Mae tîm cenedlaethol Menywod Cymru wedi penodi nifer o aelodau staff newydd cyn ymgyrch Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2026.
Mae Undeb Rygbi Cymru wedi denu pum aelod allweddol newydd o staff i lenwi rolau pwysig yn y tîm y tu ôl i’r llen, i gefnogi carfan Chwe Gwlad Menywod Cymru.
Mae gan y pump gyfoeth o arbenigedd rygbi a phrofiad helaeth o weithio ar lefel elît y gamp.
Gareth Harris yw Arweinydd Perfformiad Corfforol newydd y garfan, Georgina Ewer yw’r Prif Ffisio gydag Erin Lynch yn ffisio ychwanegol hefyd. Ellie Beddall yw’r Gwyddonydd Chwaraeon newydd tra mai Jonny Hughes sydd wedi ei benodi’n Gydlynydd Cit newydd carfan y Menywod.
Dywedodd Prif Hyfforddwr Menywod Cymru, Sean Lynn:
“Mae hwn yn ddechrau newydd i ni cyn i ni fwrw ati’n y Chwe Gwlad. Ry’n ni’n falch iawn o groesawu Gareth, Georgina, Erin, Ellie a Jonny at staff y garfan genedlaethol hŷn.
“Ry’n ar ddechrau cylch pedair blynedd newydd wrth edrych ymlaen at Gwpan Rygbi’r Byd a dyw hi ddim yn gyfrinach ein bod wedi bod yn chwilio am ambell syniad newydd ac o bosib rhyw fath o agwedd wahanol hefyd.
“Mae gan bob un o’n staff newydd brofiad sylweddol o rygbi menywod a bydd eu harbenigedd yn allweddol wrth i ni ddatblygu syniadau newydd ac ambell ffordd newydd o weithredu’r syniadau hynny.”
Ymunodd Gareth Harris â’r garfan ym mis Hydref 2025 ar ôl gweithio fel Arweinydd Perfformiad Corfforol Llwybrau Datblygu’r Menywod cyn hynny.
Treuliodd saith mlynedd gyda thîm menywod Bryste yn Uwch Gynghrair Lloegr ac am bedair o’r blynyddoedd hynny bu’n Brif Hyfforddwr Perfformiad Athletaidd y clwb.
Georgina Ewer yw Prif Ffisio newydd y Garfan Genedlaethol ac mae hi’n dod â môr o brofiad o’r byd chwaraeon gyda hi – gan ei bod wedi gweithio gyda thîm rygbi menywod Lloegr, timau criced Morgannwg a’r Tân Cymreig, a thîm bobsled Prydain Fawr hefyd.
Chwaraeodd ran allweddol wrth sefydlu timau meddygol ar draws clybiau Uwch Gynghrair Menywod Lloegr (PWR). Mae hi hefyd wedi gweithio gyda Chlwb Rygbi’r Cymry’n Llundain, tîm dan-16 Rygbi Caerdydd a thîm dan-20 Menywod Cymru. Yn ddiweddar mae hi wedi bod yn gweithio fel ffisio gyda thîm seiclo INEOS Grenadiers cyn iddi benderfynu dychwelyd at fyd y bêl hirgron..
Erin Lynch yw ffisio newydd y garfan ac roedd hi’n gweithio yn y Gwasnaeth Iechyd cyn symud i weithio ar haen elît rygbi menywod.
Treuliodd bedair blynedd yn gweithio gyda Bryste yn Uwch Gynghrair Lloegr – mewn amgylchedd perfformiad uchel – cyn croesi Pont Hafren i ymuno â charfan Cymru.
Graddiodd Ellie Beddall o Brifysgol Loughborough cyn treulio blwyddyn yn gweithio gydag Undeb Rygbi Cymru. Fe dreuliodd gyfnod gyda phrif dîm yn dynion gan weithio gyda’r Dreigiau ar yr un pryd hefyd.
Jonny Hughes yw Cydlynydd Cit newydd carfan Menywod Cymru ac mae wedi dychwelyd adref i Gymru wedi iddo yntau weithio am gyfnod gyda menywod Bryste’n rheolwr ar eu tîm.
Bydd yn cyfuno ei ddyletswyddau gyda’r garfan genedlaethol â’i waith fel Rheolwr Tîm Gwalia Lightning. Mae hefyd wedi bod yn Rheolwr ar dimau D18 a D20 Cymru.
