News

Pontypridd yw Pencampwyr Cwpan o dan 11 DC Thomas

Pontypridd celebrate winning the DC Thomas Cup Final
Bechgyn Ysgolion Pontypridd

Ysgolion Pontypridd enillodd Gwpan DC Thomas (Cystadleuaeth D11) yn dilyn eu buddugoliaeth o 45-10 dros Ysgolion Abertawe yn Rodney Parade.

Agorodd Pontypridd y sgorio drwy Rhys Harries cyn i’r asgellwr Noah Dollman ddyblu’r fantais.

Wedi ceisiau pellach gan Phoenix Bestwick a Dafydd Evans, roedd bechgyn ‘Ponty’ ar y blaen 25-0 ar yr egwyl.

Croesodd Louie Head dros Abertawe wedi troi, ond ymatebodd Cooper Pring yn gyflym ac yn effeithiol dros Ysgolion Pontypridd.

Dyblodd Evan Cokeley gyfanswm ceisiau Ysgolion Abertawe – ond seliwyd buddugoliaeth Pontypridd pan wibiodd Toby Shanahan yn glir am gais yn yr eiliadau olaf.

Rhymney celebrate after winning the DC Thomas Plate Final
Ysgolion Cwm Rhymni

Cwm Rhymni enillodd Blât DC Thomas D11 yn dilyn eu buddugoliaeth o 50-10 dros fechgyn y Mynydd Mawr.

Gruffudd Tudur agorodd y sgorio i fois y gorllewin cyn i Gwm Rhymni daro’n ôl yn gadarn. Yn dilyn ceisiau Tom Thompson, Jazson Mann a Harri Edwards roedd bechgyn y dwyrain ar y blaen o 20-5 ar yr egwyl.

Agorwyd y bwlch rhwng y timau ymhellach wedi i Sonny Humphries ddangos ei gryfder ac wedi i Tom Thompson redeg yn glir at linell gais Mynydd Mawr.

Er i’r disglair Zac Anyadike wibio am gais cofiadwy dros fechgyn y Mynydd Mawr, fe hawliodd Cwm Rhymni geisiau pellach gan Rohun Price, Finley Hurn a Harri Edwards i gadarnhau buddugoliaeth glir.

Gêm gyfartal 15-15 yr un gafwyd yn Rownd Derfynol Powlen DC Thomas D11 rhwng Cwm Cynon a Chastell-nedd.

Roedd Cwm Cynon ar y blaen 10-0 ar yr egwyl, ond sgoriodd Lucas James ddwywaith i Gastell-nedd i wneud pethau’n gyfartal, cyn i Carter Russell roi Cwm Cynon yn ôl ar y blaen.

Wedi cais corfforol George Thomas, roedd hi’n 15-15 ar y sgorfwrdd ac felly roedd hi ar y chwiban olaf – olygodd bod y ddau dîm yn rhannu’r wobr am eleni.

Related Topics