News

Wyth olaf Cynghrair Super Rygbi Cymru wedi'u cadarnhau

Super Rygbi Cymru

Mae trefn gemau rownd wyth olaf Super Rygbi Cymru bellach wedi’u cadarnhau wedi i Cwins Caerfyrddin a Phen-y-bont ennill eu gemau ail-gyfle dros y penwythnos.

Gwobr y Cwins am eu buddugoliaeth gartref o 25-21 dros Bont-y-pŵl yw taith i wynebu Caerdydd, orffennodd ar frig y tabl wedi’r tymor arferol, tra bydd Pen-y-bont, gurodd Aberafan o 13-10, yn teithio i Lyn Ebwy yn yr wyth olaf.

Yn y gemau eraill fydd yn cael eu cynnal ddydd Sadwrn nesaf, bydd y Pencampwyr presennol Casnewydd yn croesawu Abertawe, tra bydd Llanymddyfri yn siwr o estyn croeso cynnes i Rygbi Gogedd Cymru i Fanc yr Eglwys.

Cais hwyr iawn gan y canolwr Jac Howells gipiodd y fuddugoliaeth i’r Cwins dros Bont-y-pŵl ar Barc y dref, mewn brwydr rhwng y timau orffennodd yn seithfed ac yn ddegfed yn y cynghrair.

Ychydig eiliadau cyn cais Howells, roedd hi’n ymaddangos mai ‘Pooler’, frwydrodd yn ôl o fod 8-0 ac 18-7 ar ei hôl hi, oedd yn mynd i ennill y gêm, gan bo’r blaenasgellwr dylanwadol Scott Matthews wedi tirio trydydd cais yr ymwelwyr o’r ornest. Ond nid fel na fuodd hi. Dau gais y canolwr Marcus Jones a thri throsiad cywir Kieran Meek oedd yn gyfrifol am weddill pwyntiau Pont-y-pŵl.

Ond erbyn y chwiban olaf, y Cwins oedd yn dathlu diolch i ymdrech unigol Howells yn amser yr amen. Ceisiau’r asgellwr Iori Badham a’r bachwr Lewis Morgan, ynghŷd â 10 pwynt o droed yr addawol Steff Jac Jones oedd yn gyfrifol am weddill pwyntiau gwŷr y gorllewin.

Taith i Barc yr Arfau yw her nesaf Cwins Caerfyrddin – maes y maen nhw eisoes wedi profi buddugoliaeth arno’r tymor hwn, gan iddyn nhw ennill o 36-33 yno ym mis Medi. Mae Caerfyrddin wedi ennill dwy o’u tair gornest yn erbyn Clwb y Brifddinas yn  y cynghrair a’r cwpan y tymor hwn.

Dywedodd Cyfarwyddwr Rygbi Cwins Caerfyrddin, Steff Thomas: “Gan iddyn nhw orffen ar frig y tabl a ni’n y seithfed safle – nhw fydd y ffefrynnau mae’n siwr ond mae hynny’n tynnu’r pwysau oddi arnon ni rywfaint – felly fe allwn ni fynd amdani a gweld beth ddaw o hynny.

“Does dim rheswm pam na allwn ni i fod yn hyderus. Ry’n ni wedi cael dwy fuddugoliaeth ragorol yn erbyn Glyn Ebwy a Phont-y-pŵl yn ein dwy gêm ddiwethaf ac ry’n ni am deithio i Gaerdydd mewn hwyliau da.”

Wedi iddyn nhw fod ar ei hôl hi yn erbyn Aberafan, llwyddodd Pen-y-bont i gipio’u buddugoliaeth nhw o 13-10 mewn amodau echrydus ar Faes y Talbot Athletic.

Cic gosb hwyr gan yr eilydd Lloyd Wilkins brofodd i fod y sgôr allweddol yng ngwynt a glaw cryf Aberafan. Roedd cic Scott Delveño wedi rhoi’r Dewiniaid ar y blaen yn gynnar, cyn iddo drosi cais y mewnwr Elis Horgan i ymestyn eu mantais i 10-0.

Ond tarodd Pen-y-bont yn ôl wrth i hanner amser ddynesu pan groesodd y cefnwr Edd Howley, eiliadau wedi i Aberafan golli gwasanaeth y prop pen rhydd Jordan Walters am 10 munud.

Sgoriodd yr asgellwr Mccauley Rowley ail gais i’r ymwelwyr ychydig wedi awr o chwarae. Er na lwyddodd Wilkins gyda’r trosiad hwnnw – ei gic gosb gywir hwyrach oedd y gwahaniaeth rhwng y ddau dîm erbyn y diwedd.

Mae Glyn Ebwy wedi curo Pen-y-bont ym mhob un o’u tair gêm hyd yma’r tymor hwn, ond er iddyn nhw ennill 12 o’u 13 gêm yn gynharach yn y tymor, mae eu canlyniadau wedi bod yn llai calonogol yn ddiweddar.Fe gollon nhw bedair o’u pum gêm olaf o’r tymor arferol, olygodd bod Caerdydd wedi codi uwch eu pennau ar y Sadwrn olaf.

Mae Prif Hyfforddwr Pen-y-bont, Scott Baldwin, yn teimlo bod ei dîm mewn lle da wrth baratoi i deithio i Barc Eugene Cross:

“Yn gyntaf dwi’n gobeithio y bydd y tywydd yn well na’r penwythnos diwethaf ac y bydd hynny’n caniatáu i ni osod ein hawdurdod ni ar y gêm.

“Wrth adeiladu tuag at y gemau ail-gyfle roedden ni’n sôn am bwysigrwydd ein perfformiadau – ac y byddai’r canlyniadau’n dilyn o hynny. Fe gawson ni’r ddau beth yn erbyn Aberafan ac fe roddodd hynny bleser mawr i mi.

“Doedd hi ddim yn gêm bert i’w gwylio o gwbl, ond fe wnaethon ni chwarae’n gall a cheisio lledu’r bêl ar yr adegau cywir.

“Ry’n ni’n mynd i Barc Eugene Cross i roi pwysau ar Lyn Ebwy – a bydd pwysau ar eu ysgwyddau yn dilyn eu rhediad diweddar o ganlyniadau anodd.

“Ry’n ni am ddefnyddio’r ffaith ein bod wedi cael gêm ychwanegol fel mantais; mae’r gêm ail-gyfle wedi cynnig y cyfle i ni wella.”

Bydd enillydd y gêm ar Barc Eugene Cross wedyn yn wynebu naill ai Abertawe neu Gasnewydd yn y rownd gynderfynol.

Bydd enillydd yr ornest rhwng Caerdydd a Chwins Caerfyrddin yn wynebu naill ai Llanymddyfri neu Rygbi Gogledd Cymru’n y rownd gynderfynol arall.

Bydd y fantais o chwarae gartref yn y pedwar olaf gan y timau orffennodd uchaf ar ddiwedd tymor arferol y cynghrair.

Rownd Wyth Olaf – Super Rygbi Cymru

R8O1: Caerdydd (1af) v Cwins Caerfyrddin, Parc yr Arfau Caerdydd; 14:30
R8O2: Llanymddyfri (4ydd) v Rygbi Gogledd Cymru (5ed), Banc yr Eglwys; 17:00 – Yn fyw ar S4C
R8O3: Glyn Ebwy (2il) v Pen-y-bont, Stadiwm Cymunedol CiNER Glass; 14:30
R8O4: Casnewydd (3ydd) v Abertawe (6ed), Stadiwm Casnewydd; 14:30

Related Topics