News

Lloyd Williams yn cyhoeddi ei ymddeoliad ddiwedd y tymor.

Lloyd Williams
Lloyd Williams wrth gynrychioli Caerdydd

Enillodd y mewnwr dawnus Lloyd Williams, sydd bellach yn 36 oed, 32 o gapiau dros Gymru rhwng 2011 a 2021.

Treuliodd y rhanfwyaf o’i yrfa gyda chlwb Caerdydd – a gwnaeth gyfanswm o 261 o ymddangosiadau dros glwb y Brifddinas.

Wedi 13 o dymhorau gyda Chaerdydd, fe ymunodd â’r Ealing Trailfinders yn y Bencampwriaeth yn Lloegr am ddau dymor, cyn symud i Gaerwrangon y tymor hwn.

Cynrychiolodd dimau Dan 16, Dan 18 a Dan 20 Cymru cyn chwarae Saith Bob Ochr dros ei wlad. Daeth ei gyfle mawr yn 2011 pan dderbyniodd wahoddiad Dai Young, oedd yn hyfforddi’r Barbariaid yn erbyn Cymru, i ymuno â’i garfan.

Dywedodd Lloyd Williams: “Ro’n i’n fyfyriwr ar y pryd ac ro’n i fod i fynd ar wyliau i’r Dwyrain Pell pan gefais yr alwad i dreulio wythnos gyda’r ‘Baa-Baas’. Allen i ddim gwrthod – a gan fy mod yn fachgen lleol – fi gafodd y dasg o drefnu noson mas i’r bois yn y Brifddinas.

“Ro’n i’n fwy nerfus am hynny nag am chwarae’r gêm ei hun. Roedd hi braidd yn swreal gorfod chwarae yn erbyn Cymru, y tîm ro’n i wedi tyfu lan yn eu cefnogi wrth gwrs. Wedi dweud hynny – mae’r wythnos honno gyda’r Barbariaid yn parhau i fod yn un o fy atgofion melysaf yn ystod fy nghyrfa.”

Fe gafodd perfformiad Williams ganmoliaeth – ac wedi i helyntion hwyrnos Mike Phillips y tu allan i far byrgyrs yng nghanol Caerdydd – galwyd Lloyd Williams i mewn i garfan ymarfer Cymru ar gyfer Cwpan y Byd. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf dros brif dîm ei wlad yn y gêm baratoadol yn erbyn Ariannin yn Stadiwm y Mileniwm, cyn sgorio iddo sgorio dau o geisiau fel eilydd yn ystod y gystadleuaeth fawr ei hun yn Seland Newydd – welodd Cymru’n gorffen yn bedwerydd.

Bu’n aelod o garfan Cymru enillodd y Gamp Lawn yn 2012 a’r flwyddyn ganlynol pan enillwyd y Bencampwriaeth unwaith eto.

Bu hefyd yn aelod o dîm Gleision Caerdydd enillodd Gwpan Her Ewrop yn erbyn Caerloyw yn Bilbao yn 2018.

Wedi saib o bedair blynedd cafodd Lloyd Williams ei alw’n ôl i’r garfan genedlaethol yn 2020, ac aeth ymlaen i helpu Cymru i ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad unwaith yn rhagor.

Ond o’r holl ddigwyddiadau a phrofiadau yn ystod ei yrfa wych, mae un eiliad benodol yn aros yn y cof – a daeth honno yn erbyn Lloegr yn Twickenham yng Nghwpan y Byd 2015.

O ganlyniad i lu o anafiadau, cafodd ei alw o’r fainc i chwarae ar yr asgell chwith o bobman, gyda Chymru ar ei hôl hi o 10 pwynt ar un adeg.

Yn reddfol ac yn gwbl gywir, fe grëodd ei gic berffaith gyfle i’r mewnwr arall, Gareth Davies dirio cais cwbl gofiadwy – arweiniodd at fuddugoliaeth o 28-25 i’r Crysau Cochion yn y pendraw – a hynny ar domen Lloegr yn eu Cwpan Byd cartref eu hunain.

Trosodd Dan Biggar y cais ac fe sgoriodd gyfanswm o 23 o bwyntiau’r diwrnod hwnnw.

Y penwythnos diwethaf, bu Williams yn allweddol ym muddugoliaeth Caerwrangon o 35-29 yn erbyn Chinnor yn Rownd Wyth Olaf y Gemau Ail Gyfle. Mae hynny’n golygu y bydd yn wynebu ei gyn glwb, a’r Pencampwyr presennol, Ealing, yn Rownd Gynderfynol y Bencampwriaeth ddydd Sul:

“Er bod fy nghalon yn dweud wrtha i barhau i chwarae, mae fy mhen yn dweud bod angen i mi ddechrau gofalu am fy nghorff a chanolbwyntio ar y bennod nesaf yn fy mywyd,” ychwanegodd Lloyd Williams.

“Dwi wedi cael blwyddyn wych yma yng Nghaerwrangon. Mae’n gyfnod dwi’n falch iawn ohono, a bydda i’n edrych yn ôl ar fy amser yma gyda llawer iawn o hapusrwydd a balchder. Mae’r ffaith fy mod wedi penderfynu mai’r flwyddyn hon fydd fy mlwyddyn olaf – a’r ffaith fy mod wedi mwynhau fy hunan gymaint yma’n deimlad rhyfedd ond arbennig iawn.”

Related Topics