News

Tom Rogers yn croesi Pont Llwchwr

Tom Rogers scores for Wales
Tom Rogers yn sgorio un o'i dri chais yn erbyn y Crysau Duon

Mae’r Gweilch wedi arwyddo asgellwr Cymru, Tom Rogers, i gryfhau eu carfan ar gyfer y tymor nesaf.

Mae’r gŵr ifanc sgoriodd dri chais yn erbyn Seland Newydd yn gynharach y tymor hwn wedi cytuno i symud o’r Scarlets a chroesi Pont Llwchwr.

Chwaraeoedd yr olwr amryddawn 88 o weithiau dros glwb Parc y Scarlets ac mae wedi cynrychioli Cymru 13 o weithiau hyd yn hyn.

Dywedodd Tom Rogers: “Mae’r Gweilch wedi cael llawer o lwyddiant dros y blynyddoedd ac rydw i wir yn edrych ymlaen at brofi fy hun mewn amgylchedd gwahanol.

“Fe wnes i siarad â Mark Jones, ac fe wnaeth hynny ddylanwadu’n fawr ar fy mhenderfyniad i symud yma. Wedi dweud hynny, mae’n bwysig iawn i mi gymryd y cyfle yma i ddiolch i holl ffyddloniaid y Scarlets am eu cefnogaeth arbennig yn ystod fy amser gyda’r clwb.”

Mae’r Gweilch yn colli  gwasanaeth blaenwyr rhyngwladol Cymru, Dewi Lake a Jac Morgan, i Gaerloyw ar ddiwedd y tymor wrth gwrs, ac felly bydd arwyddo Rogers yn hwb mawr i’w cefnogwyr nhw.

Dywedodd Prif Hyfforddwr y Gweilch, Mark Jones: “Mae arwyddo chwaraewr o allu a statws Tom yn dipyn o gamp i ni ac yn arwydd o’r hyn rydyn ni’n ei adeiladu yma yn y clwb.

“Mae Tom yn dalent cyffrous ac arbennig fydd yn ychwanegu at ddyfnder ein carfan – yn enwedig yn y tri ôl. Mi fydd yn chwaraewr gwerthfawr iawn i ni gan ei fod yn athletwr mor hyblyg ac yn ddawnus ar yr asgell ac yn safle’r cefnwr.

“Rydyn ni eisiau gwneud yn siwr bod gennym lawer o dalent ifanc a Chymreig yn ein carfan y tymor nesaf. Mae arwyddo Tom yn bendant yn gam pwysig a chywir i’r cyfeiriad hwnnw.”

Related Topics