News

Arthur Lewis – un o gewri Glyn Ebwy – wedi marw yn 84 oed

Arthur Lewis ar y chwith yn y rhes gefn

Mae Arthur Lewis, un o chwaraewyr gorau Glyn Ebwy erioed ac un o arwyr cyfnod cynnar Oes Aur Cymru’n y saithdegau, wedi marw yn 84 oed.

Enillodd 11 cap dros Gymru, bu’n gapten ar ei wlad, enillodd Gamp Lawn a Choron Driphlyg ym 1971, a theithiodd gyda’r Llewod i Seland Newydd ym 1971. Tipyn o yrfa a thipyn o lwyddiant.

Bu hefyd yn aelod allweddol o dîm Sir Fynwy, gurodd y Springboks ym 1969.

Chwaraeodd dros Hafodyrynys a Chrymlyn cyn ymuno â Gwŷr y Dur yn nhymor 1964-65.

Yn drydanwr wrth ei alwedigaeth, fe wnaeth ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru yn erbyn Ffrainc yng ngêm olaf Pencampwriaeth y Pum Gwlad ym 1970.

Roedd yn un o bedwar newid i’r tîm gollodd o 14-0 yn Nulyn yn y gêm flaenorol.

Galwyd ar wasanaeth Lewis, Roy Mathias a Jim Shanklin ymhlith yr olwyr am y tro cyntaf ac fe gynrychiolodd Stuart Gallacher ei wlad am y tro cyntaf yn y pac.

John Dawes oedd partner Lewis yng nghanol cae y diwrnod hwnnw, a chafodd Cymru fuddugoliaeth o 11-6, olygodd bod y Bencampwriaeth yn cael ei rhanuu rhwng Cymru a Ffrainc.

Wrth sôn am Lewis yn ‘The Dawes Decades’, dywedodd John Dawes:

“Doedd proffil Arthur ddim yn arbennig o uchel – doedd gwrthwynebwyr na hyd yn oed ambell un o’i gyd-chwaarewyr ddim yn sylweddoli pa mor dda oedd ef. Roedd yn ddawnus gyda’r bêl ac yn effeithiol gyda’i rediadau pwerus a chorfforol hefyd.

“Roedd ganddo ddwylo cyflym iawn a’r gallu i drosglwyddo’r bêl ar gyflymder uchel i’w asgellwr, neu i JPR wrth iddo ymuno â’r llinell ymosodol. Roedd Arthur yn chwaraewr tîm rhagorol ac roedd yn gallu ffitio i mewn i unrhyw batrwm tactegol.”

Ym 1971 fe chwaraeodd Arthur Lewis mewn tair o’r pedair gêm arweiniodd at Gamp Lawn i Gymru.

Gorfododd anaf iddo golli’r gêm yn erbyn Yr Alban, ond roedd yn amlwg iawn yn ystod y buddugoliaethau dros Loegr (22-6), Iwerddon (23-9) a Ffrainc (9-5).

Honno oedd buddugoliaeth gyntaf Cymru ym Mharis ers 1957.

Golygodd ei berfformiadau trawiadol iddo gael ei ddewis, ynghŷd â 12 Cymro arall, i deithio gyda’r Llewod i Awstralia a Seland Newydd.

Chwaraeodd mewn 10 gêm, gan gynnwys un fel maswr, ac roedd yn eilydd ar gyfer yr Ail Brawf.

Cafodd fraint aruthrol arall – a siom sylweddol hefyd ym mis Rhagfyr 1972 gan iddo gael ei ddewis yn gapten ar Gymru ar gyfer y gêm yn erbyn Seland Newydd – ond fe gafodd ei anafu yn y sesiwn ymarfer olaf, olygodd nad oedd yn bosib iddo chwarae, nac arwain ei wlad am y tro.

Fe ddaeth ei gyfle i fod yn gapten yn erbyn Lloegr ar ddechrau Pencampwriaeth y Pum Gwlad ym 1973 – ac fe sgoriodd gais y diwrnod hwnnw hefyd. Arweiniodd y tîm yn erbyn Yr Alban ac Iwerddon yn ystod yr ymgyrch hefyd cyn i Gareth Edwards gael ei ddewis i fod yn gapten ym Mharis yng ngêm olaf y Bencampwriaeth.

Yn ystod ei yrfa ryngwladol fe enillodd Arthur Lewis 9 o’i 11 gêm dros Gymru – ac ni chollodd unrhyw un o’r 10 ornest chwaraeodd dros y Llewod.

Wedi iddo roi’r gorau i chwarae, bu Arthur Lewiss yn hyfforddi gyda Glyn Ebwy, Cross Keys a Chrymlyn.

Arthur John Llewellyn Lewis: 11 cap (Rhif Cap – 759) / Rhif Llewod: 500; Ganwyd: 26 Medi 1941 yng Nghrymlyn; Bu farw: 19 Mai 2026 (yn 84 oed).

Related Topics