Wedi i dymor arferol Super Rygbi Cymru ddod i ben – bydd y gemau ail gyfle yn dechrau’r wythnos hon ar gyfer y timau orffennodd rhwng y seithfed a’r degfed safle.
Bydd y clybiau hynny’n brwydro am y ddau le olaf yn y rownd gynderfynol ynghŷd â’r chwech uchaf.
Bydd Cwins Caerfyrddin, orffennodd yn seithfed, yn croesawu Pont-y-pŵl oedd yn ddegfed, tra bydd Aberafan, ddaeth yn wythfed, yn croesawu Pen-y-bont i Faes y Talbot Athletic.
Yr wythnos ganlynol, bydd Caerdydd, orffennodd ar frig y tabl, yn croesawu enillydd y gêm rhwng Caerfyrddin a Phont-y-pŵl, tra bydd Glyn Ebwy’n wynebu naill ai Aberafan neu Ben-y-bont ar Barc Eugene Cross.
Gwobr Casnewydd am orffen yn y trydydd safle fydd croesawu Abertawe, ddaeth yn chweched, tra bydd Llanymddyfri, orffennodd yn bedwerydd, yn croesawu Rygbi Gogledd Cymru i Fanc yr Eglwys wedi iddyn nhw orffen un safle’n îs na’r Porthmyn.
Llwyddodd Caerdydd i gipio’r safle ar y brig oddi ar Lyn Ebwy ar ddiwrnod olaf y tymor arferol. Roedd Gwŷr y Dur dri phwynt ar y blaen i wŷr y Brifddinas cyn y 18fed rownd o gemau, ond er iddyn nhw hawlio pwynt bonws, colli fu eu hanes o 12-8 yn erbyn Cwins Caerfyrddin.
Hon oedd pedwaredd colled Glyn Ebwy yn eu pum gêm gynghrair ddiwethaf. Dim ond cic gosb Evan Lloyd oedd yn gwahanu’r timau ar yr hanner mewn tywydd garw ar Barc Caerfyrddin, ond rhoddodd dwy gic gosb Elis Price ar ôl yr egwyl y Cwins ar y blaen. Aeth yr ymwelwyr yn ôl ar y blaen yn dilyn cais y bachwr bywiog Ieuan Morris – ei 19eg o’r tymor – ond yn y pen draw, cicio cywir Price oedd y gwahaniaeth, gan i ddwy gic gosb arall ganddo sicrhau buddugoliaeth fain i’r Cwins.
Yn y cyfamser, fe enillodd Caerdydd y chwe phwynt llawn wrth iddyn nhw drechu Abertawe o 36-19. Honno oedd eu nawfed buddugoliaeth gynghrair o’r bron ac fe olygodd y llwyddiant diweddaraf hwnnw bod tîm Dan Fish wedi gorffen ddeubwynt ar y blaen i Lyn Ebwy am yr ail flwyddyn yn olynol.
Roedd bechgyn y Brifddinas eisoes wedi hawlio pwynt bonws erbyn yr egwyl – ac roedden nhw ar y blaen o 24-7 wrth droi. Ceisiau’r prop Ioan Emanuel, yr asgellwr Rhys Cummings (ddwywaith) a’r bachwr Alun Rees fu’n gyfrifol am eu pwyntiau’n y cyfnod agoriadol. Ychwanegodd Harri Wilde ddau drosiad hefyd. Sgoriodd Dewi Cross eu pumed cais dri munud yn unig wedi’r ail-ddechrau – ei 14eg o’r tymor – cyn i Rees groesi eilwaith a throswyd hwnnw gan Harri Wilde.
Jamie Cox, Cam Jones a Lewis Edwards gafodd y ceisiau i Abertawe, gyda Mat Protheroe yn trosi dau o’r rheiny.
Dywedodd capten Caerdydd, Craig Hudd:
“Roedd gorffen ar y brig wedi’r tymor arferol yn darged i ni ar ddechrau’r tymor. Wnaethon ni ddim dechrau’n hymgyrch yn arbennig o dda, ond dros yr wythnosau diwethaf ry’n ni wedi creu momentwm arbennig ac mae gorffen ar frig y tabl yn deimlad gwych.”
Sicrhaodd Llanymddyfri y pedwerydd safle a mantais o chwarae gartref yn y chwarteri wedi eu buddugoliaeth drawiadol o 47-17 yn erbyn Aberafan. Fe groesodd tîm Euros Evans am saith cais yn ystod yr ornest. Sgoriodd Tomi Lewis ddwywaith, gydag Aaron Warren, Harry Thomas, Cam Lewis, Kian Abraham a Jac Davies yn croesi am y lleill. Ychwanegodd Ioan Hughes y trosiadau.
O’r herwydd, mae’r pedwar tîm uchaf yn y tabl ar ddiwedd y tymor arferol yr un fath â’r tymor diwethaf.
O ganlyniad i reolau’r gystadleuaeth, bydd gan Gaerdydd a Glyn Ebwy fantais o chwarae gartref yn y rowndiau cyn-derfynol hefyd os y byddan nhw’n ennill eu lle’n y rownd honno.
Doedd dim prinder pwyntiau yn y gogledd chwaith wrth i Rygbi Gogledd Cymru guro Pen-y-bont yn gyfforddus o 57-14 ym Mae Colwyn. Sgoriodd Caio Parry deirgwaith, Billy McBryde ddwywaith, gyda Charlie Probert, Delwyn Jones, Sam Williams a Jac Petch-Jones hefyd yn hawlio ceisiau. Ychwanegodd McBryde chwe throsiad am gyfanswm personol o 22 pwynt.
Fe sgoriodd Dominiko Manaseitava ac Iwan Powell dros Ben-y-bont yn ystod yr hanner cyntaf, gyda Fraser Jones yn ychwanegu’r ddau drosiad. Ond er mai 5 pwynt oedd yn gwahanu’r timau wrth droi – llwyddodd y tîm cartref i sgorio 38 pwynt heb ateb yn ystod yr ail hanner.
