News

50 diwrnod tan dechrau Pencampwriaeth y Cenhedloedd ac amseroedd gemau Cymru wedi’u cadarnhau

Mae tocynnau ar gyfer Fiji v Cymru ar gael i’w prynu nawr.

Gyda 50 diwrnod i fynd nes bydd Pencampwriaeth gyntaf erioed y Cenhedloedd yn dechrau, mae amseroedd gemau Cymru wedi’u cadarnhau.

Yn ystod tair rownd gyntaf o gemau’n y gystadleuaeth, bydd carfan Steve Tandy yn wynebu Fiji, Ariannin a De Affrica dros dri phenwythnos ‘oddi cartref’ yn olynol ym mis Gorffennaf.

Wedi hynny, ym mis Tachwedd, bydd Cymru’n wynebu Japan, Seland Newydd ac Awstralia yn Stadiwm Principality ar gyfer y tair rownd arall o gemau’n y Bencampwriaeth.

Mae tocynnau ar gyfer Fiji v Cymru ar gael i’w prynu nawr.

Mae tocynnau ar gyfer holl gemau mis Tachwedd yn Stadiwm Principality ar werth nawr hefyd – ar MY.WRU.WALES

Gwobrwywch eich gwreiddiau wrth brynu tocyn yr Hydref hwn
Am y tro cyntaf erioed, mae Undeb Rygbi Cymru yn rhoi’r cyfle i gefnogwyr ddewis unrhyw glwb rygbi yng Nghymru i dderbyn cyfraniad o £2 am bob tocyn a brynir ar gyfer ein gemau cartref yn y gystadleuaeth. Mae hyn yn fuddsoddiad uniongyrchol i mewn i rygbi ar lawr gwlad Cymru, ac yn gyfraniad uniongyrchol o’r tîm cenedlaethol yn ôl at guriad calon y gamp.

I ddewis clwb a gwneud cyfraniad, y cwbl sydd angen i gefnogwyr ei wneud yw ymweld â MY.WRU.WALES, sydd wedi’i gysylltu â llwyfan e-docynnau Undeb Rygbi Cymru.

Bydd cystadleuaeth Pencampwriaeth y Cenhedloedd yn dod i ben gyda Phenwythnos y Rowndiau Terfynol, pan fydd chwe gêm yn cael eu chwarae dros dri diwrnod yn Stadiwm Allianz, Twickenham, pan fydd pob un o’r 12 tîm yn cystadlu am eu safle terfynol. Byddant hefyd yn brwydro am bwyntiau er mwyn penderfynu ai Hemisffer y Gogledd neu Hemisffer y De fydd yn fuddugol ar ddiwedd y gyfres hanesyddol gyntaf hon.

Cofrestrwch ar gyfer e-galendr Rygbi Cymru er mwyn sicrhau na fyddwch yn collI unrhyw gêm.
Gemau Cymru – Pencampwriaeth y Cenhedloedd
Gorffennaf
Pob gêm yn fyw ar ITV – amseroedd a manylion y darllediadau yn Gymraeg i’w cadarnhau. Amseroedd Cymru oni bai y nodir yn wahanol

  • Rownd 1: 4 Gorffennaf 2026 – Fiji v Cymru, Stadiwm Dinas Caerdydd (14:10)
  • Rownd 2: 11 Gorffennaf 2026 – Ariannin v Cymru, Estadio San Juan del Bicentenario, San Juan 20.10 BST / 16.10 amser lleol
  • Rownd 3: 18 Gorffennaf 2026 – De Affrica v Cymru, Parc Hollywoodbets Kings Park, Durban 16.40 BST / 17.40 amser lleol

Tachwedd
Pob gêm yn Stadiwm Principality ac yn fyw ar ITV. Manylion y darllediadau Cymraeg i’w cadarnhau

  • Rownd 4: 7 Tachwedd 2026 – Cymru v Japan 16.40
  • Rownd 5: 14 Tachwedd 2026 – Cymru v Seland Newydd 14.10
  • Rownd 6: 21 Tachwedd 2026 – Cymru v Awstralia 20.10

Penwythnos y Rowndiau Terfynol
Dydd Gwener 27 Tachwedd

  • Gogledd 6 v De 6 – 16.40
  • Gogledd 3 v De 3 – 20.10

Dydd Sadwrn 28 Tachwedd

  • Gogledd 5 v De 5 – 13.10
  • Gogledd 2 v De 2 – 16.40

Dydd Sul 29 Tachwedd

  • Gogledd 4 v De 4 – 13.10
  • Gogledd 1 v De 1 – 16.40

Timau
Gogledd:  Lloegr, Ffrainc, Iwerddon, Yr Eidal, Yr Alban, Cymru
De:  Ariannin, Awstralia, Seland Newydd, De Affrica, Japan, Fiji

Related Topics