News

Morris yn cipio'r fuddugoliaeth i Lyn Ebwy o dan drwynau Abertawe

Ieuan Morris o Lyn Ebwy

Prif bwnc trafod y penwythnos yn Super Rygbi Cymru oedd buddugoliaeth ddramatig Glyn Ebwy o 34-33 yn erbyn Abertawe.

Trydydd cais y bachwr Ieuan Morris hawliodd y fuddugoliaeth hwyr hon i Jason Strange a’i chwaraewyr – gan sicrhau na ddioddefodd Gwŷr y Dur eu trydedd colled o’r bron.

Dywedodd Strange: “Roedd hi’n gêm anhygoel, gyda phum cerdyn melyn ac un cerdyn coch. O ystyried yr holl heriau wynebon ni, mae curo Abertawe – sy’n dîm sydd wedi gwella llawer yn ddiweddar yn rhoi boddhad mawr i mi.”

Morris bellach yw prif sgoriwr ceisiau Super Rygbi Cymru, wedi iddo godi ei gyfanswm i 17 hyd yn hyn y tymor yma. Mae saith o’r rheini bellach wedi dod yn erbyn Abertawe, ar ôl iddo sgorio bedair gwaith yn y fuddugoliaeth flaenorol o 28-0 yn eu cyfarfyddiad cyntaf o’r tymor.

Er i asgellwr de Abertawe Liam Lloyd roi’r clwb cartref ar y blaen ar yr Erw Lydan, cafodd y crysau gwynion ergyd drom wedi bron i hanner awr o chwarae pan ddanfonwyd y chwaraewr rheng ôl Iwan Shenton oddi ar y cae.

Llwyddodd maswr Glyn Ebwy Tom Price gyda chic gosb a throsiad, ond ymatebodd y tîm cartref i arwain 19-8 ar yr egwyl o ganlyniad i geisiau’r asgellwr chwith Lewis Edwards a’r mewnwr Matthew Aubrey. Fe drosodd Josh Phillips y ddau gais hwnnw.

Fe gostiodd diffyg disgyblaeth Abertawe yn ddrud iddyn nhw’n y pen draw. Cafodd y prop Kian Hire a’r cefnwr Mat Protheroe gerdiau melyn, olygodd eu bod yn chwarae gyda dim ond 12 chwaraewr am gyfnod – a manteisiodd Glyn Ebwy ar hynny.

Dyfarnwyd cais cosb iddyn nhw, cyn i Morris groesi am yr eildro ac yna tro’r canolwr Cameron Davies oedd hi i dirio. Wedi dau drosiad arall gan Price, roedd yr ymwelwyr ar y blaen 29-19.

Cafodd clo Glyn Ebwy Curtis Gregory a’r prop Luke Garrett eu danfon i’r cell cosb, a dyfarnwyd cais cosb i Abertawe yn fuan wedi hynny. Croesodd Callum Bowden am gais arall i fechgyn y gorllewin ac yn dilyn trosiad arall gan Josh Phillips roedd y tîm cartref ar y blaen 33-29.

Ond roedd tro arall yng nghynffon yr ornest gofiadwy hon pan gafodd Abertawe gerdyn melyn arall – y tro hwn i’r eilydd Iwan Glynn.

Yn symudiad olaf y gêm yn dilyn sgarmes symudol effeithiol, fe gododd Morris o waelod y pentwr cyrff i hawlio buddugoliaeth hwyr iawn i Lyn Ebwy gan hefyd chwalu gobeithion Abertawe o ennill eu chweched gêm gynghrair o’r bron.

Ar y llaw arall, llwyddodd y Pencampwyr presennol Casnewydd i ennill eu chweched gêm nhw’n olynol wrth drechu Pen-y-bont o 35-20. Yn ogystal â’r fuddugoliaeth a phwyntiau bonws dwbl – dyma oedd y tro cyntaf i Gasnewydd amddiffyn y Darian Her, wedi iddyn nhw ei chipio oddi ar Lyn Ebwy’r penwythnos blaenorol.

Sgoriodd pum chwaraewr geisiau i Gasnewydd: y mewnwr Dafydd Buckland, yr wythwr a’r capten Ben Roach, y blaen-asgellwr Kyle Tayler, yr eilydd o fachwr Henry Palmer a Chay Foster-Smith. Troswyd pob un o’r ceisiau gan Harrison James.

Er hynny, ni adawodd yr ymwelwyr yn waglaw o ganlyniad i ddau gais Corey Lewis a sgoriau McKenzie Scales a Mccauley Rowley.

Dioddefodd Llanymddyfri eu pedwaredd colled mewn pum gêm wrth i Gaerdydd ennill yn gyfforddus o 45-15 ar Fanc yr Eglwys. Hawliodd Osian Darwin-Lewis ddau gais yn ystod y deugain munud agoriadol i roi tîm Dan Fish ar ben ffordd – a chyn y chwiban olaf roedd Dewi Cross, Tom Bowen, Ben Fry, Joe Goodchild ac Aled Ward hefyd wedi croesi’r gwyngalch. Trosodd Harri Wilde bump o’r saith cais hwnnw. Er i Tomi Lewis ac Adam Warren sgorio ceisiau dros y clwb cartref, wnaeth cerdyn coch y mewnwr George Macdonald ddim helpu achos y Porthmyn.

Cododd Rygbi Gogledd Cymru uwchben Cwins Caerfyrddin i’r chweched safle’n y tabl yn dilyn eu buddugoliaeth o 41-23 ar Barc Eirias. Aeth y clwb cartref ar y blaen trwy gais y mewnwr Connor Dever, droswyd gan Billy McBryde. Serch hynny, erbyn yr egwyl roedd y Cwins ar y blaen 13-7.

Wedi troi fe sgoriodd McBryde, y canolwr Delwyn Jones, yr asgellwyr Caio Parry a Sam Jones, a’r eilydd Osian Burt geisiau dros y Gogleddwyr gan sicrhau chwe phwynt i’w tîm. Ychwanegodd McBryde dri throsiad a chic gosb hefyd.

Sgoriodd y cefnwr Eilir George a Gabe McDonald i Gaerfyrddin gan sicrhau pwynt bonws iddyn nhw am eu holl ymdrechion.

Daeth cyfnod hir Aberafan heb fuddugoliaeth i ben wrth iddyn nhw guro Pont-y-pŵl o 38-14 mewn brwydr ar waelod y tabl. Hon oedd eu llwyddiant cyntaf yn y cynghrair ers bron i bum mis.

Sgoriodd y mewnwr Scott Whitlock dri chais yn ystod yr hanner cyntaf ac roedd anel Keillen Cullen wrth gicio’n gywir hefyd, olygodd bod y Dewiniaid ar y blaen o 24-0 ar yr egwyl.

Ymatebodd Pont-y-pŵl gyda cheisiau gan yr asgellwr Marcus Jones a’r cefnwr Ewan Rosser, a dau drosiad gan Kieran Meek.

Ond seliodd ceisiau pellach gan Ashton Evans a Scott Delnevo, droswyd eto gan Cullen, y fuddugoliaeth hirddisgwyliedig hon i Aberafan.

Yn anffodus i Bont-y-pŵl – hon oedd eu 11eg colled yn olynol yn Super Rygbi Cymru.

Related Topics