News

Undeb Rygbi Cymru’n amlinellu camau nesaf y Cyfarfod Cyffredinol Eithriadol

Mae dyddiad a threfniadau'r CCE wedi eu cadarnhau

Heddiw mae Undeb Rygbi Cymru wedi derbyn cais gan Undeb Rygbi Canol Morgannwg i dynnu’r tri chynnig ffurfiol yn y CCE ar y 13eg o Ebril 2026l yn ôl.

Hoffwn ddiolch i URCM am yr ysbryd adeiladol y maen nhw wedi trafod y materion pwysig hyn gyda’r Undeb trwy gydol y broses. Mae’r trafodaethau sydd wedi eu cynnal gyda’r clybiau a’r gwahanol Ranbarthau/Ardaloedd dros yr wythnosau diwethaf wedi bod yn hynod ystyrlon ac agored – yr union fath o drafodaethau sydd eu hangen ar y gamp yng Nghymru ar hyn o bryd. Rydym fel Undeb yn ddiolchgar am hynny.

Pam parhau gyda’r Cyfarfod Cyffredinol Eithriadol?

Mae gennym barch gwirioneddol am y cais gwreiddiol wnaed gan URCM, eu hymgysylltiad gyda’r broses a’r 50 o glybiau arwyddodd yr alwad am y CCE. Wedi dweud hynny, mae’n rhaid i ni fod yn gwbl glir am un pwynt pwysig. Unwaith i Gyfarfod Cyffredinol Eithriadol gael ei alw, yn unol â’n herthyglau fel sefydliad, ni ellir ei ganslo wedi hynny. Nid dewis mympwyol gan yr Undeb yw hyn – mae’n ofyniad cyfreithlon i ni barhau er mwyn sicrhau bod ein gweithredoedd democrataidd yn parhau a bod hawliau’r 282 o glybiau sy’n aelodau yn cael eu parchu – gan gynnwys y clybiau nad arwyddodd y cynnig ffurfiol gwreiddiol.

O’r herwydd bydd y CCE yn digwydd ddydd Llun y 13eg o Ebrill 2026 am 6pm yn Stadiwm Principality ac ar lein yn ogystal.

Beth fydd yn digwydd yn y cyfarfod?

Rydym wedi derbyn y cais ffurfiol i dynnu’r cais neu’r cynnig ffurfiol yn ôl yn unig gan URCM ar hyn o bryd ond rydym yn disgwyl ceisiadau pellach i gefnogi hynny gan glybiau eraill fu’n rhan o’r cynnig gwreiddiol.Os derbynir digon o’r ceisiadau hynny, mae Undeb Rygbi Cymru’n cynnig y canlynol:

– Byddwn yn ysgrifennu at y 282 o glybiau sy’n aelodau i ofyn os oes gan unrhyw glwb wrthwynebiad i’r tri chais gael eu tynnu’n ôl yn ffurfiol. Hoffwn wahodd clybiau i’n hysbysu o unrhyw wrthwynebiad erbyn 11am ddydd Gwener y 10fed o Ebrill 2026.
– Oni bai bod gwrthwynebiad gan y clybiau sy’n ymholi, bydd y cynigion ffurfiol yn cael eu tynnu’n ôl yn ffurfiol – a ni fydd pleidlais yn digwydd.
– Os oes gwrthwynebiad gan yr aelodaeth, bydd y CCE yn dechrau gyda chynnig i’r aelodaeth i bleidleisio os y dylai’r ceisiadau gwreiddiol gael eu tynnu’n ôl.
– Os nad yw’r cworwm angenrheidiol yn y cyfarfod, bydd yn cael ei ohirio am wythnos a bydd yn cael ei gynnal ar-lein bryd hynny.

Os yw’r cynigion ffurfiol yn digwydd neu beidio, bydd y CCE ar y 13eg o Ebrill yn agored i aelodau. Bydd yn cynnwys:

– Diweddariad a chyflwyniad gan Fwrdd Undeb Rygbi Cymru am faterion allweddol rygbi Cymru.
– Cyfle ffurfiol i glybiau holi tîm arweinyddol yr Undeb ac aelodau o Fwrdd yr Undeb
– Cyfle i fynychu’r cyfarfod yn bersonol yn Stadiwm Principality neu ar-lein.

Trefniadau

Anogir pob clwb sy’n aelod i fynychu’r CCE. Bydd aelodau’r Bwrdd yn bresennol trwy gydol y cyfarfod.
Bydd angen i bob aelod gofrestru ymlaen llaw gan gynnwys trefnu pleidlais trwy ddirprwy – cyn 11am ddydd Gwener y 10fed o Ebrill.

Bydd croeso i’r wasg fynychu’r cyfarfod a bydd cyfle iddynt gymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb gyda thîm arweinyddol yr Undeb wedi’r cyfarfod ddod I ben. Ni chaniateir datgelu unrhyw wybodaeth o’r cyfarfod tra ei fod ar waith – yn unol â threfn cyfarfodydd tebyg eraill. Bydd hyn yn caniatáu trafodaethau agored a gonest.

Fe edrychwn ymlaen at groesawu cymaint o’r clybiau ag sy’n bosib – yn bersonol y cyfarfod ei hun, neu ar-lein ar y 13eg o Ebrill. Yn y cyfamser Pasg Hapus i chi gyd.

Related Topics