News

Burgess yn enwi’r tîm i herio Iwerddon yng Nghyfres Chwe Gwlad Dan 21 y Menywod

Jenna De Vera
Jenna De Vera

Mae Liza Burgess wedi enwi tîm Cymru i wynebu Iwerddon yn Nhrydedd Rownd Cyfres Dan 21 Chwe Gwlad y Menywod, yn Ystrad Mynach, ddydd Sul 10 Mai. (CG 2pm).

Mae Prif Hyfforddwr Cymru wedi gwneud pum newid i’r tîm drechodd Yr Eidal yn Stadio Piacenza ar gyfer eu gornest olaf yn y Bencampwriaeth gyntaf erioed hon ar y lefel yma.

Daw asgellwr Brython Thunder, Mabli Evans, i mewn yn lle Aimee Bush, tra bod Jenna de Vera, chwaraeodd i dîm hŷn Sean Lynn yn erbyn Lloegr yn Ashton Gate, wedi ei dewis yn y canol yn lle Freya Bell.

Mae Burgess wedi gwneud tri newid yn y pac, gyda phob un o’r rheiny yn y rheng flaen. Bydd Crystal James o Gwalia Lightning yn cymryd lle Stella Orrin fel y prop pen rhydd, tra bod Molly Wakely yn dechrau fel bachwr yn lle Shanelle Williams. O safbwynt safle’r prop pen tynn, mae Elizabeth Cook o Met Caerdydd yn cael ei chyfle, gydag Elan Jones yn gorfod bodloni ar le ar y fainc y tro hwn.

Dywedodd Liza Burgess: “Mae’r merched wedi ymarfer yn dda iawn ers ein buddugoliaeth yn erbyn Yr Eidal. Fe frwydron ni’n galed ac yn ddewr o dan bwysau eithriadol yn erbyn tîm cryf iawn mas yn Piacenza – ac mae hynny wedi gosod seiliau cadarn i ni adeiladu arnyn nhw.

“Bydd Iwerddon yn cynnig her wahanol wrth gwrs, ond mae’r merched yn benderfynol o berfformio’n dda i orffen y Gyfres ar nodyn cadarnhaol  – gan wneud hynny o flaen ein cefnogwyr ein hunain wrth gwrs.

“Mae’n wych gallu dod â Jenna yn ôl i’n carfan ni wedi ei pherfformiad dros y prif dîm yn erbyn Lloegr. Mae’r ffaith ei bod hi, Amy Williams a Freya Bell wedi cael y cyfle i gamu i garfan Sean Lynn, yn ysbrydoliaeth i’r holl ferched yn ein carfan ni.

“Ry’n ni’n edrych ymlaen y fawr at wynebu Iwerddon, gan ei bod hi’n gêm sy’n addo i fod yn gyffrous ac yn gystadleuol wrth i ni ddod â’n hymgyrch yn y Chwe Gwlad D21 i ben.”

Cymru Dan 21 v Iwerddon Dan 21, ddydd Sul 10 Mai, Ystrad Mynach, 2pm

15 Amy Williams (Brython Thunder)
14 Mabli Evans (Brython Thunder)
13 Hanna Tudor (Heb glwb ar hyn o bryd)
12 Jenna De Vera (Bryste)
11 Kelsie Webster (Gwalia Lightning)
10 Hanna Marshall (Brython Thunder)
9 Sian Jones (Hartpury-Caerloyw/Gwalia Lightning)
1 Crystal James (Gwalia Lightning/Ealing)
2 Molly Wakely (Gwalia Lightning)
3 Elizabeth Cook (Met Caerdydd)
4 Robyn Davies (Brython Thunder)
5 Alaw Pyrs (Gwalia Lightning)
6 Lily Terry (Is-gapten) (Gwalia Lightning)
7 Lucy Isaac (Brython Thunder)
8 Gwennan Hopkins (Capten) (Gwalia Lightning)

Eilyddion
16 Shanelle Williams (Brython Thunder)
17 Katherine Baverstock (Gwalia Lightning)
18 Elan Jones (Brython Thunder)
19 Chiara Pearce (Gwalia Lightning)
20 Kendall Waudby (Loughborough)
21 Lily Hawkins (Gwalia Lightning)
22 Isla McMullen (Gwalia Lightning)
23 Carys Hughes (Gwalia Lightning)

 

 

 

Related Topics