Mae Dan Lydiate wedi’i benodi’n llawn amser i garfan Cymru fel hyfforddwr arbenigol fydd â chyfrifoldeb am sgiliau amddiffynnol. Bydd datblygu techneg taclo gan gynnwys egwyddorion yn dilyn y dacl a gwaith cynorthwol yn ardal y dacl hefyd yn elfennau craidd o’i waith.
Lydiate fydd yr aelod diweddaraf o dîm hyfforddi cenedlaethol Steve Tandy, a bydd yn naturiol yn cyd-weithio’n agos gyda’r Hyfforddwr Amddiffyn newydd, Pete Murchie. Pan na fydd y garfan ryngwladol gyda’i gilydd, bydd Dan Lydiate yn gweithio ar ddatblygiad nifer o chwaraewyr gwrywaidd y gamp yng Nghymru.
Bu cyn-chwaraewr rheng ôl Cymru’n gweithio dros dro gyda thîm Cymru yn ystod Cyfres Cenhedloedd Quilter 2025 a Phencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2026.
Gan bo Dan Lydiate yn gweithio gyda’r Dreigiau ar hyn o bryd, ni fydd yn dechrau ar ei waith gyda Chymru tan i’r Bencampwriaeth Rygbi Unedig ddod i ben y tymor hwn.
Fel chwaraewr, enillodd Lydiate 72 o gapiau dros Gymru, gan ennill un Gamp Lawn, ac fe’i enwyd yn Chwaraewr Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2012. Yn ogystal, fe chwaraeodd ym mhob un o’r tri Phrawf i’r Llewod ar y daith fuddugol i Awstralia yn 2013.
Dechreuodd Dan Lydiate ei yrfa hyfforddi fel arbenigwr ardal y dacl tra’n dal i chwarae i’r Dreigiau yn 2024. Yna symudodd i rôl hyfforddi llawn amser gyda’r clwb yn nhymor 2025/26 wedi iddo ymddeol fel chwaraewr.

Dywedodd Steve Tandy, Prif Hyfforddwr Cymru: “Mae’n wych cael Dan i ymuno â ni nawr yn llawn amser. Mae wedi gwneud gwaith da iawn yng nghyd-destun ardal y dacl, ond mae hefyd wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr o safbwynt meddylfyd y grŵp.
“Mae ganddo arddull naturiol iawn ac mae ganddo lawer iawn i’w gynnig. Dwi’n credu y bydd ef a Pete [Murchie] yn gweithio’n dda iawn gyda’i gilydd a bydd yr holl garfan yn elwa o hynny. Dwi’n sicr y bydd dulliau hyfforddi Dan a’i ddylanwad yn allweddol wrth helpu ein chwaraewyr i ddatblygu y tu hwnt i’r ffenestri rhyngwladol hefyd.”
Wrth siarad am ei benodiad, ychwanegodd Dan Lydiate: “Dwi wedi mwynhau fy nghyfnod a’r profiadau dwi wedi eu cael gyda’r Dreigiau – fel chwaraewr i ddechrau, yna wrth gyfuno chwarae a hyfforddi, cyn canolbwyntio’n llwyr ar fy ngwaith fel hyfforddwr. Dwi wedi dysgu llawer iawn a dwi’n naturiol yn ddiolchgar fy mod wedi gallu cyfuno fy ngwaith gyda’r clwb â fy rôl dros dro gyda Chymru’n gynharach y tymor hwn.
“Mae’n anrhydedd anhygoel cael y cyfle i symud i rôl llawn amser gyda Chymru. Dwi’n gyffrous i barhau i weithio gyda Steve a’r grŵp, ond hefyd i dderbyn mwy o gyfrifoldeb – gan gynnwy datblygu chwaraewyr pan nad yw’r garfan yn ymarfer gyda’i gilydd.”
Dywedodd Cyfarwyddwr Rygbi a Pherfformiad Elît Undeb Rygbi Cymru, Dave Reddin: “Rydym wrth ein boddau ein bod wedi sicrhau gwasanaeth Dan yn y rôl arbenigol hon – a hynny’n llawn amser. Mae eisoes wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr yn ystod dwy ymgyrch gyda’r garfan genedlaethol, ond bydd ganddo bellach y cyfle i ddylanwadu ar ein chwaraewyr drwy gydol y flwyddyn. Y gobaith yw y bydd hynny’n sicrhau y bydd ein chwaraewyr yn gwella’n gyson gan hefyd greu hunaniaeth o’r hyn sy’n cael ei ddisgwyl ganddyn nhw.”
