News

Lee Rees yn gobeithio gadael Llanymddyfri ar nodyn uchel

Lee Rees
Lee Rees - 17 mlynedd o wasanaeth i Lanymddyfri

Bydd Rownd Derfynol Fawr Super Rygbi Cymru yfory (10 Mai – 4.45pm) yn ddiwrnod mawr am fwy nac un rheswm i fewnwr poblogiadd Llanymddyfri Lee Rees.

Wedi gwasanaeth arbennig i’r Porthmyn dros y blynyddoedd, mae Rees wedi cyhoeddi y bydd yn gadael y clwb ddiwedd y tymor yma. Mae’r ffaith mai yn Ffeinal Fawr Super Rygbi Cymru y bydd yr ymddangosiad olaf hwnnw’n digwydd yn hynod addas o ystyried gyrfa lewyrchus y mewnwr 35 oed gyda’r clwb. Byddai ennill y Tlws yn goron berffaith ar ei gyfnod gyda’r clwb.

Yn ôl ei arfer, roedd Rees yn amlwg iawn yn y Rownd Gyn-derfynol pan enillodd Llanymddyfri ar domen y prif ddetholion, Caerdydd o 30-22.

Roedd hynny’n golygu y byddai yn cael chwarae un gêm arall dros y clwb sydd mor agos at ei galon – ymddangosiad 402!

Felly wedi 17 mlynedd yn cynrychioli’r Porthmyn, mae Lee Rees yn gobeithio gorffen ei gyfnod gyda’r clwb ar nodyn uchel – wrth ennill Super Rygbi Cymru:

“Dw i wedi trio peidio meddwl gormod am sut fyddai’n teimlo ar ddiwedd y gêm ddydd Sul. Mae’r ffaith fod fy nghyfnod gyda’r clwb ar fin dod i ben wedi bod yng nghefn fy meddwl ers y gêm yn Rownd yr Wyth Olaf yn erbyn Rygbi Gogledd Cymru. Y diwrnod hwnnw fe lwyddais i ganolbwyntio ar y gêm ond dwi’n gwybod yn bendant y bydd pethe’n dod i ben ar Barc Eugene Cross ddydd Sul.

“Mae tasg enfawr o’n blaenau ni yn erbyn Glyn Ebwy ac fe fyddai’n wych os y gallwn ni ennill. Er y byddaf yn gwneud fy ngorau – y tîm sy’n bwysig – nid fi.

“Dwi’n siwr y byddaf yn emosiynol wrth glywed y chwiban olaf – yn enwedig gan y bydd fy nyweddi a Roman – fy mab bach 15 mis oed, yno’n gwylio fy ngêm olaf dros Lanymddyfri. Fe wnaeth y clwb gynnig dwy flynedd arall i mi, ond dw i’n teimlo mai dyma’r amser iawn i mi symud ymlaen.

“Dwi wedi penderfynu derbyn cynnig i ddod yn Gyfarwyddwr Rygbi yn Hendy-gwyn ar Daf, lle byddai’n cael y cyfle i ddal ati i chwarae am ddwy flynedd – a throi fy llaw at hyfforddi hefyd. Byddaf yn cyfuno fy amser yn Hendy-gwyn gyda fy ngwaith fel Pennaeth Rygbi Merched yng Ngholeg Llanymddyfri a pheth gwaith hyfforddi preifat arall dwi’n ei wneud hefyd.

“Mae’r syniad o beidio â chael rygbi yn fy mywyd yn rhywbeth alla’i ddim ei ddychmygu. Dwi wedi cael profiadau gwych yn ystod fy ngyrfa ac mae clwb Llanymddyfri wedi bod fel teulu i mi.

“Mae’n dref rygbi falch lle mae rygbi yn golygu cymaint i’r gymuned.”

Lee Rees
Lee Rees yn dathlu’n erbyn Glyn Ebwy

Mae llawer yn teimlo bod Lee Rees wedi bod yn anlwcus i beidio â chael y cyfle i arddanos ei ddoniau amlwg ar lefel ranbarthol. Daeth drwy system Academi’r Scarlets pan yn iau ond gan bo Aled Davies yn rhan o’r un garfan – cafodd Rees ei ddefnyddio fel cefnwr neu asgellwr gan amlaf. Er iddo gael treialon gyda Glasgow a’r Dreigiau – ni chafodd erioed gynnig cytundeb i chwarae rygbi’n rhanbarthol.

Serch hynny, fe gafodd y cyfle i chwarae Saith Bob Ochr dros Gymru – a hynny ar gylchdaith y byd ac yng Ngemau’r Gymanwlad yn 2010.

Ar ôl rhai tymhorau digon siomedig ar ddechrau ei yrfa gyda Llanymddyfri ym Manc yr Eglwys, mae Rees wedi bod wrth galon llwyddiannau’r clwb yn y Cynghrair a’r Cwpan y ystod y blynyddoedd diweddar. Mae’r ffaith i Lanymddyfri guro Glyn Ebwy yn Rownd Derfynol Cwpan Super Rygbi Cymru’n cynnig hyder iddyn nhw cyn yr ornest yfory – ond fe fyddan nhw’n hollol ymwybodol hefyd bod Gwŷr y Dur wedi cael y gorau arnhyn nhw yn Rownd Gyn-derfynol Tlws SRC y llynedd.

Yn y ddwy gêm gynghrair y tymor hwn, Glyn Ebwy sydd wedi ennill y ddwy ornest rhwng y ddau glwb, 40-22 ar Barc Eugene Cross ac yna 41-14 ar Fanc yr Eglwys – ond dyw Lee Rees ddim yn poeni rhyw lawer am hynny:

“Daeth Caerdydd i mewn i’r Rownd Gyn-derfynol fel ffefrynnau clir wedi iddyn nhw ennill naw gêm ar ôl ei gilydd. Ond fe wnaethon ni berfformio ar ein gorau ar y diwrnod a’u curo nhw.

“Gan i ni fynd ar y blaen o 14-0  yn gynnar yn yr hanner cyntaf – fe roddodd hynny lawer o hyder i ni – yn enwedig i rai o’r bois ifanc. Gan i ni hefyd gadw at ein cynllun chwarae – fe gawson ni’r fuddugoliaeth, oedd yn deimlad arbennig iawn.

“Bydd angen i ni berfformio hyd yn oed yn well yn erbyn Glyn Ebwy – mae pawb yn y garfan yn gwybod hynny. Byddai talu’r pwyth am y ffaith eu bod nhw wedi’n maeddu ni’n y Rownd Gyn-derfynol y tymor diwethaf yn braf iawn – ond Eugene Cross yw’r lle anoddaf o holl feysydd SRC i gae canlyniad yno.”

Related Topics