegr.
Ar gyfer y gêm yn erbyn y Gwyddelod, bydd y canolwr Carys Cox yn dychwelyd i ganol y cae i bartneru Courtney Keight.
Mae Hannah Dallavalle wedi’i henwi ar yr asgell, tra bod Branwen Metcalfe yn symud i’r ail reng i bartneru Georgia Evans, fydd yn dechrau ei gêm gyntaf o’r ymgyrch yn y Bencampwriaeth eleni.
Mae Jorja Aiono wedi’i dewis fel blaenasgellwr ochr dywyll a bydd hi’n ymuno â’i chapten Lewis a’r wythwr Bryonie King yn y rheng ôl.
Does dim newid yn rheng flaen Cymru gan bo’r propiau Gwenllian Pyrs a Sisilia Tuipulotu, a’r bachwr Kelsey Jones, yn dechrau eu pedwaredd gêm yn olynol fel uned.
O safbwynt yr haneri – bydd Keira Bevan yn parhau’n safle’r mewnwr – felly hefyd Lleucu George yn safle’r maswr.
Bydd tri ôl Cymru, gyda Dallavalle a Jasmine Joyce ar yr esgyll a Kayleigh Powell yn gefnwr, yn drindod brofiadol iawn.
Os y caiff yr eilydd o asgellwr Nikita Prothero ei galw o’r fainc – bydd hi’n cynrychioli ei gwlad am y tro cyntaf – a hi fyddai pumed cap newydd Cymru yn ystod Pencampwriaeth Chwe Gwlad y Menywod 2026.
Yr asgellwr Seren Singleton, y blaenwr Jorja Aiono, a’r canolwyr Jenna De Vera a Freya Bell sydd wedi ennill eu capiau cyntaf hyd yma’n ystod yr ymgyrch eleni.
Os y caiff y clo profiadol Natalia John ei chyfle oddi ar y fainc bydd hi’n cynrychioli ei gwlad am yr 50fed tro.
Mae un deg pedwar o chwaraewyr sydd wedi eu cynnwys yn y garfan hon eisoes wedi herio timau o Iwerddon a’r Alban yn yr Her Geltaidd wrth gynrychioli Gwalia Lightning a Brython Thunder.
Ar hyn o bryd mae Iwerddon yn bumed o safbwynt detholion y byd ac maen nhw yng nghanol tabl Pencampwriaeth Chwe Gwlad y Menywod 2026.
Dywedodd Sean Lynn, Prif Hyfforddwr Cymru: “Ry’n ni’n gyffrous i ail-afael yn ein hymgyrch yn y Chwe Gwlad ac i adeiladu ar ein perfformiad dygn a di-ildio yn erbyn Lloegr. Roedd ein dau gais hwyr i gipio pwynt bonws yn eu herbyn yn brawf amlwg o hynny.
“Yn ystod y gêm honno, fe gymron ni gam mawr i’r cyfeiriad cywir wrth i ni ddatblygu ein harddull a’n hunaniaeth fel tîm, ac ry’n ni’n gwybod bod angen gwneud yr un peth eto ar dir Iwerddon.
“Mae’n rhaid i ni fod yn driw i’n hegwyddorion a’n cynlluniau chwarae, ac mae’n rhaid i ni hefyd ganolbwyntio ar gyflawni ein disgwyliadau ym merw gêm brawf bwysig arall.
“Mae pob gêm yn y gystadleuaeth hon wedi ein gweld yn ychwanegu haen arall at ddatblygiad y tîm yma – wrth i ni geisio gwireddu ein dyheadau fel carfan. Ry’n ni’n disgwyl gweld y datblygiad hwnnw’n parhau yn erbyn Iwerddon hefyd.
“Mae’r Gwyddelod yn dîm uchelgeisiol ac fe fyddan nhw’n eithaf siomedig gyda’u canlyniadau’n y Bencampwriaeth hyd yma eleni. Oherwydd hynny, ry’n ni’n disgwyl ymateb penderfynol a ffyrnig ganddyn nhw yn Belfast ddydd Sadwrn.”
O ganlyniad i anaf i’w phen-glin, penderfynwyd peidio ag ystyried dewis y clo Gwen Crabb ar gyfer yr ornest hon.
Cymru v Iwerddon
15 Kayleigh Powell (Harlequins) 31 cap, 10 pwynt
14 Hannah Dallavalle (Hartpury-Caerloyw) 71 cap, 25 pwynt
13 Carys Cox (Ealing) 24 cap, 25 pwynt
12 Courtney Keight (Sale/Brython Thunder) 31 cap
11 Jasmine Joyce (Bryste/Brython Thunder) 55 cap, 50 pwynt
10 Lleucu George (Hartpury-Caerloyw) 38 cap
9 Keira Bevan (Bryste) 81 cap, 156 pwynt
1 Gwenllian Pyrs (Sale) 54 cap, 20 pwynt
2 Kelsey Jones (Hartpury-Caerloyw) 55 cap, 30 pwynt
3 Sisilia Tuipulotu (Hartpury-Caerloyw /Brython Thunder) 32 cap, 40 pwynt
4 Branwen Metcalfe (Brython Thunder) 4 cap
5 Georgia Evans (Saraseniaid) 46 chap, 10 pwynt
6 Jorja Aiono (Brython Thunder) 3 chap
7 Bethan Lewis (Capten, Hartpury-Caerloyw /Gwalia Lightning) 63 chap, 35 pwynt
8 Bryonie King (Gwalia Lightning) 15 cap
Eilyddion
16 Molly Reardon (Gwalia Lightning) 15 cap, 10 pwynt
17 Maisie Davies (Gwalia Lightning/Bryste) 15 cap
18 Donna Rose (Saraseniaid) 40 cap, 10 pwynt
19 Natalia John (Brython Thunder) 49 cap
20 Alisha Joyce (Brython Thunder/Bryste) 54 cap, 35 pwynt
21 Seren Lockwood (Brython Thunder) 7 cap, 5 pwynt
22 Freya Bell (Gwalia Lightning) 1 cap
23 Nikita Prothero (Gwalia Lightning/Sale) heb gap eto
