Mae’r Prif Hyfforddwr Sean Lynn wedi enwi tîm Cymru i wynebu’r Eidal Ym Mhumed Rownd o Gemau Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness y Menywod 2026.
Bydd yr ornest yn cael ei chynnal ar Barc yr Arfau Caerdydd, ddydd Sul, 17 Mai (12:15pm).
Y blaen-asgellwr Bethan Lewis fydd yn arwain Cymru am y trydydd tro o’r bron ac mae un newid wedi ei wneud i’r pymtheg cychwynnol.
Mae Seren Singleton, enillodd ei chap cyntaf dros Gymru yn erbyn Yr Alban ar ddechrau’r gystadleuaeth eleni, wedi’i galw’n ôl i ddechrau ar yr asgell.
Mae Sean Lynn wedi dewis yr un wyth blaen ddechreuodd yn erbyn Iwerddon yn Belfast i herio’r Eidalwyr y penwythnos yma.
Y propiau Gwenllian Pyrs a Sisilia Tuipulotu a’r bachwr Kelsey Jones fydd rheng flaen Cymru am y bumed Gêm Brawf yn olynol.
Bydd Branwen Metcalfe a Georgia Evans yn parhau â’u partneriaeth newydd yn yr ail reng. Nid oedd modd ystyried galw ar wasanaeth Gwen Crabb ar gyfer y gêm hon chwaith, oherwydd anaf i’w phen-glin.
Y rheng ôl felly yw’r capten Lewis, y blaen-asgellwr ochr dywyll Jorja Aiono a Bryonie King fydd yn dechrau’n safle’r wythwr.
Mae’r mewnwr profiadol Keira Bevan a’r maswr Lleucu George yn parhau fel haneri.
Courtney Keight a Carys Cox fydd y canolwyr unwaith eto, gyda Singleton a Jasmine Joyce wedi eu dewis ar yr esgyll. Kayleigh Powell fydd yn dechrau’n safle’r cefnwr unwaith yn rhagor.
Dywedodd Prif Hyfforddwr Cymru, Sean Lynn: “Ry’n ni i gyd yn gwybod beth sydd yn y fantol yn y gêm olaf hon o’r Chwe Gwlad. Mae’n rhaid i ni ganolbwyntio, ar barhau i wella safon ein chwarae fel sydd wedi digwydd trwy gydol y gystadleuaeth y tymor yma.
“Gan bod tîm dawnus Yr Eidal bedwar safle yn uwch na ni ymhlith detholion y byd ar hyn o bryd, bydd angen i fod yn benderfynol, yn gorfforol ac yn ddigyfaddawd yn eu herbyn.
“Ry’n ni wedi cymryd camau sylweddol i’r cyfeiriad cywir hyd yn hyn yn y Bencampwriaeth – ac ry’n ni’n gwybod yn iawn beth sydd angen i ni ei wneud yn y gêm olaf hon o’r gystadleuaeth.
“Er y gwelliant mewn nifer o agweddau o’n perfformiadau – mae’n rhaid i ni amlygu a dangos elfennau positif ein chwarae o flaen ein cefnogwyr ein hunain am yr 80 munud ddydd Sul.
“Mae’r chwaraewyr yn gwybod, os y byddan nhw’n ennill eu brwydrau personol yn erbyn eu gwrthwynebwyr, yna fe fyddwn yn codi lefel ein perfformiadau diweddar yn uwch eto fyth. Dyna’r gobaith a dwi’n hyderus y gallwn ni wneud hynny ar Barc yr Arfau ddydd Sul.”
Cymru v Yr Eidal
15 Kayleigh Powell (Harlequins) 32 cap, 10 pwynt
14 Seren Singleton (Brython Thunder) 3 chap
13 Carys Cox (Ealing) 25 cap, 25 pwynt
12 Courtney Keight (Sale/Brython Thunder) 32 cap
11 Jasmine Joyce (Bryste/Brython Thunder) 56 chap, 55 pwynt
10 Lleucu George (Hartpury-Caerloyw) 39 cap, 15 pwynt
9 Keira Bevan (Bryste) 82 cap, 158 pwynt
1 Gwenllian Pyrs (Sale) 55 cap, 20 pwynt
2 Kelsey Jones (Hartpury-Caerloyw) 56 chap, 30 pwynt
3 Sisilia Tuipulotu (Hartpury-Caerloyw/Brython Thunder) 33 chap, 40 pwynt
4 Branwen Metcalfe (Brython Thunder) 5 cap
5 Georgia Evans (Saraseniaid) 47 cap, 15 pwynt
6 Jorja Aiono (Brython Thunder) 4 cap
7 Bethan Lewis (Capten, Hartpury-Caerloyw/Gwalia Lightning) 64 cap, 35 pwynt
8 Bryonie King (Gwalia Lightning) 16 chap
Eilyddion:
16 Molly Reardon (Gwalia Lightning) 16 chap, 10 pwynt
17 Maisie Davies (Gwalia Lightning/Bryste) 16 chap
18 Donna Rose (Saraseniaid) 41 cap, 10 pwynt
19 Natalia John (Brython Thunder) 50 cap
20 Alisha Joyce (Brython Thunder/Bryste) 55 cap, 35 pwynt
21 Seren Lockwood (Brython Thunder) 8 cap, 5 pwynt
22 Hannah Dallavalle (Hartpury-Caerloyw) 72 cap, 25 pwynt
23 Nikita Prothero (Gwalia Lightning/Sale) 1 cap
