Merthyr yw Pencampwyr Uwch Gynghrair Admiral unwaith eto wedi iddyn nhw ennill ar y lôn o 47-28 yn erbyn Cross Keys.
Roedd gwŷr Merthyr wedi sicrhau’r pwynt bonws erbyn yr egwyl ym Mharc Pandy o ganlyniad i geisiau gan y canolwr Ioan Evans, yr asgellwr Jack Kathrens, y cefnwr Jacob Lloyd a’r prop Travis Hawkins. Trosodd Ben Jones dri ohonyn nhw i roi’r ymwelwyr ar y blaen o 26-0.
Yn syth o’r ail-ddechrau, croesodd Jones ei hun am gais, fel y gwnaeth y blaen-asgellwr Jack Perkins a’r eilydd Tom Hughes yn ddiweddarach. Llwyddodd Jones â dau drosiad arall, gyda Lloyd hefyd yn trosi unwaith.
Brwydrodd Cross Keys yn ôl wedi hynny i barchuso’r sgôr yn sylweddol ac fe gawsant eu gwobrwyo gyda phwynt bonws erbyn y chwiban olaf. Sgoriwyd eu ceisiau gan y mewnwr Dylan Davies, y bachwr Nathan Huish, y canolwr Duan Thomas a’r asgellwr Tom Sullivan – ac fe drosodd y cefnwr Eamonn Rees bob un ohonyn nhw.
Yn eu hymgyrch i ddal eu gafael ar eu teitl, fe enillodd Merthyr 22 o’u 24 gêm, gan sgorio 130 cais yn y broses roddodd gyfanswm o 108 o bwyntiau cynghrair iddyn nhw. Gorffennodd tîm Ian Evans bum pwynt yn glir o’r Beddau, a saith yn fwy na chyfanswm pwyntiau Pontypridd.

Roedd Arberth eisoes wedi sicrhau eu parhad yn yr Uwch Gynghrair ond fe ddaethon nhw â’u tymor i ben mewn steil wrth ennill yn Aberhonddu o 50-5. Fe sgoriodd y mewnwr Lewys Gibby bum cais, gyda’r cefnwr Frazer Gregory yn ychwanegu dau ei hun. Sgoriodd yr asgellwr Ifan Phillips hefyd, tra llwyddodd Jonathan Rogers â phum trosiad. Y prop Henry Hibbs hawliodd unig gais Aberhonddu – oedd eisoes wedi disgyn o’r adran.
Diweddglo llwyddiannus felly i gyfnod Ricky Guest yn Brif Hyfforddwr Arberth.
Cafwyd diweddglo cyffrous yn y Bargoed dros y penwythnos, lle cipiodd gôl gosb hwyr gan y cefnwr Sam Watkins fuddugoliaeth o 41-39 i Drecelyn. Ychydig eiliadau ynghynt, roedd cic gosb Matthew Lewis wedi rhoi’r Bargoed ar y blaen 39-38, a hynny wedi iddyn nhw fod ar ei hôl hi o 38-17 ar un cyfnod.
Sgoriodd Cian Jones ddwywaith – a hynny ar achlysur ei 100fed ymddangosiad dros Drecelyn. Ei gyd-asgellwr Harry Jarvis, y canolwr Josh Thomas, yr ail reng Jakob Duffy a’r wythwr Garin Price sgoriodd y ceisiau eraill. Ciciodd Watkins bedwar trosiad yn ogystal â’r gic gosb dyngedfennol ar y diwedd.
Sgoriodd y bachwr Morgan Edwards a’r asgellwr Harvey Bryant ddau gais yr un i’r Bargoed, ac Adam Jones a Toby Thomas diriodd y ddau gais arall i’r tîm cartref. Ciciodd Will Ford ddau drosiad a llwyddodd Lewis gydag un trosiad hefyd.
Roedd Crwydriaid Llanelli eisoes wedi cwblhau eu rhestr o gemau dri diwrnod ynghynt, wrth guro Aberhonddu o 27-26. Dau gais y mewnwr Aron Hemmings ac un yr un gan yr asgellwr Lee Watkins a’r wythwr Dylan Lewis oedd yn gyfrifol am 20 o bwyntiau eu tîm, tra i Rhys Harris ychwanegu saith pwynt arall at eu cyfrif gyda’i droed.
Tom Richards, Luke Evans, Huw Jones a Jake Newman diriodd y ceisiau dros Aberhonddu gyda Newman ei hun yn trosi tri o’r rheiny.
