Mae George North wedi cadarnhau y bydd yn ymddeol o chwarae rygbi ar ddiwedd y tymor presennol.
North yw’r olwr sydd wedi ennill y nifer fwyaf o gapiau dros Gymru ac fe ddywedodd ar ei gyfrifon cyfryngau cymdeithasol:
Over and out 😘 pic.twitter.com/1dCVN6wIqM
— George North (@George_North) April 29, 2026
“Ro’n i eisiau gadael i bawb wybod y byddai’n ymddeol ddiwedd y tymor yma. Dyma yw’r amser iawn i mi wneud y penderfyniad a’r cyhoeddiad yma.
“Dwi wedi llwyddo gwireddu breuddwydion fy mhlentyndod a chael y cyfle i weithio gyda rhai o staff, chwaraewyr a hyfforddwyr gorau’r byd.
“Alla’i ddim diolch digon i fy nheulu, fy ffrindiau a’r cefnogwyr am eu cefnogaeth dros y blynyddoedd. Byddaf wastad yn gwerthfawrogi a thrysori hynny.
“Y bennod nesaf? Dwi ddim yn siwr yn union beth sydd ar y gorwel – ond dwi’n gyffrous am yr hyn sydd i ddod – beth bynnag fydd hynny.”
Yn ystod ei gyfnod o 16 o flynyddoedd fel chwaraewr rygbi proffesiynol, bu North yn cynrychioli’r Scarlets, Northampton, y Gweilch a Provence Rugby.
Er iddo gael ei eni yn Lloegr, symudodd i Ogledd Cymru yn ddwy oed a mynychodd Ysgol Uwchradd Bodedern ar Ynys Môn. Chwaraeodd rygbi ieuenctid i Langefni, Pwllheli a’r Rhyl, a bu’n aelod o dîm dan 16 Gogledd Cymru drechodd y Scarlets. Enillodd ysgoloriaeth rygbi i Goleg Llanymddyfri, lle cafodd ei symud o’r ail reng i safle’r canolwr. Chwaraeodd i dimau dan 16 ac o dan 18 Cymru cyn iddo ymuno ag Academi’r Scarlets.
Gwnaeth North ei ymddangosiad cyntaf dros brif dîm y Scarlets yn erbyn Benetton Treviso ym mis Medi 2010 – ac fe sgoriodd ddwywaith!
Wedi iddo ddisgleirio gyda’r Llewod yn Awstralia, pan sgoriodd geisiau yn y Profion Cyntaf ac Olaf ym muddugoliaeth y teithwyr yn y gyfres o 2-1, penderfynodd George North adael Parc y Scarlets.
Symudodd i Northampton yn 2013, ac o fewn blwyddyn, roedd wedi ennill Uwch Gynghrair Lloegr yn Twickenham pan drechwyd y Saraseniaid. Ar ddechrau tymor 2018/19, dychwelodd i Gymru ar gytundeb deuol gydag Undeb Rygbi Cymru a’r Gweilch.
Y clwb olaf i North eu cynrychioli yw Provence Rugby sy’n chwarae eu rygbi yng Nghynghrair y Pro D2. Symudodd George North i Ffrainc ar gyfer tymor 2024/25 a bydd yn gorffen ei yrfa yno hefyd yr haf hwn.
O safbwynt ei yrfa ryngwladol – North yw Cap Rhif 1078 dros Gymru – ac fe grëodd argraff ar unwaith yn y Crys Coch. Ac yntau ond yn 18 oed, fe sgoriodd ddau gais cofiadwy yn erbyn De Affrica yn Stadiwm y Mileniwm yn 2010.
Ar y diwrnod hanesyddol hwnnw, y 13eg o Dachwedd, North oedd y chwaraewr ieuengaf mewn bron i 117 mlynedd i sgorio cais ar ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru – ac yntau ond yn 18 oed a 214 diwrnod – gan guro record flaenorol Tom Pearson (18 oed a 238 diwrnod yn 1891).
George North yw’r trydydd chwaraewr ieuengaf erioed i chwarae i Gymru, y tu ôl i Tom Prydie a Norman Biggs.
Dros gyfnod o 14 mlynedd, fe gynrychiolodd North, Gymru 121 o weithiau ar y llwyfan rhyngwladol. Dim ond Alun Wyn Jones (158) a Gethin Jenkins (129) sydd wedi ennill mwy o gapiau dros Gymru. O safbwynt ceisiau – dim ond Shane Williams (58) sydd wedi sgorio mwy o weithiau na North (47) yng Nghrys Coch Cymru.
Pan sgoriodd ei ddau gais yn erbyn Namibia yng Nghwpan y Byd 2011, ef oedd y chwaraewr ieuengaf erioed i sgorio cais yn y gystadleuaeth ar y pryd – yn 19 oed a 166 diwrnod – gan guro record flaenorol Joe Roff o Awstralia.
Tra roedd George North yn ei arddegau, fe enillodd 20 cap ac ef oedd y chwaraewr cyntaf erioed i sgorio 10 o geisiau rhyngwladol ac yntau’n dal yn ei arddegau.
Daeth carreg filltir arall yn ei yrfa ar 28 Chwefror 2015 wrth i Gymru herio Ffrainc, gan i North ddod y chwaraewr ieuengaf erioed i chwarae mewn hanner cant o Gemau Prawf (47 dros Gymru a 3 dros y Llewod).
Enillodd ei 50fed cap dros ei wlad yn Nulyn ar 29 Awst y flwyddyn honno mewn gêm baratoadol yn erbyn y Gwyddelod cyn Cwpan y Byd.
George North oedd y chwaraewr cyntaf erioed i sgorio tri chais dros Gymru’n y Chwe Gwlad pan wnaeth hynny’n erbyn Yr Eidal yn Rhufain yn 2015 – a’r tymor canlynol fe grëodd nifer o recordiau newydd hefyd wrth iddo ennill 473 o fetrau, gwneud 12 bylchiad glân, curo cyfanswm o 26 o amddiffynwyr, a gorffen fel prif sgoriwr ceisiau’r Bencampwriaeth gyda phedwar cais.
Bu North yn aelod allweddol o dimau Cymru enillodd y Gamp Lawn yn 2012 a 2019, heb anghofio am deitlau’r Chwe Gwlad yn 2013 a 2021 hefyd. Roedd ei ddau gais yn erbyn Ffrainc ym Mharis yn 2019 yn allweddol wrth sicrhau’r Gamp Lawn y flwyddyn honno.
George North oedd chwaraewr rhif 792 i gynrychioli’r Llewod. Cafodd ei ddewis ar gyfer dwy daith – i Awstralia yn 2013 ac yna i Seland Newydd yn 2017. Sgoriodd bedwar cais mewn saith ymddangosiad i’r Llewod, ac fe ddechreuodd pob un o’r tri phrawf yn 2013.
North yw’r chwaraewr ieuengaf i gyrraedd 100 cap rhyngwladol, pan gyflawnodd hynny’n erbyn Lloegr ar 27 Chwefror 2021 – ac yntau’n 28 oed a 320 diwrnod.
Yn 2023, teithiodd gyda Chymru i’w bedwerydd Cwpan y Byd – ac fe sgoriodd yn erbyn Fiji a Georgia gan godi ei gyfanswm yn y gystadleuaeth dros y blynyddoedd i chwe chais.
