Mae Prif Hyfforddwr Cymru, Sean Lynn, wedi enwi’r tîm i wynebu Lloegr yn Nhrydedd Rownd o gemau Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness y Menywod yn Ashton Gate, Bryste, ddydd Sadwrn 25 Ebrill (2.15pm).
Bydd y blaenasgellwr Bethan Lewis yn gapten ar Gymru, gan bo Kate Williams wedi anafu ei choes.
Mae Sean Lynn wedi gwneud dau newid i’r tîm ddechreuodd y gêm yn erbyn Ffrainc yn Ail Rownd y Bencampwriaeth y Sadwrn diwethaf.
Mae’r blaenasgellwr Branwen Metcalfe wedi ei dewis i ddechrau ei gêm gyntaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, a chynnwys Keira Bevan yn safle’r mewnwr yw’r newid arall.
Bydd y pum blaen sydd wedi’u dewis ar gyfer yr ornest ym Mryste yn dechrau eu trydedd gêm yn olynol gyda’i gilydd. Gwenllian Pyrs a Sisilia Tuipulotu fydd y propiau eto gyda Kelsey Jones yn dechrau’n safle’r bachwr.
Gwen Crabb a Jorja Aiono sydd wedi’u henwi yn yr ail reng unwaith eto. Yn y rheng ôl, yr wythwr Bryonie King fydd yn cadw cwmni i’w chapten a Metcalfe.
Mae Lleucu George wedi ei dewis yn faswr unwaith yn rhagor gyda Bevan yn dechrau ei hail gêm o ymgyrch eleni’n safle’r mewnwr.
Mae tri ôl Cymru yn cynnwys Jaz Joyce a Seren Singleton ar yr esgyll a Kayleigh Powell fydd y cefnwr unwaith eto’r penwythnos hwn.
Mae Alisha Joyce wedi’i henwi ymhlith yr eilyddion ac os y caiff ei galw o’r fainc – bydd hi’n ôl ar y maes rygbi rhyngwladol 158 diwrnod yn unig ar ôl iddi roi genedigaeth i Ralphie, ei mab hi a Jaz Joyce.
123 diwrnod wedi iddi ddod yn fam, fe gynrychiolodd ‘Butch’, Brython Thunder yn rownd gynderfynol yr Her Geltaidd yn Galway.
Fe gynrychiolodd hi Gymru ddiwethaf yn y fuddugoliaeth o 19-10 yn erbyn Japan yng nghystadleuaeth y WXV2 yn Ne Affrica yn 2024, a Jaz, ei gwraig, sgoriodd un o dri chais Cymru’r diwrnod hwnnw.
Felly, 562 diwrnod ar ôl i’r ddwy chwarae gyda’i gilydd dros Gymru ddiwethaf, maen nhw ar fin gwneud hynny eto ym Mryste ddydd Sadwrn.
Dywedodd Sean Lynn, Prif Hyfforddwr Cymru: “Mae pawb o fewn y garfan yn ymwybodol o faint yr her sy’n ein hwynebu yn erbyn Lloegr. Nhw yw Pencampwyr y Byd ac enillwyr y Gamp Lawn a byddwn yn chwarae ar eu tomen nhw ym Mryste – mewn stadiwm fydd dan ei sang.
“Mae’r hyn sydd o’n blaenau dros y penwythnos yn wirioneddol heriol gan bo Lloegr wedi arloesi yng ngamp y menywod a nhw sydd ar flaen y gad yn y cyd-destun hwnnw. Dyw hi’n ddim cyfrinach eu bod ar y blaen i weddill gwledydd y Chwe Gwlad ar hyn o bryd.
“Maen nhw wedi bod yn broffesiynol yn hirach na ni ac mae ganddyn nhw eu cynghrair ddomestig eu hunain. Dyna realiti’r her sydd o’n blaenau.
“Wedi dweud hynny – dyma’r gemau ry’ch chi eisiau eu chwarae a bod yn rhan ohonyn nhw. Fe fyddwn ni’n gwybod yn union ble ry’n ni ar ein siwrnai ni wrth ddatblygu wedi’r gêm yma yn Ashton Gate.
“Adeiladu ar ein perfformiadau, ein harddull ni o chwarae a pharhau i feithrin ein hunaniaeth ni ein hunain yw’r nod i ni’r penwythnos yma.
“Mae angen i ni chwarae gyda’r un angerdd a dwyster ag y gwnaethon ni yn erbyn Yr Alban a Ffrainc – ond gwneud hynny’n gyson trwy gydol yr ornest hon.
“Does dim amheuaeth bod agwedd ein merched i’w ganmol yn fawr. Mae’n nhw’n rhoi popeth dros yr achos a bydd angen i hynny fod yn amlwg iawn yn erbyn Lloegr.
“Ar ran yr holl chwaraewyr, yr hyfforddwyr a’r staff, alla i ddim dweud pa mor falch y’n ni o groesawu Alisha yn ôl wedi genedigaeth Ralphie.
“Mae ei siwrnai yn ôl i’r llwyfan rhyngwladol wedi bod yn rhyfeddol. Mae hi wedi bod mor benderfynol wrth anelu at wisgo crys coch Cymru unwaith eto – ac mae hynny wedi bod yn ysbrydoliaeth i bob un ohonon ni yn y garfan.”
Cymru (yn erbyn Lloegr)
15 Kayleigh Powell (Harlequins) – 30 cap, 10 pwynt
14 Seren Singleton (Brython Thunder) – 2 gap
13 Hannah Dallavalle (Hartpury-Caerloyw) – 71 cap, 25 pwynt
12 Courtney Keight (Sale/Brython Thunder) – 30 cap
11 Jasmine Joyce (Bryste/Brython Thunder) – 54 cap, 50 pwynt
10 Lleucu George (Hartpury-Caerloyw) – 37 cap, 15 pwynt
9 Keira Bevan (Bryste) – 80 cap, 147 pwynt
1 Gwenllian Pyrs (Sale) – 53 chap, 20 pwynt
2 Kelsey Jones (Hartpury-Caerloyw) – 54 cap, 25 pwynt
3 Sisilia Tuipulotu (Hartpury-Caerloyw /Brython Thunder) – 32 cap, 40 pwynt
4 Jorja Aiono (Brython Thunder) – 2 gap
5 Gwen Crabb (Brython Thunder) – 41 cap, 15 pwynt
6 Branwen Metcalfe (Brython Thunder) – 3 chap
7 Bethan Lewis (capten, Hartpury-Caerloyw /Gwalia Lightning) – 63 chap, 30 pwynt
8 Bryonie King (Gwalia Lightning) – 14 cap
Eilyddion:
16 Molly Reardon (Gwalia Lightning) – 14 cap, 10 pwynt
17 Maisie Davies (Gwalia Lightning/Bryste) – 14 cap
18 Donna Rose (Saraseniaid) – 39 cap, 10 pwynt
19 Georgia Evans (Saraseniaid) – 45 cap, 10 pwynt
20 Alisha Joyce (Brython Thunder/Bryste) – 54 cap, 35 pwynt
21 Seren Lockwood (Brython Thunder/ Hartpury-Caerloyw) – 6 chap
22 Jenna De Vera (Brython Thunder/Bryste) 1 cap
23 Catherine Richards (Gwalia Lightning) – 5 cap
