News

Pwynt bonws hwyr ond Yr Eidal yn ennill ar Barc yr Arfau

Gwenllian Pyrs yn ei chanol hi

Daeth ymgyrch Menywod Cymru ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness i ben gyda cholled o 24-43 yn erbyn Yr Eidal ar Barc yr Arfau.

Fel y llynedd yn Parma, perfformiad ail-hanner Le Azzurre fu’n gyfrifol am eu llwyddiant ac o’r herwydd, am y drydedd flwyddyn o’r bron, mae Cymru’n gorffen y gystadleuaeth ar waelod y tabl.

Er gwaetha’r bumed golled eleni, does dim amheuaeth bod agweddau o berfformiadau Cymru wedi gwella’n sylweddol yn ystod yr ymgyrch wrth iddyn nhw osod y seiliau ar gyfer cystadleuaeth Cwpan y Byd yn Awstralia yn 2029.

Yr Eidalwyr oedd y ffefrynnau cyn y gic gyntaf heddiw, gan eu bod nhw bedwar safle uwchben Cymru ar restr detholion y byd ac fe ddechreuon nhw ar dân.

Wedi iddyn nhw reoli’r meddiant yn llwyr am y 3 munud agoriadol, fel y gwnaeth hi’r llynedd, croesodd y cefnwr Vittoria Ostuni Minuzzi am gais yn erbyn y Crysau Cochion.

Roedd Sean Lynn wedi cadw’r ffydd gydag 14 o’r chwaraewyr ddechreuodd yn erbyn Iwerddon. Seren Singleton oedd yr unig newid i’r pymtheg cychwynnol – ond fe gafodd ergyd i’w phen cyn y cais, olygodd mai byr iawn oedd ei hymddangosiad wrth ennill ei phedwerydd cap rhyngwladol. O’r herwydd, camodd Nikita Prothero o’r fainc i ennill ei hail gap hi.

Er nad yw’r canlyniadau wedi bod yn mynd o blaid Sean Lynn a’i garfan yn ystod y Chwe Gwlad eleni, mae cymeriad angerddol y merched wedi bod yn amlwg i bawb. Er gwaethaf ergyd gynnar Minuzzi, fe wnaeth Countney Keight y sgôr yn gyfartal wedi 9 munud o chwarae wrth iddi wasgu ei hun i’r gornel – ond dim ond am 3 munud y parodd y gorfoledd hwnnw.

Fe sgoriodd yr asgellwr Francesca Ganzotto ddau gais yn y gêm yn erbyn Cymru’r llynedd ac un y flwyddyn gynt hefyd – ac felly doedd hi’n fawr o syndod ei gweld yn casglu pêl rydd yng nghanol y cae, cyn carlamu o dan y pyst i ail-sefydlu mantais ei thîm. Yn dilyn trosiad Michela Sillari, roedd Le Azzurre ar y blaen o 7 pwynt.

Carys Cox yn tirio’i chais o drwch blewyn a gewin

Er nad yw’r duwiau rygbi wedi bod yn gwenu’n ormodol ar Gymru’n ystod y Bencampwriaeth – fe roddodd Carys Cox ochenaid enfawr o ryddhad wedi iddi dirio’r bêl o drwch blewyn gydag 17 munud ar ôl o’r hanner cyntaf. Ond yn syth wedi i Keira Bevan wneud y sgôr yn gyfartal – aeth Yr Eidal ar y blaen am y trydydd tro o’r prynhawn.

Yn dilyn rhediad deallus yr asgellwr chwith Alyssa D’Inca, roedd tri ôl anturus yr ymwelwyr wedi croesi’r gwyngalch, gan osod yr her unwaith eto i’r tîm cartref.

Yn eiliadau olaf y deugain munud agoriadol, llwyddodd y Cymry i droi eu goruchafiaeth o ran y tir i mewn i drydydd cais. Yn dilyn sgarmes symudol hynod drefnus, tiriodd Kelsey Jones ei thrydydd cais o’r ymgyrch – ac wedi trosiad campus Keira Bevan o’r ystlys, roedd y Crysau Cochion ar y blaen am y tro cyntaf.

Hanner Amser: Cymru 19 Yr Eidal 17

Y llynedd yn Parma, fe berfformiodd Yr Eidal yn gampus yn yr ail gyfnod gan sgorio 34 o bwyntiau heb ymateb gan y Cymry – a nhw reolodd yr ail gyfnod heddiw hefyd.

Yn dilyn ei dau gais yn erbyn Lloegr yr wythnos diwethaf, y blaen-asgellwr Francesca Sgorbini hawliodd bwynt bonws i’w thîm o sgarmes symudol – gan roi ei gwlad ar y blaen am y pedwerdd tro o’r prynhawn.

Wedi 11 munud o chwarae o’r ail hanner, croesodd Minuzzi am ei hail o’r ornest ac yn dilyn ail drosiad Sillari, roedd 10 pwynt rhwng y timau am y tro cyntaf yn ystod y prynhawn.

Wedi i dacl anghyfreithlon Granzotto ar Prothero wedi bron i awr o chwarae olygu bod gan Gymru fantais o chwaraewr am 10 munud, agorwyd cil y drws at fuddugoliaeth i Bethan Lewis a’i chyd-chwaraewyr.

Ond dangosodd pac profiadol Yr Eidal gryn reolaeth o’r meddiant a’r cloc i sicrhau’r fuddugoliaeth pan osodwyd y sylfaen i’r maswr Veronica Madia sgorio chweched cais cais ei thîm tra bo Granzotto’n dal yn y cell cosb ac roedd digon o amser i D’Inca dirio eildro cyn i’r trosiad gymryd Yr Eidal dros y deugain.

Cafwyd rhywfaint o gysur i’r Cymry pan groesodd Kayleigh Powell am gais pwynt bonws gyda munud yn weddill – ond prynhawn rhwystredig oedd hwn i Sean Lynn a’i garfan heddiw.

Diwrnod gwych i’r Eidalwyr felly a’r clo Valeria Fedrighi’n benodol wrth iddi ffarweli â’r llwyfan rhyngwladol gyda buddugoliaeth gofiadwy ar Barc yr Arfau.

Canlyniad: Cymru 24 Yr Eidal 43

Kayleigh Powell yn hawlio pwynt bonws i Gymru

Wedi i’r ymgyrch ddod i ben, dywedodd Capten Cymru Bethan Lewis: “Mae’r canlyniad heddiw’n anodd iawn i’w gymryd. Fe ildion ni ormod o’r meddiant a gormod o giciau cosb heddiw – ac allwn ni ddim disgwyl curo’r Eidal wrth wneud hynny.

“Mae’n bwysig i gofio, ein bod ni wedi gweithio’n galed iawn fel carfan dros y chwe wythnos ddiwethaf ac mae gennyf ffydd y bydd pethau’n disgyn i’w lle i ni’n fuan.”

Ychwanegodd clo Cymru, Georgia Evans: “ Siom a rhwystredigaeth yw’r geiriau y bydden ni’n eu defnyddio i ddisgrifio sut ry’n ni gyd yn ei deimlo ar hyn o bryd.

“Ry’n ni wedi gwella’n fawr y tymor yma, ond dyw’n holl waith caled ddim yn cael ei adlewyrchu ar y sgorfwrdd ar ddiwedd ein gemau ar hyn o bryd. Dyna’r her nesaf i ni wrth i ni anelu at Gwpan y Byd yn Awstralia ymhen tair blynedd.”

Dywedodd Prif Hyfforddwr Cymru, Sean Lynn: “Mae’n rhaid i ni fod yn well na’n perfformiad heddiw. Roedd ardal y dacl yn yr ail hanner yn benodol yn rhwystredig iawn.

“Yn amlwg byddwn yn edrych yn ôl ar y gêm heddiw a’r Bencampwriaeth yn ei chyfanrwydd ond mae’n eithaf amlwg o’n hymgyrch nad y’n ni’n gallu perfformio ar yr 80 munud cyfan ar hyn o bryd. Efallai y byddwn yn llwyddo i wneud hynny pan fydd Alex Callender, Kate Williams, Gwen Crabb a rhai chwaraewyr allweddol eraill ar gael i ni unwaith eto.”

Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness y Menywod 2026

11/04/26 – Cymru 19 Yr Alban 24 – Stadiwm Principality, Caerdydd

18/04/26 – Cymru 7 Ffrainc 38 – Parc yr Arfau, Caerdydd

25/04/26 – Lloegr 62 Cymru 24 – Ashton Gate, Bryste

09/05/26 – Iwerddon 33 Cymru 12 – Stadiwm Affidea, Belfast

17/05/26 – Cymru 24 v Yr Eidal 43– Parc yr Arfau, Caerdydd

Related Topics